Aelod o hen deulu; priodasai ei hynafiaid agosaf â merched plasau Penllech, Abercin, a Neigwl; ei wraig gyntaf yn ferch Saethon, a'r ail yn nith i Thomas Wynn o Foduan, priodas a'i dug i gylchfyd pobl fwyaf pwysig yr orynys. Pur wantan yw'r profion o'i ymlyniad wrth y Senedd yn ystod y Weriniaeth, ond nid oedd ddadl am hynny ym meddyliau brenhinwyr yr Adferiad : gosodasant ef ar restr y bobl beryglus, darganfod dau fwndel o bistolau ynghudd yn Nanhoron, agor ei lythyrau, a'i anfon (yn ôl un hanes) i garchar Caernarfon. Er ei fod yn Biwritan, ac yn Annibynnwr gyda hynny, methwyd yn lân ag anwybyddu y nodweddion cadarn a'i gwnâi yn allu effeithiol ym mywyd Llŷn; ei wybodaeth o'r gyfraith, ei wybodaeth eang ddofn am dras a threigl y teuluoedd, ei stôr fawr o synnwyr cyffredin, a'i fedr anghyffredin i gadw cyfrinach; daeth yn ben athrywynnwr mewn achosion dyrys, a deuai'r Eglwyswr a'r Cafalir ato am gyngor ar bethau na hoffent i'r byd wybod amdanynt, fel y digwyddodd gydag ewyllys olaf Sieffre Glyn o'r Gwynfryn ger Pwllheli (1672), gyda'r ewyllys ddiflas yng Nghefn Amwlch (1691), a chyda'r 'draft' o ewyllys Edward Williams o Feillionydd yn 1677 - swm o arian i'w roddi o'r neilltu i godi ysgol ramadeg ym Mhwllheli, Edwards ei hun i fod yn un o'r ' trustees.' Penodwyd ef yn is-faer tref Caernarfon yn 1668, ac yn uchel siryf yn 1696. Ni ddylai'r swyddi hyn na'i gyfeillgarwch ag Eglwyswyr daflu cochl dros ei Biwritaniaeth ddigamsyniol, fel y prawf ei groeso cynnes i'w gyfaill Piwritanaidd Henry Maurice yn 1672, yr help a ddyry i weddw Maurice gyda thiroedd y Gwynfryn yn 1688, a'i ran yn sicrhau gwasanaeth Annibynnwr o'r De i arolygu Annibynwyr Pwllheli a'r wlad oddi amgylch. Yn 1687 talwyd teyrnged arbennig i'w bwysigrwydd fel Piwritan ym marn y byd - enwyd ef fel gŵr tebygol o weithredu fel ynad heddwch a gweithio allan bolisi newydd Iago II o roddi rhyddid i Babyddion ac Ymneilltuwyr. Nid bod y prawf lleiaf y credai Edwards yn y polisi rhagrithiol hwn, na'i fod yn debyg o dderbyn yr ynadaeth o dan yr amgylchiadau. Bu farw 10 Gorffennaf 1704, 'yn 76 oed'.
Daeth Piwritaniaeth Edwards i'r amlwg drwy ei waith yn rhoddi enwau Ysgrythurol i'w blant (Jeremiah, Timothy, Martha - chwech Timothy yn y Pedigrees), ac yn eu priodi ag aelodau o deuluoedd Piwritanaidd, un mab yn priodi un o ferched Lathrop o West Felton, merch yn priodi Walter Griffith o Lanfyllin. Yn rhyfedd braidd, Saesnes ronc a briodasai un o'i orŵyrion - TIMOTHY EDWARDS, capten yn y llynges - a hynododd ei hun drwy ei diddordeb yn achos yr Annibynwyr Cymraeg yn y Capel Newydd ger Nanhoron. Ŵyr iddynt hwy oedd RICHARD LLOYD EDWARDS (1806 - 1876), Tori cadarn ac Eglwyswr selog, un o is-raglawiaid sir Gaernarfon, uchel siryf (ar wahanol adegau) tair o siroedd Cymru, gŵr blaengar iawn ym mhob mudiad cyhoeddus o bwys.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.