WYNN (TEULU), Rûg, Sir Feirionnydd, a Boduan (Bodfean), Sir Gaernarfon.

Ceir manylion am rai o aelodau'r teulu hwn yn erthyglau ar Bodvel (Teulu), Bodfel, Sir Gaernarfon, Glynn (Teulu), Glynllifon, Sir Gaernarfon, a Nannau, ' Nanney ' (Teulu), Sir Feirionnydd. Dangosir yn yr erthygl ar deulu Nannau sut y daeth EDWARD WILLIAMES SALUSBURY VAUGHAN (bu farw 1807), mab Syr Robert Howell Vaughan (y barwnig 1af o Nannau; bu farw 1796) yn berchen tiroedd Rûg drwy ewyllys yr etifeddes (1780); buont ym meddiant y Fychaniaid hyd 1859, sef hyd farw Syr Robert Williames Vaughan, y 3ydd barwnig, a'u gadawodd yn ei ewyllys i drydydd mab Spencer Bulkeley, 3ydd arglwydd Newborough, sef i CHARLES HENRY WYNN (ganwyd 22 Ebrill 1847 a bu farw 14 Chwefror 1911). Dilynwyd C. H. Wynn gan ei fab hynaf, eithr yn hen gartref y teulu, sef Plas Boduan, rhwng Pwllheli a Nefyn, y mae'r teulu yn byw yn awr. Am fanylion ynghylch hanes y bobl a oedd yn byw yn gynharach yn Rûg, yn enwedig Salsbriaid Bachymbyd, gweler erthygl gan B. G. Owens, ' Rug Deeds and Documents in the National Library,' yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, vi, 104-6, chatalogiau'r Llyfrgell o ddogfennau Rûg a rhai yr arglwydd Bagot. Daethai PIERS SALUSBURY i feddu arglwyddiaeth Rug drwy ei wraig yn gynnar yn y 16fed ganrif. Prynodd ei fab yntau, ROBERT SALUSBURY, yn 1549, arglwyddiaeth Glyndyfrdwy a oedd yn rhan o dreftadaeth Owain Glyndwr; gweler yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, ii, 48, ddisgrifiad o ddogfen yng nghasgliad yr arglwydd Bagot yn cofnodi trosglwyddo tir gan Owain Glyndwr yn 1392.

Fel y sylwyd, yn Llŷn, sef Boduan, y mae hen gartref y Wyniaid a ddaeth i feddu Rûg. Ceir manylion am Wyniaid Boduan yn y llyfrau arferol ar y teuluoedd tiriog, e.e. Burke, Nicholas, etc., a'r ach yn J. E. Griffith, Pedigrees, 59, 171 (nodyn), 173. Bu JOHN WYNN, Bodfel, sydd yn ymyl Boduan, yn siryf Sir Gaernarfon yn 1551 a 1560, a cheir iddo fod yn ymladd ar ran y brenin Edward VI yn erbyn Ket a'i gyd-wrthryfelwyr yn ymyl Norwich yn 1549, a chael Ynys Enlli yn rhodd am ei wroldeb (gweler Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, vi, 106 ). Aelod o deulu'r Pilstyniaid oedd ei wraig. Dilynwyd John Wynn gan ei fab THOMAS WYNN, Boduan. Gor-or-wyr Thomas Wynn oedd y Syr THOMAS WYNN (bu farw 1807), y barwn Newborough 1af (crewyd 1776) - gweler yr erthygl ar Glyn (Teulu), Glynllifon, ac erthygl fanwl gan E. D. Jones, yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, vi, 176-81 , sydd yn rhoddi manylion llawnach nag a ellir eu cynnwys yn yr erthygl hon.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.