Cywiriadau

SALUSBURY (TEULU), Rug, Corwen.

Sylfaenwyd y teulu yn gynnar yn y 16eg ganrif gan PIERS SALUSBURY, mab hynaf JOHN SALUSBURY, Bachymbyd, pedwerydd mab Thomas Salusbury, Llewenni (bu farw 1470) (gweler yr ysgrif ar Salusbury, Llewenni); priododd ef Margaret Wen, merch ac etifeddes Ieuan ap Howel ap Rhys, arglwydd Rug. Yr hynaf o'r saith mab o'r briodas hon ydoedd ROBERT SALUSBURY, ac ychwanegodd ef at y stad trwy brynu arglwyddiaeth Glyndyfrdwy gan William, arglwydd Graye o Wilton, a John Banester, a'i cafodd gan y Goron, 1552. Yr oedd Robert yn siryf sir Feirionnydd, 1544 a 1549, a sir Ddinbych, 1546, a phriododd Catrin, merch John ap Madog o Fodfel yn Llŷn. Dilynwyd ef gan ei fab John Salusbury (bu farw 1580), aelod seneddol dros sir Feirionnydd, 1553, a siryf, 1559 a 1578. Priododd Elisabeth, merch ei gâr Syr John Salusbury, Llewenni (' Syr John y Bodiau '), a bu farw yn 1580 gan adael y stad i'w fab hynaf, Syr ROBERT SALUSBURY (bu farw 1603), a briododd Elinor, merch Syr Henry Bagnall, Plas Newydd, Môn, ac a fu'n aelod seneddol tros sir Ddinbych, 1586-7, a sir Feirionnydd, 1588-9. Aeth dau o'i frodyr, y capten JOHN SALUSBURY a'r capten OWEN SALUSBURY, i ymladd fel gwirfoddolwyr yn y rhyfeloedd ar y Cyfandir; buont â llaw yng nghynllwynion bradwrus Syr William Stanley yn 1586 a 1587 a gwasnaethent am dymor ym myddin Sbaen. Yn ddiweddarach, tua 1596, daeth y ddau i gyswllt agos â iarll Essex; aethant gydag ef ar ei ymgyrch yn erbyn Calais y flwyddyn honno, dilynasant ef i Iwerddon, drachefn, yn 1599, ac yr oeddynt ymhlith yr amlycaf o gynorthwywyr yr iarll yn ei gynnig gorffwyll ac aflwyddiannus yn Chwefror 1600/1, i gyhoeddi gwrthryfel yn erbyn gweinidogion y frenhines. Lladdwyd Owen yn ystod yr helynt a chladdwyd ef ym mynwent S. Clement Danes, Llundain; ond wedi tymor byr yng ngharchar a thalu dirwy o £40 rhyddhawyd John cyn mis Medi 1601.

Bu farw Syr Robert Salusbury yn 1603, a'i fab hynaf a'r aer, John Salusbury, yn ddiblant, yn fuan ar ei ôl yn 1607/8. Daeth stad Rug, felly, i feddiant WILLIAM SALUSBURY, brawd arall i Syr Robert, a adwaenir fel ‘Hen Hosanau Gleision.’ Yr oedd yn un o bleidwyr selocaf y brenin yn y Rhyfel Cartrefol; atgyweiriodd gastell Dinbych ar ei gost ei hun yn 1643, ac er mewn oedran teg, ei amddiffyn yn gadarn yn erbyn byddin y Senedd; ac nid cyn 26 Hydref 1646, wedi deufis o warchae, y cytunodd i ildio'r castell i'r cadfridog Mytton. Bu'n aelod seneddol dros ei sir, 1620-2, a phriododd Dorothy, merch Owen Vaughan, Llwydiarth.

O'i dri mab, yr hynaf, ac aer Rug, oedd Owen Salusbury (bu farw 1657), siryf sir Feirionnydd, 1647-8; priododd Mary, merch ac aeres Gabriel Goodman, Abenbury, ‘protonotary’ Gogledd Cymru, a bu farw 17 Ionawr 1657/8. Cafodd CHARLES SALUSBURY, yr ail fab, stad Bachymbyd, ac yn 1660 yr oedd i fod yn ‘Knight of the Royal Oak’ fel teyrnged i wasanaeth teulu Rug i'r brenin Siarl I. Dilynwyd Owen Salusbury gan ei fab WILLIAM SALUSBURY, siryf sir Feirionnydd, 1661-2, a fu farw yn 1677, a chan ei fab yntau, OWEN SALUSBURY (bu farw 1694), a droes yn Gatholig ac a fu farw yn 1694, gan adael dwy ferch. Priododd Elisabeth, yr hynaf, a gafodd Rug, â Rowland Pugh, Mathafarn yng Nghyfeiliog, a bu iddynt un mab, WILLIAM PUGH SALUSBURY, a fu farw'n ddibriod, a dwy ferch. Etifeddwyd stad Rug gan yr hynaf o'r ddwy, MARIA CHARLOTTE (1721 - 1780) a briododd (1), Thomas Pryse, Gogerddan (bu farw 1745), a (2), y Parch. John Lloyd. Bu hi farw 26 Awst 1780, gan adael Rug trwy ewyllys i Edward William Vaughan, ail fab Syr Robert Howel Vaughan, Nannau a Hengwrt. Bu farw Edward yn Sicily, 1807; yna daeth y stad yn eiddo i'w frawd ieuengaf, Griffith Howel Vaughan, wedyn, yn 1848, i nai Griffith, Syr Robert Williames Vaughan, Nannau ac Ystumcolwyn, ac ar ôl Syr Robert, i Charles Henry Wynn (1847 - 1911), Glynllifon, trydydd mab Spencer Bulkeley Wynn, y 3ydd barwn Newborough.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau

SALUSBURY, SALESBURY (TEULU), Y Rug a Bachymbyd

Sylfaenwyd y teulu hwn ym Machymbyd, rhwng Rhuthun a Dinbych, yn niwedd y 15fed ganrif gan JOHN SALUSBURY, pedwerydd mab Thomas Salusbury o Leweni (bu farw 1490 — gweler yr ysgrif ar Salbriaid Lleweni a Bachygraig uchod). Daeth Y Rug i'w feddiant trwy briodas PIERS SALUSBURY, mab hynaf John, â Margaret Wen, merch ac aeres Ieuan ap Hywel ap Rhys, arglwydd Y Rug ger Corwen, Meirionnydd. Y Rug a ddaeth y pwysicaf o'r ddwy gangen, er mai yn sir Ddinbych, o amgylch Rhuthun, y gorweddai y rhan helaethaf erioed o stadau'r teulu. Dylir nodi mai'r sillafiad ‘Salesbury’ a fabwysiadwyd gan y gangen hon o'r Salbriaid, ac mai anaml y defnyddid yr un arall ganddi trwy gydol y 16eg a'r 17eg ganrif o leiaf. Yr hynaf o saith mab Piers oedd ROBERT SALUSBURY, siryf sir Feirionnydd yn 1544 a 1549 a sir Ddinbych yn 1546; priododd Catrin, merch John ap Madog o Fodfel yn Llŷn. Dilynwyd ef gan ei fab, JOHN SALUSBURY, a fu'n aelod seneddol tros sir Feirionnydd yn 1553 ac yn siryf y sir honno yn 1559 a 1578. Ychwanegodd John at y stâd trwy brynu arglwyddiaeth Glyndyfrdwy gan William, arglwydd Graye de Wilton, a John Banester, a'i cafodd gan y Goron yn 1552. Priododd ef Elisabeth, merch ei gâr, Syr John Salusbury, Lleweni (siambrlen Gwynedd), a bu farw yn 1580 gan adael ei diroedd i'w fab hynaf, Syr ROBERT SALUSBURY (bu farw 1599) a briododd Elinor, merch Syr Henry Bagnall, Plas Newydd, Môn, ac a fu'n aelod seneddol tros sir Ddinbych 1586-7 a sir Feirionnydd 1588-9. Aeth i Iwerddon yn gapten yn y fyddin Seisnig, ac urddwyd ef yn farchog yno yn 1593 gan yr Arglwydd Ddirprwy. Ymladdodd ei frawd, y capten JOHN SALUSBURY, a'i gâr, y capten Owen Salusbury, Holt (gweler hefyd yr ysgrif ar Salbriaid Lleweni a Bachygraig) fel gwirfoddolwyr yn y rhyfeloedd ar y Cyfandir; buont â llaw yng nghynllwynion bradwrus Syr William Stanley yn 1586 a 1587 a gwasanaethent am dymor ym myddin Sbaen. Yn ddiweddarach, tua 1596, daeth y ddau i gyswllt agos ag iarll Essex; aethant gydag ef ar ei ymgyrch yn erbyn Cadiz y flwyddyn honno, a'i ddilyn i Iwerddon, drachefn, yn 1599, ac yr oeddynt ymhlith yr amlycaf o gynorthwywyr yr iarll yn ei gynnig gorffwyll ym mis Chwefror 1600/1601 i gyhoeddi gwrthryfel yn erbyn gweinidogion y frenhines. Lladdwyd Owen Salusbury yn ystod yr helynt, ond wedi tymor byr yng ngharchar a thalu dirwy o £400, rhyddhawyd y capten John Salusbury cyn mis Medi 1601.

Bu farw Syr Robert Salusbury yn 1599, ac ar farw ei fab, JOHN SALUSBURY, yn ddi-blant yn 1608, etifeddwyd y stâd gan ewythr y llanc, y capten John Salusbury. Bu farw yntau hefyd yn ddi-blant ymhen tair blynedd yn 1611, ac fe'i dilynwyd gan frawd arall, WILLIAM SALUSBURY (a adwaenid yn ddiweddarach fel ‘Hen Hosanau Gleision '). Gwariasai Syr Robert a'r capten yn bur afradlon yn ystod y 30 mlynedd y buasai'r stadau yn eu meddiant, a phan ddaeth William i'w hetifeddu fe'u cafodd wedi'u morgeisio'n drwm. Ymhen 30 mlynedd arall o lafur caled ac o fyw'n gynnil yr oedd wedi talu'r cwbl o'i ddyledion, wedi adfer ei dreftadaeth ac ychwanegu ati hyd yn oed. Yna, o achos cweryl ffyrnig â'i fab hynaf, OWEN SALUSBURY, ynghylch priodas hwnnw â Mary, merch Gabriel Goodman o Abenbury, protonoter gogledd Cymru, holltodd William ei stadau'n ddwy ran, gan roi'r Rug a thiroedd sir Feirionnydd i Owen a Bachymbyd a thiroedd sir Ddinbych i'w ail fab, Charles. Yr oedd William yn un o bleidwyr selocaf y brenin yn y Rhyfel Cartref; atgyweiriodd gastell Dinbych ar ei gost ei hun yn 1643, ac er ei fod mewn oedran teg, ei amddiffyn yn gadarn yn erbyn byddin y Senedd. Nid cyn 26 Hydref 1646, wedi deufis o warchae ac ar orchymyn yn llaw'r brenin ei hun, y cytunodd i ildio'r castell i'r cadfridog Mytton. Bu'n aelod seneddol tros sir Feirionnydd 1620-22 a phriododd Dorothy, merch Owen Vaughan o Lwydiarth; bu farw yn 1660. Ymddiddorai mewn llenyddiaeth fel y dengys ei gopi o benillion y Ficer Prichard ac eraill yn llsgr. Llanstephan 37, a phrydyddai ei hun. Anwadal fu rhawd Owen Salusbury, y mab hynaf, yn ystod y Rhyfel Cartref; yr oedd yn siryf Meirionnydd 1647-8 a bu farw 17 Ionawr 1657/8 gan adael stâd Y Rug i'w fab hynaf, WILLIAM SALUSBURY, a fu'n siryf Meirionnydd 1661-2 ac a fu farw yn 1677. Dilynwyd ef yn ei dro gan ei fab, OWEN SALUSBURY, a droes yn babydd ac a fu farw yn 1694 gan adael dwy ferch. Priododd Elisabeth, yr hynaf, a gafodd Y Rug, â Rowland Pugh o Fathafarn yng Nghyfeiliog, a bu iddynt un mab, WILLIAM PUGH SALUSBURY, a fu farw'n ddi-briod, a dwy ferch. Etifeddwyd stâd Y Rug gan yr hynaf o'r ddwy, MARIA CHARLOTTE (1721 - 1780) a briododd (1) Thomas Pryse, Gogerddan (bu farw 1745), a (2) y Parch. John Lloyd. Bu hi f. 26 Awst 1780 gan adael Rug, trwy ewyllys i Edward Williames Vaughan Salesbury, ail fab Syr Robert Howel Vaughan, Nannau a Hengwrt. Bu farw Edward yn Sicily yn 1807; yna daeth y stâd yn eiddo i'w frawd iau, Griffith Howel Vaughan; wedyn, yn 1848, i nai Griffith, Syr Robert Williames Vaughan, Nannau ac Ystumcolwyn, ac ar ôl Syr Robert i Charles Henry Wynn (1847 - 1911), Glynllifon, trydydd mab Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd barwn Niwbwrch (gweler yr ysgrifau ar deuluoedd Glyn, Glynllifon a Wynn, Y Rug.

Brenhinwr pybyr fel ei dad ydoedd CHARLES SALUSBURY, ail fab amddiffynnwr castell Dinbych; enwyd ef yn ‘Knight of the Royal Oak’ yn 1660. Ei unig blentyn i oroesi ydoedd JANE SALUSBURY, aeres Bachymbyd, a thrwy ei phriodas yn 1670 aeth y stâd honno yn eiddo i'w gŵr, Walter Bagot, mab hynaf, aer ac olynydd Syr Edward Bagot, Blithfield, swydd Stafford, yr ail farwnig. Rhagwelodd cefnder Jane, William Salusbury, Y Rug, y byddai'r briodas hon yn debyg o ladd unrhyw obaith am aduno stadau'r Rug a Bachymbyd yn nwylo un o'r Salbriaid, a bu Bachymbyd yn achos gornest faith a chwerw yn y llysoedd rhyngddo ef a gŵr Jane. Eithr ofer fu ei ymdrechion i ad-feddiannu'r stâd, ac yng nghwrs y frwydr gorfu i Gabriel Salusbury, brawd William, ddianc i'r Cyfandir am iddo fod â llaw mewn ffugio gweithred ynglŷn â'r achos.

Awduron

  • Emyr Gwynne Jones, (1911 - 1972), Bangor
  • William James Smith, Reading

    Ffynonellau

  • J. E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families ( 1914 ), 59;
  • Archaeologia Cambrensis, 1878, 284-91;
  • A. H. Dodd yn English Historical Review, 1944, 348-70;
  • John Williams, Ancient and modern Denbigh a descriptive history of the castle, borough and liberties with sketches of the lives, character and exploits of the feudal lords ( Dinbych 1856 ), 213-38;
  • W. R. Williams, The History of the Parliamentary Representation of Wales ( 1895 ), 114, 115;
  • W. J. Smith (gol.), Calendar of Salusbury correspondence, 1553 - circa 1700 principally from the Lleweni, Rûg and Bagot collections in the National Library of Wales ( Caerdydd 1954 );
  • N.L.W., Llawysgrifau Rug yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Cywiriadau