Y mae'r teulu hwn yn olrhain ei ach hyd Gwaethfoed, Arglwydd Ceredigion, etc. Efallai mai'r aelod cyntaf i'w gysylltu ei hun â rhan ogleddol y sir, h.y. â Gogerddan, ydoedd RHYS AP DAFYDD LLWYD (Burke Peerage, Baronetage, arg. 1936). Canwyd iddo ef gan rai o'r beirdd - e.e. Siôn Ceri, Huw Arwystli, Mathew Brwmffild, a Lewis Môn (Cwrtmawr MS. 12B ). Y mae ar gael (e.e. yn Cwrtmawr MS 12B ) gywydd a ganodd Lewis Trefnant pan aeth DAFYDD LLWYD ar bererindod i Rufain; ceir yn yr un llawysgrif gywydd gan Gutyn Coch Brydydd i Dafydd Llwyd a'i fab Rhys. Hen-ewythr Dafydd Llwyd, y mae'n debyg, ydoedd IEUAN AP RHYDDERCH AP IEUAN LLWYD, Glyn Aeron, gŵr bonheddig a bardd; ef a bioedd Llyfr Gwyn Rhydderch (Peniarth MS 4 a Peniarth MS 5 ) ar un adeg. (Ni wyddys ar hyn o bryd pa le y mae Llyfr Gwyrdd Gogerddan.)
Rhoddir ach y teulu i lawr hyd y flwyddyn 1588 gan Lewis Dwnn (Visitations, i, 44-5, yr ach wedi ei seilio, y mae'n debyg, ar fanylion a gafwyd gan Thomas Jones, Fountain Gate, Tregaron); gweler hefyd yr ach yn Peniarth MS 156 fel yr argreffir hi yn W. Wales Hist. Records, i, 3-4. Gan fod manylion am y cenedlaethau dilynol i'w cael yn T. Nicholas, Annals of … County Families of Wales, i, 207-9, llyfrau Burke a Debrett, a gweithiau eraill cyffelyb, nid oes eisiau manylu ar holl aelodau'r teulu na'i geinciau yn yr erthygl hon.
Yr oedd JOHN PRYSE, ŵyr Rhys ap Dafydd Llwyd a bargyfreithiwr, yn aelod o lys y goror a bu'n cynrychioli sir Aberteifi yn y Senedd ar wahanol adegau rhwng 1553 a 1572. Profwyd ei ewyllys 7 Rhagfyr 1584. Priododd Elizabeth, merch Syr Thomas Perrot, Haroldston, Sir Benfro - gweler 'Cywydd i Siôn Prys o Ogerddan' (gyda chyfeiriadau at Elisabeth) gan Owain Gwynedd yn Cwrtmawr MS. 12B . Mab i John ac Elizabeth Pryse oedd Syr RICHARD PRYSE (urddwyd yn farchog, 1603) a dderbyniwyd i'r Inner Temple ym mis Tachwedd 1584. Bu Syr Richard Pryse yn siryf Sir Aberteifi yn 1604 ac yn aelod seneddol drosti deirgwaith. Bu farw Chwefror 1622/3, a dilynwyd ef gan ei fab Syr JOHN PRYSE, a dderbyniasid i'r Inner Temple Tachwedd 1608; ef oedd tad Syr RICHARD PRYSE (bu farw 1651), y barwnig (Gogerddan) 1af (cr. 1641). Bu Syr Richard Pryse yn aelod seneddol sir Aberteifi, 1646-8. Priododd (1) Hester, merch Syr Hugh Myddelton, barwnig, a (2) Mary, gweddw Anthony Van Dyck, yr arlunydd enwog. Dilynwyd ef gan ei fab, Syr RICHARD PRYSE, yr ail farwnig, ac yntau gan ei frawd Syr THOMAS PRYSE, y 3ydd barwnig. Olynydd Syr Thomas (yn 1682) oedd ei nai, Syr CARBERY PRYSE (bu farw 1695), y 4ydd barwnig; ceir ei hanes ef yn y D.N.B. Yn oedd ystod oes Syr Carbery Pryse, sef c. 1690, darganfuwyd mwynau ar ran o'i stad - yn Bwlch yr Esgair Hir. Er i'r mwynfeydd ddyfod i gael eu galw ' The Welsh Potosi ' darganfu Syr Carbery, am resymau a nodir yn y D.N.B., a'r ffynonellau a enwir yno, nad oedd y cwmni a ffurfiasai ef i weithio'r mwynau i lwyddo cymaint ag a ddisgwylid, a phan fu ef farw, yn 1695, yr oedd y cwmni yn drwm mewn dyled. (Prynwyd cyfranddaliadau Syr Carbery ychydig yn ddiweddarach gan Syr Humphrey Mackworth.) Oblegid i Syr Carbery farw yn ddibriod daeth y farwnigiaeth i'w therfyn ac aeth y stad i EDWARD PRYSE ac, yn ddiweddarach, i LEWIS PRYSE (1684 - 1720), a fu'n aelod seneddol dros ei sir a thros fwrdeisdref Aberteifi. Priododd Lewis Pryse Ann, merch John Lloyd, Aberllefenni, eithr gan iddo farw heb adael mab aeth y stad i'w gefnder, THOMAS PRYSE, aelod seneddol dros sir Aberteifi, 1741-3. Bu unig fab Thomas Pryse, JOHN PUGH PRYSE, yn cynrychioli sir Aberteifi a sir Feirionnydd yn y Senedd; ynglŷn â John Pugh Pryse a'i fam, Maria Charlotte Prys (Lloyd wedi hynny), gweler gatalog dogfennau Rhûg (gerllaw Corwen) yn Ll.G.C. Bu John Pugh Pryse farw yn ddibriod, 13 Ionawr 1774, a dilynwyd ef gan ei gefnder LEWIS PRYSE (1716 - 1779), New Woodstock, sir Rydychen. Priododd ei ferch ef, MARGARET, ag Edward Loveden Loveden, Buscot, sir Berks; hyn sydd yn cyfrif am bresenoldeb dogfennau o Buscot ymhlith cofysgrifau Gogerddan yn Ll.G.C. (N.L.W. Annual report, 1948-9). Aer Margaret (Pryse) ac Edward Loveden Loveden oedd PRYSE PRYSE (1774 - 1849); ei ŵyr ef, Syr PRYSE PRYSE (1838 - 1906), oedd barwnig cyntaf y llinell bresennol (cr. 28 Gorffennaf 1866). Prynwyd Plas Gogerddan a rhan o'r stad gan Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ym mis Awst 1950.
Dilynwyd Syr Pryse Pryse, barwnig (1838 - 1906) gan dri o'i feibion: Edward (1862 - 1918); Lewes (1864 - 1946) a fu'n bennaf gyfrifol am ysgogi'r mudiad a sefydlodd Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru; a George (1870 - 1948) a olynwyd gan ei unig fab Pryse Loveden Pryse Saunders (a anwyd 12 Tachwedd 1896), y pumed barwnig a'r olaf o'r llinach. Hyd yn oed cyn diwedd Rhyfel Byd I bu'n rhaid gwerthu darnau o'r ystad er mwyn talu dyledion ac oblygiadau teuluol cynyddol. Am ei fod yn ddi-etifedd a chyn hynny heb lawer o gyswllt â gogledd sir Aberteifi, ni chafodd hi'n anodd gwerthu'r plas a gweddill yr ystad o 3,839 acer i Goleg y Brifysgol Aberystwyth, i fod yn gartref i'r enwog Fridfa Blanhigion Cymru. Symudodd Syr Pryse i Glanrhydw, sir Gaerfyrddin. Bu farw mewn ysbyty yn Llundain, 5 Ionawr 1962.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.