Graddiodd yn Bencerdd Cerdd Dafod yn eisteddfod Caerwys, 1568 (Peniarth MS 121 (215), Peniarth MS 132 (60), Peniarth MS 144 (268)). Ni wyddys unrhyw fanylion amdano, ond cadwyd llawer o'i gerddi mewn llawysgrifau. Cywyddau i wahanol aelodau o deuluoedd bonheddig Gogledd Cymru yw'r rhan fwyaf ohonynt; yn eu plith ceir rhai i Lewys Owain o Ddolgellau a'i feibion, Siôn Owain Fychan o Lwydiarth, Siôn Salbri o Lyweni, Dafydd Llwyd ap Wiliam o Beniarth, a Dafydd Llwyd ap Huw ab Ifan o Ynys y Maengwyn. Canodd gywydd marwnad i'r bardd Syr Owain ap Gwilym, a chywyddau ymryson i Wiliam Llŷn ac i Huw Arwystl; canodd hefyd gywyddau crefyddol, cywydd i'r eira, a nifer o englynion amrywiol a gynnwys un ganddo ar ei glaf wely.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.