Fel Simwnt Vychan, Wiliam Cynwal, a Siôn Tudur, bu'n ddisgybl i Ruffudd Hiraethog a cheir ei enw hefyd fel un o'r pedwar bardd a raddiwyd yn benceirddiaid yn eisteddfod Caerwys yn 1568. Gellir tybied mai ym Meirion a Maldwyn, sir Ddinbych, a Sir Gaernarfon, yr oedd ei noddwyr luosocaf, ond hebryngodd glod i foneddigion cyn belled oddi wrth ei gilydd â theuluoedd Caehywel yn Sir Amwythig, Penmynydd ym Môn, Madryn a Bodwrdda yn Llŷn, y Gelli Aur ac Abermarlais yn nyffryn Tywi, ac Aber-brân yn sir Frycheiniog. Canodd foliant i amryw glerigwyr hefyd, yn eu plith Wiliam Hughes, esgob Llanelwy, a Richard Davies, esgob Tyddewi, y dywed iddo ymweld â'i blas yn Abergwili. Yn ei farwnad i'w gyfaill Owain ap Gwilym, y bardd a'r clerigwr o Dal-y-llyn ym Meirion, y mae'n sôn am gyd-deithio, ill dau, i'r deau. Yn ôl nodyn a sgrifennwyd mewn llawysgrif o tua hanner olaf yr 17eg ganrif yr oedd Wiliam Llŷn yntau'n glerigwr, ond prin y gall hynny fod yn wir. Yn ei ewyllys y mae'n gadael ei dŷ yn nhref Croesoswallt i'w wraig ac yn dymuno cael ei gladdu yng nghladdfa'r lle hwnnw. Yng nghofrestr eglwys y plwyf yno ceir cofnodion nid yn unig am farw'r bardd ei hun ar y dydd olaf o Awst 1580 ond hefyd am fedyddio'i fab Richard yn 1569, am farw'i ferch Jane yn 1585, a marw ' Richard Llyn Miller ' yn 1587. Cesglir felly mai yng Nghroesoswallt yr oedd ei gartref yn ystod un mlynedd ar ddeg olaf ei oes o leiaf. Bu Rhys Cain a Morris Kyffin yn ddisgyblion iddo ac i Rys y gadawodd ei lyfrau. Canwyd marwnad iddo gan Siôn Phylip a hefyd gan Rys Cain, a ddywed iddo farw cyn cyrraedd ei 46 mlwydd.
Copïwyd dros hanner y cerddi sydd yng nghasgliad J. C. Morrice o'i farddoniaeth o lawysgrif (Phillipps 21559 yn Llyfrgell Rydd Caerdydd) y credir ei bod yn llaw'r bardd ei hun. Cynhwysir yn y casgliad 16 awdl, dros 50 o gywyddau mawl a marwnad, dau gywydd yn erfyn cymod â noddwyr a oedd wedi digio wrtho, un cywydd ymryson ag Owain Gwynedd ynghylch y croeso a gawsai'r 'llwynog o Lŷn ' yng Nghaergynyr, rhyw wyth o gywyddau gofyn, ac ychydig gywyddau serch ac englynion. Dengys ei awdlau a'i gywyddau mawl a'i gywyddau dyfalu ei fod yn un o bencampwyr y gerdd draddodiadol, ond ei farwnadau yw ei gerddi enwocaf - yn enwedig y cywyddau gorchestol a ganodd i Siôn Brwynog ('y gwr mwya gerais'), i'w hen athro Gruffudd Hiraethog, ac i Owain ap Gwilym, beirdd bob un. O'r tri chywydd hyn, sydd ymhlith marwnadau gorau'r iaith, y mae'r ddau olaf y cyfeiriwyd atynt, a hefyd ei gywydd marwnad i Ruffudd ap Tomas, Madryn, ar ffurf ymddiddan rhwng yr awdur a'r gŵr marw, dull a oedd yn newydd yn y cyfnod hwnnw. Ar wahân i'w farddoniaeth y mae ar glawr, yn y llawysgrifau, achau ac arf-beisiau yn llaw'r bardd a geirfa o'i waith.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.