Mab i William ap Llywelyn ap Iorwerth. Ym Mrwynog, plwyf Llanfflewyn, sir Fôn, yr oedd ei gartref, ac oddi wrth enw'r fferm y cafodd ei gyfenw. Perthynai i ddosbarth y mân ysweiniaid. Byddai'n clera rhan helaeth o'r wlad, a chanodd i uchelwyr Môn, Arfon, Dinbych, Fflint, a Meirion. Bu ymryson fer rhyngddo a Gruffudd Hiraethog ynghylch rhagoriaethau Môn a Thegaingl. Canodd i Harri VIII a Mari, crybwyllodd Edward VI, ond ni soniodd am Elisabeth. Pabydd selog ydoedd heb na chariad na pharch at y grefydd newydd. Ni cheir ei enw ymhlith y beirdd yn eisteddfod Caerwys 1523. Ei wraig oedd Jane, merch Owen ap Ifan ap Madog o'r Ucheldre, Llanfflewyn. Bu iddynt fab o'r enw William Brwynog.
Bu Siôn Brwynog farw yn 1562 yn ôl marwnad gan Gruffudd Hiraethog (Bodleian MS. 31440, f. 4, 176-80), a'u gladdu ym mynwent Llanddeusant.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.