HUGHES, WILLIAM (bu farw 1600), esgob Llanelwy

Enw: William Hughes
Dyddiad marw: 1600
Rhiant: Hugh ap Cynwrig
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llanelwy
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Glanmor Williams

Ganwyd yn Sir Gaernarfon, mab Hugh ap Cynwrig. Aeth i Goleg Queens', Caergrawnt, Tachwedd 1554, a graddio yn B.A. yn 1557 a dyfod yn M.A. yn 1560 ac yn D.D. yn 1569. Daeth yn gymrawd Coleg Crist yn 1557, ac, yn 1565, yn ' Lady Margaret Preacher.'

Bu'n gaplan i ddug Norfolk, ac achosodd ddadlau mawr trwy bregeth a draddododd yn Leicester yn 1567. Daeth yn rheithor Llysfaen, Sir Gaernarfon, ac yn rheithor Dennington cyn cael ei gysegru yn esgob Llanelwy ar 13 Rhagfyr 1573. O dan drwydded archesgobol daliai 'in commendam' fywiolaethau a oedd yn werth £150 y flwyddyn; yr oedd ganddo 16 ar wahanol adegau, ond nid i gyd gyda'i gilydd. Serch dywedyd iddo, fel esgob, fod yn euog o esgeulustod dybryd, o godi arian ar gam, ac o roddi bywiolaethau, etc., i gyfeillion a pherthnasau, rhaid cofio, er ei glod, iddo roddi cymorth i'r esgob Morgan, cyfieithydd y Beibl i'r iaith Gymraeg, iddo noddi beirdd, ac iddo hefyd, yn 1585, wrthod sefydlu rheithor am na fedrai ddigon o Gymraeg. Bu farw 18 Tachwedd 1600, gan adael cyfoeth lawer i'w ferch, gwraig aer teulu Mostyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.