Hen deulu yn Sir Gaernarfon, yn disgyn o Drahaiarn Goch, arglwydd Cymydmaen.
Mabwysiadwyd y cyfenw gan HUGH GWYN, siryf sir Gaernarfon, 1605 (mab John Wyn, siryf 1584). Aeth tri o ddeuddeg plentyn Hugh Gwyn Bodwrda i Goleg Sant Ioan, Caergrawnt, lle y dewiswyd brawd ei wraig, sef Owen Gwynn, yn bennaeth yn 1612.
Aeth WILLIAM BODWRDA (1593 - 1660) yno yn 1612 (ar ôl graddio yn Rhydychen) a chymryd ei M.A. yn 1615, a'i B.D. yn 1623; a bu'n gymrawd o'r coleg hyd nes ei fwrw allan am na dderbyniai'r 'Covenant' yn 1644. Bu'n dal amryw o fywiolaethau'r coleg yn Lloegr, ond fe'u cymerwyd oddi arno gan y Senedd yn 1646; yn 1651 rhoddwyd iddo fywoliaeth Aberdaron gan ei goleg (a'i cawsai gan yr archesgob John Williams).
Gadawodd GRIFFITH BODWRDA, y trydydd mab, Gaergrawnt cyn graddio. Dyfarnodd Ty'r Arglwyddi, yn 1626, nad ydoedd ef yn euog o ymyrryd, yn ei swydd o is-siryf sir Gaernarfon, â hawliau seneddol Lewes Bayly, esgob Bangor.
Daeth HENRY BODWRDA, pedwerydd mab Hugh Gwyn Bodwrda, yn gymrawd o Goleg S. Ioan a bu'n athro ysgol yn Lloegr; cafodd ef a'i frawd William gydran mewn cymynrodd gan Feistr y Coleg, sef Owen Gwynn.
Gwleidyddwr a ' cheisiwr swyddau ' ydoedd GRIFFITH (neu GRIFFIN) BODWRDA (1621 - 1679), trydydd mab John Bodwrda (mab hynaf Hugh Gwyn Bodwrda a siryf sir Gaernarfon 1629), a'i wraig Margaret, merch John Griffith, Cefnamwlch. Bu Griffith yn ysgol Amwythig, ac yn 1640 aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt (gan ddilyn esiampl ei frodyr John a Hugh) i fod dan ofal ei ewythr William Bodwrda; fe'i cymeradwywyd gan ei gar Robert Wynn, Bodysgallen, fel y 'nearest in relation of kindred unto will and the founder' am un o'r ysgoloriaethau a sefydlasid gan Dr. John Gwyn. Gadawodd heb raddio ac fe'i dewiswyd, trwy gymorth John Glynne, cofiadur Llundain, i'r ' Wine Licence Office ' ac yn ' Receiver of First fruits ' - y ddwy swydd gyda'i gilydd yn werth £500 y flwyddyn. Ymaelododd yn Lincoln's Inn yn 1649. Fe'i dewiswyd yn aelod seneddol dros Biwmares yn 1656 i ail Senedd Cromwell, a bu'n cymryd rhan bwysig yn y dadleuon yno; yr oedd o blaid yr ' Humble Petition and Advice ' ond yn awgrymu y dylid cwtogi ar awdurdod y Diffynnwr mewn achosion ariannol a chyfreithiol; bu iddo hefyd alw sylw at y pwysau ariannol a ddodid ar ei etholwyr ef ei hun. Gwnaeth ei araith fwyaf nodedig wrth apelio am ryddid crefyddol pan oeddid yn ymosod ar James Nayler, y Crynwr a'i galwai ei hun yn Feseia (12 Rhagfyr 1656). Y flwyddyn honno cafodd ei wneuthur yn geidwad cofysgrifau llys y 'Common Pleas.' Fe'i dychwelwyd yn 1659 i gynrychioli Biwmares yn Senedd Richard Cromwell; yn honno dangosodd ei fod yn ffafrio teitl y Diffynnwr newydd, bu'n pledio dros gael polisi tramor cryf, a dymunai hefyd ddifreinio Aberhonddu o achos iddi gamethol yn yr etholiad diwethaf. Etholwyd ef i Senedd y Confensiwn, a bu'n aelod o'r ddirprwyaeth a ddewiswyd i hebrwng Siarl II adref o Baris (26 Ebrill 1660); troes yn gyhuddwr yn y praw ar leiddiaid y brenin; a rhoddwyd iddo'r gwaith o dynnu castell Caernarfon i lawr. Yn ystod y Tân Mawr rhoed ef i ofalu am y bobl a gollodd eu cartrefi yn Islington. Er bod Arlington, yr ysgrifennydd gwladol yn ei gynorthwyo, methodd â chael ei ddewis yn gomisiynydd tollau'r 'Excise' yn Llundain yn 1668; ychydig yn ddiweddarach, fodd bynnag (c. 1672), rhoddwyd iddo swydd yn y Trysordy yn Nulyn a bu yno hyd ei farw yn 1679. Bum mlynedd cyn iddo farw cawsai ganiatâd y Goron i brynu tir yn agos i'r castell gyda'r amcan o'i ddatblygu. Yr oedd yn un o ynadon heddwch sir Gaernarfon, ond gan ei fod gymaint yn Llundain a Dulyn ni allai wasanaethu ond yn anaml iawn. Ymddengys fod ei dad hefyd o blaid y Senedd (Cal. Ctte. for Adv. of Money, iii, 1245, Cal. Wynn Papers, 1811).
Bu ei frawd HUGH, yntau hefyd o Lincoln's Inn, yn siryf sir Gaernarfon yn 1686.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.