BAYLY, LEWIS (bu farw 1631), esgob ac awdur

Enw: Lewis Bayly
Dyddiad marw: 1631
Priod: Ann Bayly (née Bagenal)
Plentyn: Thomas Bayly
Plentyn: John Bayly
Rhiant: Thomas Bayly
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Thomas Richards

Y mae lle a dyddiad ei eni'n ansicr. Ganed tua 1575, enwir Caerfyrddin fel lle tebygol, oherwydd bod amryw o'r cyfenw Bayly yn y dref honno, a chan fod cyfeiriad at Gaerfyrddin yn ei ewyllys olaf. Yn fab, fe ddichon, i'r Thomas Bayly a oedd yn gurad yng Nghaerfyrddin yn y flwyddyn honno. Bu am gyfnod yn Abermarlais a chafodd nodded y teulu yno. Cafodd radd B.D. o goleg Exeter, Rhydychen, 1611, D.D., 1613. Ar ôl graddio daeth yn ficer Shipton-on-Stour, sir Worcester, 1597, ac Evesham yn 1600, lle y llwyddodd i gael siarter i'r dref a dod yn brifathro'r ysgol ramadeg. Daeth yn eu tro swyddi eraill tra sylweddol i'w ran yn yr Eglwys - bod yn un o gaplaniaid y brenin a thrysorydd ty cabidwl S. Paul yn Llundain. Daliodd bersoniaeth Llanedi, 1606-13, a'i benodi'n esgob Bangor yn 1616.

Yn 1611, yn ôl pob tebyg, y daeth ei waith enwog, y Practice of Piety , allan o'r wasg, llyfr defosiwn a brofodd yn boblogaidd tu hwnt; ymddangosodd yr 11eg argraffiad yn 1619, a'r 71ain yn 1792; daeth yr argraffiad Cymraeg cyntaf, wedi ei gyfieithu gan Rolant Fychan o Gaergai, allan yn 1630 - Yr Ymarfer o Dduwioldeb - a phum argraffiad arall o fewn y can mlynedd. Go brin oedd arwyddion y Practice ar ei weithrediadau fel esgob, ac yntau yn dal amryw o fywiolaethau 'in commendam,' ac yn codi ei fab John a'r Dr. William Hill, ei fab-yng-nghyfraith, o swydd i swydd yn yr Eglwys a hynny o fewn cwmpas bychan iawn o amser.

Ar y dechrau penderfynodd ddysgu gwers i Syr John Wynn o Wydir, prif leygwr yr esgobaeth, am ei ymwneud cribddeiliog a thiroedd yr Eglwys, ond buan y cafodd allan fod gwrthwynebu Syr John yn codi gwg John Williams, un o brif wyr y llys ar ei ffordd i fod yn Arglwydd Ganghellor, ac yn achos i Dr. Griffith Williams, person Llanllechid, i ysgrifennu adroddiadau cyfrinachol am ffaeleddau Bangor i'r awdurdodau goruchel. Trodd yr esgob yn y tresi drwy ddod yn un o brif gyfeillion Syr John, a brwd gefnogi ymgais ei fab i ddod yn aelod seneddol dros sir Gaernarfon yn erbyn bwriad plaid John Griffith o Gefn Amwlch i'w ddiorseddu. Camgyfrifodd yr esgob nerth plaid Cefn Amwlch yn ddifrifol, canys nid yn unig fe enillodd John Griffith y dydd yn lecsiwn fawr 1620, ond fe aeth â'r rhyfel rhagddi i gyrion y llys a llawr y Senedd. Bu'r esgob yntau'n annoeth, os nad anghyson, yn ei areithiau yn Nhy'r Arglwyddi; er ei fod yn gaplan i'r brenin, arferodd eiriau diofal am fwriad y brenin hwnnw i briodi ei fab a merch brenin Sbaen, ac am dymor byr bu yng ngharchar y 'Fleet'; pan adenillodd ffafr y brenin, wele ei gwrsio gan Biwritaniaid dau Dy'r Senedd am roddi swyddi eglwysig i bobl annheilwng; ond, ar y cyfan, bu braich y brenin yn darian sicr iddo yn erbyn ymyriadau'r llysoedd ac ensyniadau'r Seneddwyr.

A gellir dywedyd pethau da iawn amdano ar wahân i awduriaeth y Practice defosiynol: ei gefnogaeth gynnes i gyhoeddi Geiriadur (1632) y Dr. John Davies, ei wasanaeth fel aelod o Gyngor y Gororau, yr arian a wariodd i atgyweirio eglwys gadeiriol Bangor, a'i ofal am fuddiannau'r esgobaeth, fel y tystir gan yr eglurhadau hirion a roddodd i'r brenin Siarl I yn 1630, a'i waith yn rhoddi pen, yn 1625, ar y ffyrnig ymgeintach ynghylch seddi yn eglwys plwyf Llanfairfechan.

Bu'r esgob farw 26 Hydref 1631. Ei ail wraig oedd Ann, merch Syr Henry Bagenal o Castle Newry yn Iwerddon a Phlas Newydd ym Môn; daeth EDWARD BAYLY, ei wyr, yn berchen ystad Plas Newydd; a'i wyr ef, HENRY BAYLY, a gymerodd drosodd enw ac arfbais teulu Paget (fel 9fed barwn); ei fab hynaf ef oedd yr Ardalydd Môn 1af, 'Marquis Waterlw.'

THOMAS BAYLY (1608 - c.1657)

Bu i Thomas, un o feibion yr esgob, yrfa fel Protestant ac fel Pabydd. Yr oedd yn bleidiwr eiddgar i achos y brenin, a digwyddodd fod yn Raglan pan gyrhaeddodd Siarl yno ar ôl brwydr Naseby; a dywedir mai ef a gyfleodd amodau ymostwng y castell i Fairfax. Diangodd Bayly ei hun yn weddol groeniach, croesodd i'r Cyfandir, ond yr oedd yn ei ôl yn fuan wedi dienyddiad y brenin; cyn diwedd 1649 yr oedd wedi cyhoeddi The Royal Charter granted unto Kings, gwaith a'i dug i garchar Newgate; yn y carchar hwnnw cyfansoddodd yr Herba Parietis, llyfr o fyfyrdodau a gyhoeddwyd yn 1650. Llwyddodd i ddianc o Newgate, mudodd i'r Iseldiroedd, ac amlygodd i'r byd mai Pabydd ydoedd - nid oedd hyn yn syndod o gwbl yn wyneb y syniadau Pabyddol a frithai'r Certamen Religiosum a ddaeth o'r wasg yn 1649 - ac yn 1654 argraffwyd yn Douai bamffled o'i eiddo a elwid The End of the Controversie between the Roman Catholick and Protestant Religions. Am Apophthegms 1650 (casgliad o ddywediadau yr Ardalydd Worcester o Raglan), a Golden Apophthegms 1660 (casgliad o eiriau tarawiadol Siarl I a'r Marquis), ac am y Life and Death of John Fisher a gyhoeddwyd yn 1655, nid oes sicrwydd o gwbl mai Bayly a'u hysgrifennodd. Pa bryd yn hollol y bu farw ni wyddys; 1657 yw'r flwyddyn fwyaf tebygol.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.