PAGET (TEULU), Plas Newydd, Llanedwen, Môn.

Olrheinir cyswllt y teulu hwn â Phlas Newydd ac Ynys Môn i briodas Syr NICHOLAS BAYLY, Plas Newydd, â Caroline, merch ac aeres Thomas, Arglwydd Paget o Beaudesert, sir Stafford, yn 1737. Mabwysiadodd eu mab HENRY BAYLY (1744 - 1812) yr enw Paget pan etifeddodd arglwyddiaeth Beaudesert yn 1769; ac yn 1784 gwnaed ef yn iarll Uxbridge. Gwnaeth lawer i gadarnhau safle wleidyddol a chymdeithasol ei deulu ym Môn, ac yn arbennig yng Nghaernarfon, lle y llwyddodd yn 1783 i gael ei benodi'n gwnstabl y castell, a thrwy hynny danseilio i raddau helaeth hen allu a dylanwad teulu Glynllifon yn y fwrdeisdref. Efe hefyd, ynghyd â Thomas Williams, Llanidan, a ffurfiodd yn 1785 gwmni'r Mona Mine - y gwaith copr ar ochr ddwyreiniol Mynydd Parys ger Amlwch, yr elwodd teulu Plas Newydd gymaint oddi arno.

Bu farw Henry Bayly Paget 13 Mawrth 1812, a dilynwyd ef fel perchen y stad gan ei fab hynaf, HENRY WILLIAM PAGET (1768 - 1854), ganwyd 17 Mai 1768, a gafodd yrfa filwrol lewyrchus ac a ddyrchafwyd yn ardalydd cyntaf Môn, 4 Gorffennaf 1815, fel cydnabyddiaeth o'i wasanaeth clodwiw yn y rhyfel â Ffrainc. Bu'n aelod seneddol dros fwrdeisdrefi Arfon, 1790-6, cwnstabl castell Caernarfon, 1812, 1831, a 1837, ac yn arglwydd-raglaw Môn o 1812 hyd ei farw, 29 Ebrill 1854. Dengys ei bapurau teuluol a'i lythyrau iddo fod yn gefn i bob achos a mudiad o bwys ym Môn ac Arfon yn y cyfnod hwn, a derbyniodd amryw o drigolion y ddwy sir ffafrau ar ei law. O'i chwe brawd, bu dau yn eu tro yn aelodau seneddol dros fwrdeisdrefi Arfon : Syr, EDWARD PAGET (1775 - 1849) o 1796 hyd 1806, a Syr CHARLES PAGET (1778 - 1839) o 1806 hyd 1826 ac o 1831 hyd 1834, pryd y collodd y teulu'r sedd am y tro cyntaf ers 44 mlynedd. Eisteddodd dau frawd arall dros sir Fôn : WILLIAM PAGET (1769 - 1794) o 1790 hyd 1794, a BERKELEY THOMAS PAGET (1780 - 1842) o 1807 hyd 1818. Cynrychiolwyd Biwmares yn y Senedd, 1832-47, gan FREDERICK PAGET (1807 - 1866), mab hynaf Berkeley Paget, a chan GEORGE AUGUSTUS FREDERICK PAGET (1818 - 1880), trydydd mab yr ardalydd, 1847-57.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.