Ganwyd yn Treflan ger Caernarfon. Addysgwyd ef mewn ysgol yng Nghaernarfon, Coleg Eglwys Crist, Rhydychen, 1604-6 (ymaelododd yno 15 Mehefin 1604, 'yn 16 oed'), Coleg Iesu, Caergrawnt, 1606-8 (B.A. Cantab., 1606; M.A., 1609; B.D., 1616; D.D., 1621). Ordeiniwyd yn offeiriad 30 Mai 1607. Bu'n rheithor Foscott (Bucks), 1608-12, darlithydd yn S. Pedr a S. Paul yn Llundain, a rheithor S. Bennet Sherhog, 1612-6. Y pryd hwn creodd wrthwynebiad iddo'i hunan trwy bregethu yn erbyn y Piwritaniaid. Cafodd ei atal rhag pregethu gan esgob Llundain am iddo gyhoeddi llyfr, The Resolutions of Pilate, ond trwy gyfrwng archesgob Caergaint cafodd ei benodi i fywoliaeth Llanllechid yn Sir Gaernarfon. Ef a bregethodd bregeth angladdol Syr Richard Bulkeley yn 1621 ar y testun, Salm cxiv, 5. Yng Ngorffennaf 1644 pregethodd yn angladd Katherine, ferch William Lewis o Landygai, pan oedd yr archesgob John Williams ac esgob Bangor yn bresennol, ac enwir ef fel un o'r galarwyr yn angladd yr archesgob John Williams yn Llandygai yn 1650. Cafodd ei benodi yn rheithor Trefdraeth yn 1626 ac yn ddeon Bangor yn 1634. Yn 1635 cafodd ei wysio o flaen llys yr uchel gomisiwn am esgeuluso ei wraig a bu yn rhaid iddo arwyddo ymrwymiad am £500 y byddai iddo o hynny allan ymddwyn tuag ati fel y dylai gŵr ymddwyn at ei wraig. Gwnaethpwyd ef yn un o gaplaniaid y brenin yn 1636, ac yn 1641 cafodd esgobaeth Ossory yn Iwerddon. Yn fuan wedi ei gysegru yn esgob torrodd y rhyfel ar y wlad a bu'n rhaid iddo ddianc o Iwerddon, a bu yn aros yn Llanllechid ac yn crwydro o amgylch hyd yr Adferiad. Ymwelodd ag Iwerddon droeon yn ystod yr amser hwn a chafodd ei benodi'n rheithor Rathfarnham yn 1647. Dychwelodd i'w esgobaeth yn 1661 a dywedir mai ef oedd y cyntaf i weddio'n gyhoeddus dros y brenin Siarl II yn Iwerddon. Bu farw 29 Mawrth 1673 a chladdwyd ef yn yr eglwys gadeiriol yn Ossory. Gadawodd eiddo yn Llanllechid a Chonwy a Llandygai i'r tlodion. Cyhoeddodd The Resolutions of Pilate, 1616; Seven Goulden Candlesticks, 1624, The True Church, 1629; The Discovery of Mysteries or the Plots, etc., 1643; A Sermon preached before the House of Commons, 1644; Jura Majestatis, Rights of Kings, 1644; The Great Anti-Christ Revealed, 1660; Seven Treatises, 1661; A True Relation of a Law Proceeding betwixt Griffith, Lord Bishop of Ossory and Sir G. Ayskue, 1663; Persecution and Oppression of John Bale and Griffith Williams, bishops of Ossory, 1664; Several Sermons on Solemn Occasions, 1665; Four Treatises, 1667; Vindiciae Regum, or the Grand Rebellion, that is a looking glass for Rebels.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.