VAUGHAN, ROWLAND (c. 1590 -1667), Caer Gai, Sir Feirionnydd, bardd, cyfieithydd, a Brenhinwr

Enw: Rowland Vaughan
Dyddiad geni: c. 1590
Dyddiad marw: 1667
Priod: Jane Vaughan (née Price)
Plentyn: Marged Vaughan
Plentyn: Mary Prys (née Vaughan)
Plentyn: Elsbeth Vaughan
Plentyn: Elin Vaughan
Plentyn: Gabriel Vaughan
Plentyn: William Vaughan
Plentyn: John Vaughan
Plentyn: Arthur Vaughan
Plentyn: Edward Vaughan
Rhiant: Ellen Vaughan (née Nanney)
Rhiant: John Vaughan
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, cyfieithydd, a Brenhinwr
Cartref: Caer Gai
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: Megan Ellis, William Llewelyn Davies

Mab hynaf John Vaughan a'i wraig Ellen, merch Hugh Nanney o Nannau yn Sir Feirionnydd. Hanoedd y teulu (gweler J. E. Griffith, 3) o Fychaniaid Llwydiarth yn Sir Drefaldwyn, ac ymddengys (B.M. Harl. MS. 1973) mai taid Rowland Vaughan oedd y cyntaf o'r teulu i feddiannu Caer Gai. Ganed Rowland Vaughan tua 1590 a threuliodd beth amser yn Rhydychen er nad oes hanes iddo dderbyn gradd yno. Priododd Jane, ferch Edward Price o Dref Prysg, Llanuwchllyn, ac yn ôl cywydd marwnad Hugh Cadwaladr iddo (NLW MS 9B ), yr oedd tri mab a thair merch iddynt yn fyw pan fu farw Rowland Vaughan yn 1667, sef JOHN, a dderbyniwyd i Hall Hart (Coleg Hertford heddiw), Rhydychen, yn 1635, yn 18 mlwydd oed, a briododd Catherine, merch William Wynn, Glyn, Sir Feirionnydd, ac a ddewiswyd yn siryf dros Sir Feirionnydd yn 1669-70; EDWARD, a dderbyniwyd i Goleg All Souls, Rhydychen, yn 1634 yn 16 mlwydd oed ac a dderbyniodd y radd o B.A. yno yn 1637/8 a'r radd o M.A. yng Ngholeg Iesu yn 1640, ac a benodwyd wedi hynny yn ficer Upchurch yng Nghaint (1642) a Llanynys, sir Ddinbych (1647), ac yn rheithor Llangar (1662), Llanarmon Dyffryn Ceiriog (1662), a Mallwyd (1664); WILIAM; ELIN; ELSBETH; a MARGED. Er hynny yn llawysgrif Harleian 1973 enwir pedwar mab iddynt, sef John, Edward, Arthur, a Gabriel a phedair merch, sef y tair a enwir gan Hugh Cadwaladr ynghyd â Mary, a briododd Peter Price, Cynllwyd, pedwerydd mab Thomas Price, Plas Iolyn, sir Ddinbych.

Yn unol â thraddodiadau'r teulu cymerodd Rowland Vaughan ran flaenllaw ym mywyd gwladol ei sir ac fel ei dad, a lanwodd y swydd yn 1613/4 a 1620/1, penodwyd yntau'n siryf dros Sir Feirionnydd yn 1642/3. Yr oedd yn Frenhinwr selog a dywedir iddo gymryd rhan fel capten ym mrwydr Naseby. Yn sicr cymerodd ran yn y Rhyfel Cartrefol fel y dengys englynion a ganodd William Phylip iddo (Peniarth MS 115 ). Llosgwyd Caer Gai i'r llawr gan nifer o filwyr Cromwell ar eu ffordd o Sir Drefaldwyn yn 1645, rhoddwyd ei etifeddiaeth i nai iddo, a charcharwyd Vaughan ganddynt yng Nghaerlleon yn 1650. Wedi diwedd y Rhyfel Cartrefol ac ar ôl blynyddoedd o gyfreithio adenillodd ei dir ac ailadeiladwyd Caer Gai.

Ceir mynych gyfeiriadau mewn amryw o'i gerddi ac englynion yn dangos yn eglur ei ddaliadau gwleidyddol a'r hyn a ddioddefodd o'u herwydd. Canodd nifer o gerddi'n ymwneuthur â phynciau'r dydd a nifer mawr o gerddi a charolau a dyrïau o natur dduwiol, a chyfieithodd amryw o emynau adnabyddus i'r Gymraeg o'r Saesneg ac o'r Lladin. Priodolir y cyfieithiadau Cymraeg adnabyddus, ' Tyrd, Ysbryd Glân, i'n clonnau ni,' a ' Tyrd, Ysbryd Glân, tragwyddol Dduw ' iddo; gweler J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, a Llyfr Gweddi Gyffredin, 1664. Canodd hefyd nifer o gywyddau ac englynion marwnad i amryw o uchelwyr Meirion. Cyhoeddwyd peth o'i waith yn Carolau a Dyriau Duwiol, 1729, a Blodeu-Gerdd Cymru, 1759, a chasgliadau eraill, a cheir llawer o'i gerddi mewn llawysgrifau cyfoes gan gynnwys amryw enghreifftiau yn ei lawysgrifen ei hun; gweler darlun o'i lawysgrifen rhwng 142 a 143 yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i.

Feallai er hynny mai fel cyfieithydd yr adnabyddir ef orau. Gweithiau o natur dduwiol yw ei gyfieithiadau a'r mwyafrif ohonynt yn pleidio achos yr Eglwys Sefydledig. Y cyntaf a'r pwysicaf a gyhoeddwyd oedd Yr Ymarfer o Dduwioldeb, o waith Lewis Bayly, yn 1630 - ailargraffwyd ef nifer o weithiau yn ystod y can mlynedd canlynol. Dilynwyd hwn yn 1658 gan Yr Arfer o Weddi yr Arglwydd (John Despagne), Pregeth yn erbyn Schism (Jasper Mayne), Prifannau Sanctaidd, ynghyd â Ymddiffyniad Rhag Pla o Schism (William Brough), a Prifannau Crefydd Gristnogawl, ynghyd â Y Llwybraidd-Fodd Byrr (James Ussher), ac oddeutu'r flwyddyn 1660 gan Evchologia (John Prideaux). Dengys ei gyfieithiadau ddiwydrwydd a dyfalbarhad Rowland Vaughan yn ogystal â'i feistrolaeth ar iaith gyfoethog ac ystwyth. Try'r cyfieithydd yn awdur o dro i dro megis yn ei ragymadroddion a'i lythyrau cyflwyno, a cheir ynddynt nifer o gyfeiriadau at ddigwyddiadau hanesyddol cyfoes. Cyhoeddwyd nifer o'i garolau ac englynion hefyd yn y cyfrolau hyn.

Cyfieithodd Rowland Vaughan un llyfr pwysig arall, er na chyhoeddwyd mo'i gyfieithiad, sef Eikon Basilike neu The King's Book (gweler Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i, 141-4). Cafwyd hyd i'r cyfieithiad hwn, sydd yn llawysgrifen Vaughan ei hun, ymysg llawysgrifau Brogyntyn a anfonwyd i'r Llyfrgell Genedlaethol gan yr arglwydd Harlech, un o ddisgynyddion y cyrnol John Owen, y cyflwynodd Vaughan y gwaith iddo. Rhan yn unig o'r cyfieithiad sydd ar gael ynghyd â'r llythyr cyflwyno; ar hyn gweler Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, i, 141-4.

Bu farw Rowland Vaughan 18 Medi 1667. Ei fab hynaf, John, a etifeddodd y stad, a gorwyres iddo ef, Mary Elizabeth (ganwyd 1709), priod y Parchedig Henry Mainwaring, rheithor Etwall, a werthodd Gaer Gai a Thref Brysg i Syr Watkin Williams Wynn tua 1740.

Y mae'r erthygl uchod ar Rowland Vaughan yn delio â phrif aelod y teulu hwn ac â rhai o'i hynafiaid a'i ddisgynyddion. Amcan y nodyn ychwanegol hwn yw galw sylw at rai cyfeiriadau llenyddol a hanesyddol at Rowland Vaughan, etc., yng ngweithiau ' Phylipiaid Ardudwy '. Bu Richard Phylip yn ' fardd teulu ' Nannau, gerllaw Dolgellau, am gyfnod, ac ysgrifennodd gywydd marwnad Annes, ferch Rhys Fychan, Nannau, gwraig Hugh Nanney, sef nain Rowland Vaughan; ceir englynion gan Rowland Vaughan ar yr un amgylchiad i'w nain ac i'w daid. Pan fu Elin Nanney, mam Rowland Vaughan, farw yn 1617, canodd Richard Phylip farwnad ar ei hôl. Ymhlith englynion Richard Phylip y mae un i ateb englyn a ysgrifenasai Rowland Vaughan; canodd hefyd ddau englyn ' Ar y newydd fod mr. Rowlant fychan wedi cael barn gidag ef am Gaer Gai,' yn 1637, a thri englyn i ateb tri gan Vaughan ynghylch Rhiwedog. Ysgrifennodd Richard Phylip gywydd ' I ofyn newid milgwn [i Rolant Vaughan] ' a chywydd i ofyn i John Vaughan roddi milgi llwyd i Lewis Gwyn, Dolaugwyn, gerllaw Towyn. Ceir chwe englyn, 'Mawl i'r Cyfieithydd,' sef Rowland Vaughan, gan Gruffydd Phylip yn nechrau Yr Ymarfer o Dduwioldeb, 1630. Dyfynnir yn Cymm., xlii, 217-8, sef yn yr erthygl ar ' Phylipiaid Ardudwy,' yr hanes a ddyry Walter Davies ('Gwallter Mechain') yn Eos Ceiriog, 1823, am y gyfathrach rhwng Rowland Vaughan a William Phylip, Hendre Fechan, Ardudwy. Ceir hefyd gan William Phylip ' Englynion o gwyn pan fu Rowlant Fychan Caergai yn y Rhyfel ' a dau englyn yn cyfeirio at losgi Caergai ac Ynysmaengwyn yn 1645. Pan fu Gruffydd Vaughan, brawd Rowland Vaughan, farw yn 1638, canodd William Phylip ddwy farwnad; yn ddiweddarach canodd John Vaughan, aer Caer Gai, sef mab Rowland Vaughan, 'gywydd yr adar,' ac atebwyd hwn gan William Phylip mewn 'cywydd ateb i gywydd yr adar,' a deitlir yn Cardiff MS. 64 fel hyn: 'Cyfarchiad ne ymddiddan rhwng yr erur a William Phylip yn amser Crowmwel am fod yr adar heb ganu.'

Awduron

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.