Ganwyd yn Llundain, 11 Ebrill 1885, yn fab i George Ralph Charles Ormsby-Gore (a ddaeth yn 3ydd Barwn Harlech yn 1904) a'r Fonesig Margaret Ethel (ganwyd Gordon). Y cartref teuluol oedd Brogyntyn, ger Croesoswallt, Swydd Amwythig. Fe'i haddysgwyd yn Eton a Rhydychen ac yn 1913 priododd y Fonesig Beatrice Cecil, un o deulu o Geidwadwyr blaenllaw.
Yn 1910 etholwyd ef yn A.S. dros Fwrdeistref Dinbych o wyth pleidlais yn unig ond yn 1918 symudodd i sedd ddiogelach yn Stafford a bu'n A.S. yno hyd 1938 pan olynodd ei dad i Dŷ'r Arglwyddi. Daeth yn arbenigwr ar drefedigaethau'r Ymerodraeth a bu'n Is-Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau o 1922 hyd 1929 ac eithrio am y cyfnod byr pryd yr oedd Llafur mewn grym yn 1924. Yn y flwyddyn honno arweiniodd y Comisiwn a ymwelodd â Dwyrain a Chanolbarth Africa. Yr oedd yn aelod o'r Cabinet o 1931 hyd 1938 ac yn 1936 penodwyd ef yn Ysgrifennydd Gwladol dros y Trefedigaethau lle'r oedd ei brofiad eang o'r maes yn amhrisiadwy. Fodd bynnag daeth un o'i elynion gwleidyddol pennaf, Neville Chamberlain, yn Brifweinidog yn 1937 a'r flwyddyn ganlynol ymddiswyddodd mewn amgylchiadau chwerw. Gwrthwynebodd bolisïau tramor Chamberlain ac yr oedd yn feirniad cyson o'r Nazïaid. Yn gyffredinol, yr oedd yn wleidydd didwyll a blaengar er yn fyrbwyll ar adegau.
Ar ôl ymddeol o'r byd gwleidyddol trodd ei sylw at fancio ac at ei ddiddordebau yn y celfyddydau. Yr oedd eisoes wedi cyhoeddi Florentine sculptors of the fifteenth century (1930), A guide to the Mantegna cartoons at Hampton Court (1935), a Guides to the ancient monuments of England (3 cyfrol). Cyflwynodd ef a'i dad gasgliad gwerthfawr o lawysgrifau Brogyntyn ar adnau i Lyfrgell Genedlaethol Cymru (fe'u prynwyd yn ddiweddarach) ac ef oedd Llywydd y Llyfrgell o 1950 hyd 1958. Yr oedd hefyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Cymru ac yn Gwnstabl cestyll Harlech a Chaernarfon. Bu farw 14 Chwefror 1964. Olynwyd ef gan ei fab David Ormsby-Gore.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.