ORMSBY-GORE, WILLIAM DAVID, 5ed Barwn Harlech, (1918 - 1985), gwleidydd, diplomydd, impresario'r cyfryngau

Enw: William David Ormsby-gore
Dyddiad geni: 1918
Dyddiad marw: 1985
Priod: Sylvia Ormsby-Gore (née Lloyd Thomas)
Plentyn: Julian Hugh Ormsby-Gore
Plentyn: Jane Teresa Denyse Rainey (née Ormsby-Gore)
Plentyn: Victoria Mary Lloyd (née Ormsby-Gore)
Plentyn: Alice (née Ormsby-Gore)
Plentyn: Francis David Ormsby-Gore
Plentyn: Pandora Beatrice Kinnear (née Ormsby-Gore)
Rhiant: Beatrice Edith Mildred Ormsby-Gore (née Gascoyne-Cecil)
Rhiant: William George Arthur Ormsby-Gore
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gwleidydd, diplomydd, impresario'r cyfryngau
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Marc Collinson

Ganwyd David Ormsby-Gore yn Llundain ar 20 Mai 1918, yn ail fab i William George Arthur Ormsby-Gore (1885-1964), pedwerydd Barwn Harlech, tirfeddiannwr a gwleidydd, a'i wraig y Foneddiges Beatrice Edith Mildred (g. Gascoigne-Cecil, 1891-1980), merch i bedwerydd Ardalydd Salisbury. Bu farw ei frawd hŷn ac etifedd tebygol barwniaeth Harlech, Owen Gerard Cecil Ormsby-Gore (1916-1935) mewn damwain car, y cyntaf o nifer o ddigwyddiadau tyngedfennol a achoswyd gan gerbydau modur. Er gwaethaf addysg elitaidd draddodiadol Coleg Eton, Coleg Newydd, Rhydychen, a'r Fyddin Brydeinig, roedd cysylltiadau Ormsby-Gore â Chymru yn llawer mwy na theitl yn unig. Teulu Ormsby-Gore oedd tirfeddianwyr hanesyddol Ystad Brogyntyn ger Croesoswallt a Glyn Cywarch ger Talsarnau, Sir Feirionnydd, ac roeddent wedi rhoi eu llyfrgell blas gwledig bwysig, gan gynnwys llawysgrifau prin, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn y 1930au. Teulu oedd hwn a'i wreiddiau yn y Gororau a gogledd-orllewin Cymru, a'i aelodau'n gwneud eu gyrfaoedd gwleidyddol yn San Steffan.

Trwy gysylltiadau yn Llundain, yn 1938 cyfarfu David Ormsby-Gore â John Kennedy, ail fab llysgennad newydd Unol Daleithiau America i Lundain. Dyna ddechrau cyfeillgarwch dwfn, a ddisgrifiwyd gan Ormsby-Gore yn nes ymlaen fel 'sgwrs pum mlynedd ar hugain' ar wleidyddiaeth a materion y byd, ac arhosodd y ddau'n gyfeillion agos wrth i'w gyrfaoedd ddatblygu a phan aeth Ormsby-Gore i UDA ar fusnes y Swyddfa Dramor. Yn 1940, priododd ei wraig gyntaf Sylvia (1920-1967), merch y diweddar ddiplomydd Hugh Lloyd Thomas. Ganwyd iddynt ddau fab, Julian a Francis, a thair merch, Jane, Victoria, ac Alice. Gwasanaethodd Ormsby-Gore yn y fyddin yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan gyrraedd rheng uwchgapten, ac wedyn bu'n rheoli ystadau'r teulu. Yn etholiad 1950, enillodd dros y Ceidwadwyr yn etholaeth Croesosowallt a gynhwysai Frogyntyn. Cynrychiolodd yr ardal tan 1961, gan wasanaethu fel gweinidog o dan ddau Brif Weinidog. Ar ôl cyfnod byr fel Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y Swyddfa Dramor yn y misoedd yn dilyn argyfwng Suez yn ystod prifweinidogaeth Anthony Eden, yn 1957 fe'i penodwyd gan Macmillan yn Weinidog Gwladol dan yr Ysgrifenyddion Tramor Selwyn Lloyd ac Iarll Home tan 1961. Roedd ganddo gysylltiad teuluol â ffigwr gwleidyddol blaenllaw, gan fod ei chwaer Katherine yn briod â Maurice, mab Harold Macmillan. Roedd y cysylltiadau hyn yn gymorth i'r symudiad nesaf yng ngyrfa Ormsby-Gore.

Wedi i Kennedy gael ei ethol yn Arlywydd yn Nhachwedd 1960, dechreuodd sgyrsiau yn Whitehall am greu perthynas agos â'r weinyddiaeth newydd gan adeiladu ar berthynas Harold Macmillan â Dwight D. Eisenhower. Er mwyn sicrhau hyn roedd Kennedy a Macmillan yn ffafrio penodi Ormsby-Gore yn llysgennad yn Washington yn lle Harold Caccia, cam anarferol gan fod llysgenhadon fel arfer yn ddiplomyddion proffesiynol yn hytrach nag yn wleidyddion. Ar ôl iddo gychwyn yn ei swydd yn Hydref 1961, ffurfiwyd ei lysgenhadaeth gan y Rhyfel Oer ac ofnau am ddinistr anochel i'r ddwy ochr. Bu Syr David Ormsby-Gore (fe'i penodwyd yn KCMG yn 1961) mewn trafodaethau agos gyda gweinyddiaeth Kennedy trwy gydol Argyfwng Taflegrau Ciwba, helpodd i sicrhau'r system Polaris â thaflegrau wedi eu lansio o longau tanfor wedi methiant y system Skybolt arfaethedig, a chynorthwyodd ymdrechion Macmillan i weithredu Cytundeb Gwahardd Profion Niwclear. Yn ogystal â'i gyfeillgarwch agos gyda'r Arlywydd, datblygodd berthnasau strategol pwysig gydag aelodau allweddol o'r weinyddiaeth. Ni fu dylanwad Prydain o fewn y Tŷ Gwyn erioed yn gryfach. Ac eto nid colled bersonol yn unig oedd llofruddiad trasig Kennedy yn Dallas yn Nhachwedd 1963. Trawsffurfiwyd llysgenhadaeth Ormsby-Gore gan ddyrchafiad Lyndon Johnson i'r Tŷ Gwyn a Harold Wilson i Stryd Downing yn Hydref 1964. Yn ystod ei ddeunaw mis olaf, roedd ganddo lai o gyswllt uniongyrchol, ac felly lai o ddylanwad, gyda'r gwneuthurwyr polisi tramor canolog yn Washington a Whitehall. At hynny, ychydig fisoedd wedi marwolaeth yr Arlywydd, yn Chwefror 1964, yn sgil marwolaeth ei dad cafodd ei urddo'n arglwydd fel pumed Barwn Harlech.

Arweiniodd cyfuniad o'r ffactorau hyn at ei ddisodli fel llysgennad gan y diplomydd Patrick Dean yn Ebrill 1965. Ar ôl iddo ddychwelyd i Brydain, ymgymerodd yr Arglwydd Harlech â swyddogaethau cyhoeddus a oedd ar gael i arglwyddi'r deyrnas, gan olynu'r Arglwydd Morrison o Lambeth fel Llywydd Bwrdd Sensoriaid Ffilmiau Prydain (1965-1985). Bu am gyfnod byr (1966-67) yn Ddirprwy Arweinydd yr Wrthblaid yn Nhŷ'r Arglwyddi ac yn aelod o Gabinet yr Wrthblaid dan arweinydd newydd y blaid Geidwadol, Edward Heath, ond ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Awgrymwyd bod hyn yn arwydd o ddiffyg diddordeb mewn gwleidyddiaeth ar ôl ei lysgenhadaeth, ond mae'n debyg bod nifer o bethau wedi cyfrannu at y newid hwn. Yn 1967 lladdwyd ei wraig mewn damwain car wedi penwythnos teuluol yn Harlech. Yn ogystal, dengys papurau preifat a werthwyd mewn ocsiwn yn 2017 i'r Arglwydd Harlech, rywbryd ar ôl marwolaeth ei wraig, ofyn i weddw John F. Kennedy, Jacqueline, ei briodi. Ond dewisodd hi briodi'r dyn busnes llongau o Wlad Groeg Aristotle Onassis yn ei le. Wedi hynny, aeth bywyd Harlech i gyfeiriad newydd. Yn 1969 priododd ei ail wraig, Pamela Colin, golygydd gyda'r fersiynau Americanaidd a Phrydeinig o'r cylchgrawn Vogue; cawsant un ferch, Pandora.

Yn bwysicach o ran hanes Cymru, yn 1968 enillodd consortiwm newydd dan gadeiryddiaeth yr Arglwydd Harlech, Teledu Harlech (HTV yn ddiweddarach), gytundeb gan yr Awdurdod Teledu Annibynnol (a reolai drydedd sianel deledu'r DU, ITV) i gynhyrchu cynnwys ar gyfer rhanbarth Cymru a Gorllewin Lloegr. Ymhlith aelodau bwrdd y cwmni newydd roedd nifer o Gymry blaenllaw, gan gynnwys Richard Burton a'i wraig Elizabeth Taylor, y canwr opera Geraint Evans, y comedïwr Harry Secombe, a'r darlledwr Wynford Vaughan-Thomas. HTV a ddarlledodd seremoni arwisgo'r Tywysog Charles yng Nghaernarfon yn 1969. Cyfrannodd yr Arglwydd Harlech at waith nifer o sefydliadau trawsbleidiol ac elusennau, megis Shelter, a bu'n gadeirydd yr 'European Movement' (1969-75) a Phwyllgor Cenedlaethol dros Ddiwygiad Etholiadol, ac yn ddirprwy gadeirydd Comisiwn Pearce a grewyd i ganfod setliad yn Rhodesia. Parhaodd hefyd i ymwneud ag amryw weithgareddau Eingl-Americanaidd a rhai'n gysylltiedig â Kennedy.

Er hynny, roedd trasiedi o hyd yn gysgod dros ei fywyd. Yn 1974 cyflawnodd ei fab a'i etifedd Julian hunanladdiad. Ac mewn ailadroddiad trist o golledion ei wraig gyntaf a'i frawd hŷn, lladdwyd yr Arglwydd Harlech ei hun mewn damwain car yn Sir Amwythig tra'n gyrru i ogledd Cymru. Bu farw yn ysbyty yr Amwythig y diwrnod canlynol, 26 Ionawr 1985. Fe'i holynwyd gan ei ail fab, Francis. Delwedd sy'n crynhoi i'r dim allu pumed Arglwydd Harlech i gysylltu Cymru wledig â gwleidyddiaeth uchel a phresenoldeb byd-eang yw honno o weddw John Kennedy a'i frodyr a chwiorydd yn ei angladd a'i gladdedigaeth ar 1 Chwefror 1985 yn eglwys fechan Llanfihangel-y-traethau, yn edrych draw tuag at Glyn Cywarch a Thalsarnau.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 2022-12-05

Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.