Ganwyd Wynford Vaughan-Thomas 15 Awst 1908 yn 9 Calvert Terrace Abertawe, yr ail fab o dri o feibion y cerddor adnabyddus Dr David Vaughan Thomas a'i briod Morfydd Lewis. Mynychodd Ysgol Ramadeg Abertawe lle y bu tad Dylan Thomas yn athro arno a lle'r oedd y mab yn ddisgybl, a daeth Wynford Vaughan-Thomas ac yntau yn bennaf ffrindiau. Yn ddiweddarach apwyntiwyd ef yn ysgutor llenyddol ystâd y bardd. Enillodd ysgoloriaeth i astudio Hanes Modern yng Ngholeg Exeter, Prifysgol Rhydychen a graddiodd yn yr ail ddosbarth yn 1930.
Gan ei bod hi'n gyfnod y dirwasgiad cafodd hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Dyma'r cyfnod yr ychwanegodd Vaughan at ei enw a dod yn Vaughan-Thomas. Derbyniodd swydd yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1933, a daeth yn swyddog rhanbarth gyda Chyngor Gwasanaethau Cymdeithasol De Cymru yn 1934. Yn 1937 ymunodd ag Adran Ddarlledu Allanol y BBC yng Nghaerdydd, swydd ddelfrydol iddo gan na ddisgwylid iddo ddefnyddio sgript.
Ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd trosglwyddwyd ef fel gohebydd gartref y BBC i Lundain, ac yn 1942 ar ôl bod yn sylwebydd ar y bomio mawr yn Llundain, penodwyd ef yn ohebydd Rhyfel.
Daeth yn fuan yn adnabyddus, gan mai ef oedd gohebydd cyntaf y BBC i hedfan mewn awyren bomio Lancaster dros Berlin yn ystod oriau'r nos a hynny yn 1943. Disgrifiodd gyda manylder yr hyn a olygai'r cyfan gan roddi syniad clir i'r gwrandawyr o'r peryglon a wynebai awyrenwyr o Brydain. Yn ddiweddarach cafwyd yr un manylder a'r un disgrifio graffig o'r Eidal, y glanio yn Anzio (lluniodd gyfrol ar yr hanes a gyhoeddwyd yn 1961) a rhyddhau dinas Rhufain. Bu'n darlledu o Burgundy a chafodd ei anrhydeddu gan lywodraeth Ffrainc gyda'r Croix de Guerre yn 1945. Costrelodd yr hanes yn ei gyfrol olaf, How I Liberated Burgundy: and other Vinous Adventures (1985). Ef hefyd oedd un o'r rhai cyntaf i ymweld â gwersyll Belsen pan y'i hagorwyd.
Bu'n sylwebydd o'r radd flaenaf yn y cyfnod wedi'r Rhyfel o dan nawdd y BBC ar deithiau'r teulu brenhinol i Dde Affrig yn 1947, i'r Gymanwlad yn 1954, adeg Annibyniaeth yr India a Pacistan (1947), Coroni'r Frenhines Elizabeth II (1953), ac yn y Dwyrain Canol yn 1956, ac yn Ewrop a Chyfandir Affrig yn y cyfnod 1956-1964. Yr oedd yn siaradwr rhugl, yn meddu ar fwrlwm emosiynol a phersonoliaeth gref, ac yn croesawu'r cyfle i deithio o un wlad i'r llall. Ceir cipolwg ar hyn yn ei hunangofiant, Trust to Talk (1980). Ystyrid ef â Richard Dimbleby fel y ddau sylwebydd mwyaf proffesiynol o holl ohebwyr y BBC. Priodol felly iddo gael y cyfle i sylwebu ar y teledu o Abaty San Steffan ar arwyl ei ffrind, Richard Dimbleby, yn 1965.
Gadawodd y BBC yn 1967 a daeth yn un o sylfaenwyr sianel teledu, Teledu Harlech, i wasanaethu Cymru a Gorllewin Lloegr. Apwyntiwyd Wynford Vaughan-Thomas yn Gyfarwyddwr Rhaglenni cyntaf Teledu Harlech (HTV) yng Nghaerdydd a thair blynedd yn ddiweddarach fe'i dyrchafwyd yn Gyfarwyddwr Gweithredol y cwmni. Daeth yn enw adnabyddus i gartrefi Cymru ar gyfrif ei raglenni ar y sianel annibynnol yn y 1970au a'r 1980au. Cyrhaeddwyd uchafbwynt ei yrfa o flaen y camerâu teledu pan drefnwyd cyfres deledu ar hanes Cymru o dan y teitl When was Wales?, pan wahoddwyd Vaughan-Thomas ac hanesydd proffesiynol, yr Athro Gwyn Alf Williams, i drafod a dadlau a chnoi cil ar hynt a helynt cenedl y Cymry o ddau safbwynt gwahanol. Amddiffynnai Vaughan-Thomas y safbwynt traddodiadol, rhyddfrydol o'r saga, tra cyflwynai'r Dr Gwyn A. Williams y safbwynt Marcsaidd. Daeth yr hanes yn fyw yng nghwmni'r ddau a bu'r gyfres yn 1985 yn destun trafod cyson.
Roedd Wynford Vaughan-Thomas yn ymfalchïo yn hanes Cymru ac yn amddiffynnydd tirlun Cymru. Paratôdd gyfrol ar y cyd gydag Alun Llewellyn, The Shell Guide to Wales (1969) a chyflwyniad i ardal a adweinai'n dda yn ei blentyndod a'i lenctyndod, Portrait of Gower (1976). Gwelir ei ymlyniad wrth Gymru, y tywysogion a'r gwyr bonheddig yn Wynford Vaughan-Thomas' Wales (1981), Princes of Wales (1982), The Countryside Companion (1983) a Wales: A History (1985). Dyma gorff pwysig o lenyddiaeth hanesyddol, boblogaidd. Ef hefyd oedd awdur Madly in all Directions (1967) a Dalgety (1984). Daliodd i ddarlledu ar y radio a theithio bob cyfle a gâi i Lundain i gyfarfod â'i ffrindiau o gyfnod y BBC a'u diddanu â'i stôr o limrigau 'amheus', storïau a digonedd o hiwmor.
Yng Nghymru bu'n barod iawn i dderbyn cyfrifoldebau yn y mudiadau a oedd wrth fodd ei galon. Bu'n Gyfarwyddwr Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru, Cadeirydd Cyngor Cadwraeth Cymru Wledig a Chyfarwyddwr o 1977 i 1980 i'r Sefydliad Ffilm Prydeinig (British Film Institute). Cafodd ei anrhydeddu am ei gyfraniad. Gan ei fod yn medru'r iaith fe'i gwahoddwyd yn aelod (gwisg wen) o Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Hwlffordd yn 1972, yn ei sir fabwysiedig.
Ar ôl priodi yn 1946 Charlotte, merch John Rowlands, un o weision sifil pwysicaf ei gyfnod, aeth y ddau i fyw i Abergwaun lle ganwyd ei mab, David Vaughan-Thomas, cyfarwyddwr ffilmiau. Gwnaed Wynford Vaughan-Thomas yn OBE yn 1974, MA (er anrhydedd) y Brifysgol Agored yn 1982, a CBE yn 1986. Bu farw yn ei gartref ym Mhentowr, Abergwaun ar 4 Chwefror 1987.
Gadawodd ei holl bapurau, sydd yn gasgliad gwerthfawr dros ben, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Adeiladwyd cofadail i'w goffáu ar ffurf toposcope ger Moel Fadian, tri chilometr o Aberhosan gan fod y lleoliad yn rhoddi golygfa fendigedig o dirlun Cymru tuag at fynyddoedd Gwynedd. Dathlwyd ei fywyd diddorol ar ddydd Gwener, 27 Tachwedd 2009, yn ei dref fabwysiedig, Abergwaun, o dan arweiniad Emyr Daniel, ei fab, ac eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 2011-03-04
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.