Ganwyd Dylan Thomas yn 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe, ar 27 Hydref 1914, yn fab i David John Thomas (1876-1952) a'i wraig Florence Hannah (ganwyd Williams, 1882-1958), y ddau o gefndir Cymraeg gwledig yn Sir Gaerfyrddin, y naill o ogledd y sir a'r llall o'r de-orllewin. Cymraeg a siaradai'r tad a'r fam â'i gilydd, ond penderfynodd y tad (gŵr gradd o Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, gydag Anrhydedd Dosbarth Cyntaf mewn Saesneg) yn erbyn magu Dylan a'i chwaer hŷn Nancy (1906-1953) yn Gymry Cymraeg, yn y gred mai Saesneg oedd y ffordd i 'ddod ymlaen' yn y byd. Talodd hefyd iddynt gael gwersi llafareg, ffasiwn dosbarth-canol yn Abertawe ar y pryd, er mwyn osgoi hyd yn oed acen Gymreig. Gan fod Abertawe'n dal yn dref ddwyieithog i raddau helaeth, ac y gallasai'r cartref fod yn naturiol ddwyieithog, achosodd colli'r Gymraeg dyndra creadigol i'r bardd. Wrth esbonio i gyfaill o fardd Saesneg yn ddiweddarach yr hyn a alwai ei 'cut-glass accent', ychwanegodd Thomas yn ddadlennol '… and I can't speak Welsh either!' Wedi'r cwbl, roedd ei dad yn nai i William Thomas, y bardd-bregethwr radicalaidd enwog Gwilym Marles (y cafodd Dylan ei enw canol, Marlais, ar ei ôl, ac felly hefyd ei chwaer, Nancy Marles). Ychydig wythnosau cyn geni Thomas, gwasanaethodd ei dad ar bwyllgor i groesawu Theatr Genedlaethol Cymru embryonig yr Arglwydd Howard de Walden i Abertawe, pan oedd opera de Walden, Dylan, Son of the Wave, yn cael ei pherfformio yn Covent Garden: felly y cafwyd yr enw 'Dylan' - o un o chwedlau canoloesol Y Mabinogi.
Roedd y tad yn Athro Saesneg Hŷn yn Ysgol Ramadeg Abertawe, yr ysgol a fynychodd Thomas o 1925 hyd 1931. O 1929 roedd Thomas yn gyd-olygydd hengall (ac wedyn yn olygydd) ar y Swansea Grammar School Magazine, wedi iddo fod yn un o'r prif gyfranwyr er ei flwyddyn gyntaf. Yn syth ar ôl gadael yr ysgol bu'n flaenllaw yn Theatr Fach Abertawe (1931-1934), a dechreuodd hynny hefyd yn yr ysgol - yn ei Chylch Darllen a'i chymdeithasau Drama a Dadlau. Dyna'r unig gyfnod o addysg ffurfiol a gafodd Thomas, wedi ei ddilyn gan bymtheng mis fel newyddiadurwr iau ar bapur y South Wales Daily Post yn Abertawe.
Erbyn hynny, roedd ei ddiddordeb cynyddol mewn barddoniaeth Saesneg - dylanwad adeiladol y tad y tro hwn - wedi dwyn ffrwyth mewn pedwar o lyfrau ymarferion ysgol (y math gyda thablau mathemategol a 'Danger-Donts' ar y cefn), a adwaenir bellach fel 'The Notebooks'. Yn y rhain, rhwng 1930 a 1934, cofnododd gerddi a oedd yn prysur aeddfedu (cedwid pumed llyfryn coch ar gyfer straeon byrion). Anfonodd y bachgen ysgol un ar bymtheg oed rai o'i gerddi at Robert Graves, a barnodd hwnnw'n llugoer eu bod yn 'unexceptionable'. Ond cyhoeddwyd y cerddi mewn cylchgronau yn Llundain, ac arweiniodd hynny yn fuan at ei gyfrol gyntaf 18 Poems yn Rhagfyr 1934. Fel y nododd William Empson: 'What hit the town of London was the child Dylan publishing [yn Hydref 1933] “The force that through the green fuse” as a prize poem in the Sunday Referee, and from that day he was a famous poet; I think the incident does some credit to the town, making it look less clumsy than you would think.'
Yn union cyn cyhoeddi 18 Poems, symudodd y llanc ugain mlwydd oed i Lundain i rannu llety gyda dau gyfaill o Abertawe, yr artistiaid Alfred Janes a Mervyn Levy. Dyma ddau o'i ffrindiau talentog niferus yn Abertawe a arferai gwrdd yn y 1930au cynnar yn y Kardomah Café gyferbyn â swyddfeydd yr Evening Post yn Castle Street. Yn eu plith yr oedd y bardd Charles Fisher, y cerddor a'r athro Tom Warner, y darlledwr Wynford Vaughan-Thomas, y cyfansoddwr Daniel Jones, ac, yn ddiweddarach, y bardd Vernon Watkins. Tan 1938, bu Thomas yn byw yn Llundain ac yn Abertawe am yn ail. Ar y pryd roedd y byd artistig cosmopolitaidd yn Llundain yn dathlu Swrealaeth a Picasso ym maes celf, y 'Moderniaid' Eliot, Pound a Joyce ym maes llenyddiaeth, a Stravinsky ym maes cerddoriaeth. Ond mewn degawd a greithiwyd gan y Dirwasgiad a phryderon am ail ryfel byd, cafwyd her fwy uniongyrchol i Thomas gan farddoniaeth wleidyddol 'ymrwymedig' cylch Auden. Nid oedd ei wleidyddiaeth sosialaidd yn wahanol i eiddo Auden, ond roedd ganddo'r fantais o allu dychwelyd at stôr hynod gyfoethog 'Notebooks' 1930-34 - at gerddi a roddai lais i olwg ar brofiad a oedd yn elfennaidd, yn gynwleidyddol, ac yn gynenedigol yn aml. Y 'Notebooks' a achubodd Thomas rhag cael ei lyncu gan unrhyw 'ffasiwn' barddonol yn y 1930au.
Cafwyd dwy gyfrol arall yn fuan wedi hynny yn y 1930au - Twenty-five Poems (1936) a The Map of Love (1939), yr olaf yn cynnwys saith stori fer hefyd. Gyda'r symud yn ôl ac ymlaen rhwng y bywyd llenyddol/cyfryngol yn Llundain a'r cyfnodau mwy cynhyrchiol gartref yng Nghymru, gosodwyd patrwm a fyddai'n parhau ar hyd ei oes. Cryfhawyd ei angorfa greadigol yng Nghymru gan ohebiaeth bwysig o 1935 ymlaen â'i gyfaill o Abertawe, y bardd Vernon Watkins. Mynnai bob amser mai crefft yw barddoniaeth yn gyntaf oll - bod bardd yn gweithio 'allan o eiriau' (gan greu ystyr), nid 'tuag at eiriau' (gan greu awyrgylch) - awgrym arall fod rhywbeth greddfol Gymreig yn ei anian farddol. Fel y dywedodd Mallarmé, 'nid â syniadau yr ysgrifennir barddoniaeth, ond â geiriau'. Trwy gydol y 1930au, daeth Thomas yn fwyfwy adnabyddus, gan ennill sylw ychwanegol trwy gyfrwng ei adolygiadau niferus o lyfrau gan awduron modern ym mhrif gylchgronau Llundain. Fe'i disgrifiwyd gan un golygydd blaenllaw yn Llundain fel 'a swell reviewer'.
Yn Ebrill 1936, yn Llundain, cyfarfu â Caitlin Macnamara (1913-1994). Yn ferch i deulu o uchelwyr Protestannaidd o Iwerddon, magwyd Caitlin yn Hampshire ac roedd ganddi nwydau bohemaidd iawn a feithrinwyd dan ddylanwad Augustus John. Priododd Dylan a Caitlin yn Penzance ym mis Gorffennaf 1937. Ym mis Mai 1938 symudasant i fyw am y tro cyntaf yn Nhalacharn, sir Gaerfyrddin, y pentref a gysylltir agosaf â Thomas erbyn hyn, ac a gafodd ddylanwad dwfn ar ei waith diweddarach. Y flwyddyn honno dyfarnwyd iddo Wobr Farddoniaeth Blumenthal y cylchgrawn Poetry (Chicago). Roedd W. H. Auden a Michael Roberts wedi dewis 'We lying by seasand' ar gyfer 'English Number' arbennig o'r cylchgrawn - cyhoeddiad cyntaf Thomas yn America. Yn Nhalacharn yn 1938 dechreuodd ysgrifennu ei waith rhyddiaith mwyaf, Portrait of the Artist as a Young Dog (1940), cyfrol a alwai'n 'stories towards a Provincial Autobiography'. Er nad oeddent ond yn lled-realaidd, symudodd y rhain oddi wrth naws swrealaidd/ mythig ei straeon cynharach, a hefyd oddi wrth yr olwg lem ddychanol ar Gymru a geid yn straeon Caradoc Evans. O 1938, parhaodd y pwyslais hunangofiannol. Arwyddodd y stori olaf yn Portrait of the Artist as a Young Dog ymadawiad y glaslanc ag Abertawe. Rhoddwyd y gorau i ymgais ar ddilyniant ar ffurf nofel is-Dickensaidd, Adventures in the Skin Trade (1955), am ei fywyd cynnar yn Llundain. Ond o 1944 ymlaen, daeth cywair hunangofiannol mwy cynnil i'r amlwg, mewn cerddi (a darnau rhyddiaith telynegol) a osodai'r bardd mewn tirluniau y gellir eu hadnabod fel rhai Cymreig.
O 1941 (y flwyddyn y gwerthodd ei 'Notebooks') hyd ddiwedd y rhyfel, roedd Thomas wedi bod yn ysgrifennu sgriptiau ffilm ar gyfer Strand Films, ac yn ddiweddarach ar gyfer Gryphon Films, dan reolaeth fonopoleiddiol y Weinyddiaeth Wybodaeth. Enghraifft dda o'i lwyddiant wrth gyplysu effeithiau llenyddol â gofynion technegol (a phropaganda'n aml) ffilmiau yn ystod y rhyfel yw The Doctor and the Devils (1966). Ar yr un pryd, roedd hefyd yn ysgrifennu sgriptiau radio a rhaglenni nodwedd ac yn cymryd rhan mewn sgyrsiau a darlleniadau ar gyfer Radio'r B.B.C. Yn sgil ei gryfderau naturiol ar y radio - gwybodaeth eang, dyfeisgarwch chwim a llais cofiadwy - daeth yn enw cyfarwydd. Gwaith nodedig ganddo ar gyfer y radio, yn ail yn unig i Under Milk Wood a ddarlledwyd ar ôl ei farw, yw 'Return Journey' (1947), lle mae Thomas yn olrhain ei ieuenctid coll trwy Abertawe, tre a ddinistriwyd hithau gan y rhyfel. Yn y cyfamser, er bod y cerddi wedi arafu yn sgil y rhyfel, eto mae galarnadau mawr fel 'There was a saviour', 'Deaths and Entrances', 'Ceremony After a Fire Raid' ac 'A Refusal to Mourn the Death, by Fire, of a Child in London' ymysg y cerddi gorau a darddodd o'r rhyfel hwnnw.
Tua diwedd y rhyfel, daeth Cymru'n gartref iddo eto. Yn Llan-gain a Cheinewydd yn 1944-45 cafwyd cyfnod newydd o greadigrwydd barddol. Gyda'r cyfnod 1938-40 yn Nhalacharn, hwn oedd yr un mwyaf cynhyrchiol er cyfnod neilltuol o doreithiog 'Notebooks' 1930-1934 yn Abertawe. Cynyddodd y sylw yn America yn sgil ei gyfrol unigol orau o gerddi, Deaths and Entrances (1946). Ond fel gŵr priod, a thad Llewelyn Edouard (1939-2000) ac Aeronwy Bryn (1943-2009), ei obaith oedd ennill bywoliaeth gartref yng Nghymru. Roedd y gwaith ar gyfer ffilm a radio yn ystod y rhyfel wedi helpu yn hynny o beth, ond roedd hefyd wedi ei orfodi i fyw o fewn cyrraedd hawdd i Lundain. Rhwng 1946 a 1949, trigai'r teulu yn Rhydychen neu'r cyffiniau, gydag ymweliadau ag Iwerddon, yr Eidal a Phrâg. Ond ble bynnag yr oedd, byddai Thomas o hyd yn gweithio ar gerddi a ddechreuwyd gartref yng Nghymru. Yn Rapallo a Florence y cwblhaodd y gerdd 'In Country Sleep' sydd wedi ei gosod mewn tirlun Cymreig.
Aeth ar ei ben ei hun i Brâg fel gwestai'r llywodraeth, i fynychu cyfarfod sefydlu'r Undeb Awduron Czech. Er yn gwbl gartrefol yn cwrdd ag awduron ac yn cymysgu â phobl Czech, ni hoffai ffurfioldeb gweithgareddau a chyfweliadau Sofietaidd biwrocrataidd. Dangosodd ei blwc pan gwynodd am lythrenoldeb poenus y cyfieithydd swyddogol a bennwyd ar ei gyfer. Synhwyrodd yn fuan - agendor dwyieithog arall - fod arlliwiau pwysig yn cael eu colli rhwng dwy iaith y cyfieithydd. Ond er mwyn gwneud pwynt difrifol mewn ffordd ddigrif - un o'i ddoniau fel awdur nas gwerthfawrogwyd yn iawn eto - dringodd ar Bont Charles, cofleidio un o'i cherfluniau enwog yn felodramataidd, gan fygwth neidio i mewn i Afon Charles oni newidid y Cyfieithydd Swyddogol arbennig hwn.
Yn ôl yng Nghymru ym mis Mai 1949, symudodd (diolch i haelioni ariannol Margaret Taylor, gwraig yr hanesydd o Rydychen A. J. P. Taylor) i fyw yn y Boat House yn Nhalacharn sydd bellach yn adeilad eiconig. Roedd wedi gobeithio ymgartrefu yn y pentref hwnnw ers meityn: roedd eisoes wedi rhentu tŷ yno ar gyfer ei rieni, ac yno y ganwyd ei drydydd plentyn Colm Garan Hart (1949-2012). Yn gynnar yn 1951 aeth ar ymweliad pum wythnos ag Iran i ysgrifennu sgript ffilm ar gyfer y Cwmni Olew Eingl-Iranaidd. Ond yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei waith ei hun erbyn hyn oedd Talacharn. Cydnabu'r lle fel 'lleoliad drama radio rwy'n ei sgrifennu' - hynny yw, Under Milk Wood. Wedi ei hysbrydoli gan ysgrif radio fer o gyfnod y rhyfel a luniodd yng Ngheinewydd yn 1944, bu i'r gwaith ddatblygu ei ffurf lawn fel drama radio trwy gyfrwng y dramatis personae ehangach a gynigiodd Talacharn, ac yn awyrgylch gwahanol, niwclear, y Rhyfel Oer.
Roedd gwaith Thomas wedi ei gyhoeddi'n eang yn America mor gynnar â 1939. Dilynwyd ei daith gyntaf i America yn Chwefror-Mehefin 1950 gan dair arall yn 1952 a 1953. Yn ystod yr ail daith yn 1952, cyhoeddwyd ei gyfrol unigol olaf o farddoniaeth In Country Sleep - yn America yn unig. Dyna gwblhau'r pum cyfrol a ffurfiodd ei Collected Poems 1934-1952 (1952). Yn ei 'Note' rhagarweiniol i'r gyfrol bwysig honno, dywedodd mai'r rhain oedd 'y rhan fwyaf o'r cerddi a ysgrifennais, a'r cwbl, hyd at eleni, yr wyf yn dymuno eu cadw'. Prin chwarter o'r cerddi a ysgrifenasai a gynhwyswyd yn y gyfrol, ond ei bwynt oedd mai'r rhain oedd y cerddi y dymunai i'w fri ddibynnu arnynt. Mae'n bwynt sy'n haeddu parch. Gwyddai ble i bennu ffin, nid yn unig yn achos juvenilia ond rhwng barddoniaeth a rhigymau pur. Yn 'Notebooks' 1930-1934, roedd wedi adnabod yn ddi-feth yr eitemau a oedd â'r potensial i fod yn gerddi gwych. Dewisodd y rhain ar gyfer ei bedair cyfrol gyntaf. Y rhain wedyn, gydag In Country Sleep, a aeth i ffurfio ei Collected Poems 1934-1952 (1952), gan gadarnhau dilysrwydd awdurol y gyfrol honno. Enillodd Wobr Barddoniaeth Foyle's, gyda chymeradwyaeth ryngwladol.
Ond oherwydd ei fywyd blêr, a'i naïfrwydd mewn materion ariannol, nid oedd hyd yn oed pedair taith broffidiol i America yn ddigon i wneud pethau'n haws gartref yng Nghymru. Ac eto i gyd, yn Efrog Newydd ym mis Mai 1953, ac wedyn ym mis Tachwedd yr un flwyddyn (ychydig ddyddiau yn unig cyn ei farwolaeth) y cwblhaodd Under Milk Wood, ac y rhoddodd y perfformiad diffiniol fel yr adroddwr yn y darlleniadau cyhoeddus cyntaf. Ar yr un pryd, fe'i gwahoddwyd gan Opera Workshop Prifysgol Boston i ysgrifennu libretto ar gyfer opera newydd gan Stravinsky - ar awgrym Stravinsky ei hun. Ond pan gyrhaeddodd ar gyfer y daith olaf roedd Thomas yn amlwg yn flinedig ac yn sâl, canlyniad tuedd gynyddol i yfed yn drwm. Roedd y rhaglen ryngdaleithiol enfawr o ymrwymiadau ar gyfer pob un o'r pedair taith yn America hithau yn annaturiol o drwm, ac mae'r bai sydd ar y rhai a oedd â chyfrifoldeb proffesiynol dros ei les (yn bennaf ei asiant ar gyfer y teithiau, John Malcolm Brinnin) yn ymestyn hyd yn oed yn bellach na hynny. Nid oedd marwolaeth Thomas yn 39 oed yn anochel o gwbl. Fe'i hachoswyd gan bresgriptiwn o forffin swlffad gan feddyg Americanaidd anghyfrifol. Hyd yn oed i leddfu poen derfynol, y dogn cywir fyddai un rhan o chwech o ronyn. Rhoddwyd teirgwaith gymaint â hynny i drin anghysur Thomas. Yr effaith oedd dwysáu ei drafferth wrth anadlu, gan amddifadu ei ymennydd o ocsigen.
Bu farw Dylan Thomas yn Ysbyty Elusennol Catholig St Vincent yn Ninas Efrog Newydd ar 9 Tachwedd 1953. Fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys St Martin yn Nhalacharn ar 24 Tachwedd 1953. Ar Ddydd Gŵyl Dewi 1982 dadorchuddiwyd maen coffa iddo yn Abaty Westminster, wedi ei osod rhwng y rhai i Byron a George Eliot.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-10-24
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Ganwyd 27 Hydref 1914 yn Abertawe, yn fab i David John Thomas a'i wraig Florence Hannah (ganwyd Williams); hanent ill dau o dras gwledig a Chymraeg yn siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin. Bu'r tad, a oedd yn nai i Gwilym Marles, yn athro Saesneg yn ysgol ramadeg Abertawe o 1899 hyd 1936, a bu Dylan Thomas yn ddisgybl yno o 1925 hyd 1931. Dyna oedd yr unig gyfnod o addysg ffurfiol a gafodd. Aeth wedyn yn is-ohebydd i'r South Wales Daily Post am ryw bymtheg mis, ond gwelwyd ffrwyth ei ddiddordeb cynnar mewn barddoniaeth Saesneg eisioes yn y pedwar nodlyfr lle y cofnododd y cynharaf o'i gerddi aeddfed rhwng 1930 ac 1933. Y nodlyfrau hyn oedd prif ffynhonnell y cerddi a ymddangosodd yn y tair cyfrol gyntaf a gyhoeddodd: 18 poems (Llundain, 1934), Twenty-five poems (Llundain, 1936), a The map of love (straeon byrion a cherddi: Llundain, 1939). Canlyniad cyhoeddi cerddi unigol yng nghylchgronau Llundain oedd ei gyfrol gyntaf, a hyn yn ei dro a barodd iddo symud i Lundain ym mis Tachwedd 1934. Yn ystod y 1930au cafodd ei waith sylw cynyddol yn America yn ogystal ag ym Mhrydain, ac fe'i gwahoddwyd i adolygu llyfrau ar gyfer cylchgronau blaenllaw Llundain. Patrwm gweddill ei yrfa oedd symud ar yn ail rhwng cylch llenyddol-gymdeithasol Llundain a chyfnodau mwy creadigol yng Nghymru. Dechreuodd cyfeillgarwch agos rhyngddo a'r bardd VernonWatkins yn Abertawe yn 1935.
Cyfarfu â Caitlin Macnamara yn 1936 a phriodasant y flwyddyn wedyn. Ym mis Mai 1938 symudasant i fyw yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin, am y tro cyntaf; bu'r pentref hwn, sydd ynghlwm wrth ei enw bellach, yn ddylanwad cryf ar ei farddoniaeth a'i ryddiaith ddiweddarach. Derbyniasai wobr barddoniaeth Blumenthal o America, ac yr oedd wrthi'n ysgrifennu'r straeon byrion hunangofiannol a gyhoeddwyd dan y teitl Portrait of the artist as a young dog (Llundain, 1940). Yr oedd realaeth smala'r straeon hyn yn wahanol iawn i'r elfen macabre a swrealaidd yn ei waith cynnar, a geir yn A prospect of the sea (Llundain, 1955). Ar ôl dechrau Rhyfel Byd II cychwynnodd ar y gwaith o lunio sgriptiau radio i'r B.B.C. a darlledu sgyrsiau a darlleniadau. Bu'n ddarlledwr poblogaidd hyd ddiwedd ei oes a gwelir ansawdd ei waith radio yn y gyfrol Quite early one morning (Llundain, 1954). O 1942 hyd ddiwedd y rhyfel fe'i cyflogwyd i lunio sgriptiau i Strand Films yn Llundain; enghraifft o'i waith yn y cyfrwng yma yw The doctor and the devils (Llundain, 1953).
Yr oedd y rhyfel wedi ymyrryd â'i waith barddonol, er iddo ymgartrefu fwyfwy yng Nghymru tua diwedd y rhyfel. Yn Llan-gain a Cheinewydd yn 1944-45 cychwynnodd ar gyfnod newydd o waith creadigol fel bardd. Dyma oedd y cyfnod mwyaf cynhyrchiol ers y blynyddoedd cynnar yn Abertawe, a gwelwyd y ffrwyth yn Deaths and entrances (Llundain, 1946). Ar ddiwedd y rhyfel, fodd bynnag, dechreuodd ymddiddori hefyd mewn ymweld ag America, ac yr oedd y rheidrwydd i ennill bywoliaeth (yn bennaf trwy waith ar gyfer ffilmiau a radio) yn golygu byw o fewn cyrraedd i Lundain. O 1946 hyd 1949, felly, bu'r bardd a'i deulu yn byw yn Rhydychen neu'r cyffiniau. Ymwelodd â Phrâg yn 1949 ar wahoddiad llywodraeth Siecoslofacia.
Symudodd i fyw yn y 'Boat House' yn Nhalacharn ym mis Mai 1949, ac yno y ganwyd ei drydydd plentyn. Ei fwriad oedd sefydlu cartref parhaol yno, trwy gymorth ariannol ymweliadau ag America, o bosibl, lle yr oedd bri ar ei enw fel bardd. Chwefror-Mehefin 1950 oedd cyfnod ei ymweliad cyntaf ag America, ac aeth deirgwaith yn rhagor yn 1952 ac 1953. Y gwaith unigol a gymerodd y rhan fwyaf o'i amser o 1950 ymlaen oedd y ddrama radio Under Milk Wood (Llundain, 1954), a ysbrydolwyd yn bennaf gan awyrgylch a thrigolion Talacharn ei hun. Yn ystod ei ail daith yn America cyhoeddwyd yr olaf o'i gyfrolau unigol o gerddi, yn America yn unig, sef In country sleep (Efrog Newydd, 1952). Dyma gwblhau'r rhestr o gyfrolau a oedd i'w cynnwys yn ei Collected poems 1934-1952 (Llundain, 1952), a enillodd wobr barddoniaeth Foyle. Ond o ganlyniad i'w yfed gormodol a'i agwedd anghyfrifol at arian profodd ansefydlogrwydd personol ac ariannol na allai hyd yn oed yr ymweliadau llwyddiannus ag America ei ddatrys, a hyn yn ei dro yn esgor ar lai a llai o gynnyrch newydd gartref. Bu farw yn Efrog Newydd ar 9 Tachwedd 1953, ac fe'i claddwyd yn Nhalacharn.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.