Ganwyd yn Glan Rhyd y Gwiail ger Brechfa, Sir Gaerfyrddin, yn fab i William ac Ann Thomas (gynt Jones), ond mabwysiadwyd ef gan chwaer ei dad. Fe'i addysgwyd yn ysgol Ffrwd-y-fâl, 1851, Coleg Caerfyrddin, 1852-6, a Phrifysgol Glasgow, 1856-60, lle graddiodd yn M.A. Aeth i Goleg Caerfyrddin yn Annibynnwr ond daeth oddi yno yn Undodwr, ac ar ddiwedd ei gwrs yn Glasgow ymsefydlodd yn weinidog ar eglwysi Undodaidd Bwlch y Fadfa a Llwynrhydowen, a bu yno o 1860 hyd ei farw.
Bu'n athro preifat i 'Islwyn' rhwng Tachwedd 1857 a Chwefror 1858, a chyfrannodd nofel i Seren Gomer, 1855. Cyhoeddodd ei gyfrol fechan, Prydyddiaeth, yn 1859, a golygodd a chyfrannodd yn helaeth i'w gylchgrawn, Yr Athraw, yn ystod ei fodolaeth o Medi 1865 hyd Awst 1867. Ei brif gyfraniadau i'r Ymofynydd oedd 'Cofion a Chyffesiadau 1861,' 'Hanner awr gyda'r Bardd o Bantycelyn,' 1863, a 'Theodore Parker,' 1863-4.
Bu'n ddisgybl pybyr i syniadau diwinyddol a chymdeithasol Parker ac o'r herwydd yn gychwynnydd i'r Undodiaeth fodern yng Nghymru. Ymunodd yn galonnog ag achos Rhyddfrydiaeth yn Sir Aberteifi a bu ei gyfraniadau i'r Wasg, ei areithiau, a'i bregethau, yn gyfrwng i godi'r landlordiaid yn ei erbyn; a hyn oedd achos ei droi ef a'i gynulleidfa allan o hen gapel Llwynrhydowen, 29 Hydref 1876. Bu'n flaenllaw yn ystod etholiad 1868 a chefnogodd egwyddor y balot. Cadwodd ysgol yn Llandysul, 1860-79, a bu'n gyfrwng i sefydlu achos Undodaidd newydd yn y pentref.
Bu farw 11 Rhagfyr 1879 a chladdwyd ef ym mynwent y capel newydd, Llwynrhydowen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.