JOHN, AUGUSTUS EDWIN (1878 - 1961), arlunydd

Enw: Augustus Edwin John
Dyddiad geni: 1878
Dyddiad marw: 1961
Priod: Ida John (née Nettleship)
Partner: Dorothy McNeill
Plentyn: Elizabeth Ann Jackson (née John)
Plentyn: Edwin John
Plentyn: David Anthony Nettleship John
Rhiant: Augusta John (née Smith)
Rhiant: Edwin William John
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: arlunydd
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Ceridwen Lloyd-Morgan

Ganwyd 4 Ionawr 1878, trydydd plentyn Edwin William John a'i wraig Augusta (ganwyd Smith); brawd iau Gwendolen Mary John. Symudodd y teulu o Hwlffordd, Penfro, i Ddinbych-y-pysgod wedi marwolaeth y fam yn 1884. Cafodd Augustus John ei addysg gynnar yn Ninbych-y-pysgod a Clifton, cyn mynd i Lundain yn 1894 i astudio celf am bedair blynedd yn y Slade, dan oruchwyliaeth Henry Tonks a Frederick Brown. Yn fuan gwnaeth enw iddo'i hun fel arlunydd ac fel cymeriad bohemaidd. Trwy ei chwaer Gwen, a'i dilynodd i'r Slade yn 1895, daeth i adnabod grŵp o ferched disglair y coleg, gan gynnwys Ursula Tyrwhitt, y bu mewn cariad â hi am gyfnod, ac Ida Nettleship, a briododd yn 1901. Yn fuan wedyn penodwyd ef i ddysgu arlunio ym Mhrifysgol Lerpwl, ac yno y ganed eu mab cyntaf, David, yn 1902. Yno hefyd y cyfarfu â John Sampson, llyfrgellydd y Brifysgol, ac awdurdod ar y sipsiwn. Dysgodd yr iaith Romani i'r arlunydd, ac yn ystod y blynyddoedd dilynol aeth yntau a'i deulu yn aml i rodio Cymru a Lloegr fel sipsiwn mewn carafan, yr hyn a ysbrydolodd nifer o'i luniau cyn Rhyfel Byd I.

Yn yr hydref, 1902, cyfarfu â Dorothy McNeill, un arall o gyfeillion Gwen John. Galwai ef hi Dorelia, enw sipsi, a hi fu ei brif fodel a'i ysbrydoliaeth am weddill ei oes. Dychwelodd Dorelia o daith ar y Cyfandir gyda Gwen John i roi cynnig byrhoedlog ar ménageà-trois yn Essex, cyn i Ida a Dorelia fudo i Baris gyda'u plant; ymwelai Augustus John â hwy yno o bryd i'w gilydd. Wedi marwolaeth Ida yn 1907, yn dilyn genedigaeth ei phumed plentyn, daeth Dorelia yn wraig i Augustus ymhob dim ond enw. O 1911 ymlaen bu'r teulu'n byw yn Alderney Manor, Dorset, ond yn 1927 ymsefydlasant yn Fryern Court, Hampshire, er y treuliai'r arlunydd lawer o amser yn ei stiwdio yn Llundain. Bu farw yn Fryern Court, 31 Hydref 1961.

Lluniadau rhagorol, yn enwedig o'i gyfoedion megis ei ddwy wraig a'i chwaer, sydd yn nodweddu cyfnod cynnar ei yrfa, ynghyd â phortreadau olew dan ddylanwad yr Hen Feistri; arbrofodd hefyd gyda chyfres o ysgythriadau. Yn ystod ei ymweliadau â gogledd Cymru rhwng 1910 ac 1913, yng nghwmni'r arlunydd o Gymro, James Dickson Innes, daeth ei ddawn ym maes y tirlun i'r amlwg yn ogystal â dull mwy modern, argraffiadol o baentio, agwedd a welir hefyd yn y lluniau olew a dynnodd yn ne Ffrainc, lle y treuliodd gyfnodau hir yn yr 1920au. Ar ôl Rhyfel Byd I, pryd y bu am ysbaid yn Ffrainc fel arlunydd rhyfel i lywodraeth Canada, daeth Augustus John mor llwyddiannus fel paentiwr portreadau fel y rhwystrwyd datblygiad ei ddiddordebau artistig personol. Gadawodd nifer o luniau mawr dychmygus o grwpiau o ffigurau yn anorffenedig fel canlyniad. Etholwyd ef yn aelod cyflawn o'r Academi Frenhinol yn 1928, ymddiswyddodd yn 1938, ond fe'i hail-etholwyd yn 1940. Derbyniodd yr O.M. yn 1942 am ei wasanaeth i gelfyddyd. Er nad ymgartrefodd yng Nghymru ar ôl 1894, yr oedd ei gariad at ei wlad enedigol yn ddiysgog, a bu'n gefnogol i'r Eisteddfod Genedlaethol ac Academi Frenhinol Cambria. Cedwir casgliad pwysig o'i luniau yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, a'i bapurau personol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1997

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/