Ganwyd 27 Chwefror 1887 yn Llanelli. Ef oedd yr ieuengaf o feibion John Innes, cyfrifydd, a'i wraig Alice Anne Mary (née Rees). Addysgwyd ef yng ngholeg Crist, Aberhonddu, ac yna yn ysgol arlunio Caerfyrddin. Enillodd ysgoloriaeth i ysgol arlunio Slade yn Llundain yn 1905, a threuliodd ddwy flynedd yno.
Ni bu erioed yn gryf ei iechyd ac yn 1908 sylweddolwyd mai'r darfodedigaeth oedd yn peri hynny. Yn ystod y blynyddoedd dilynol treuliodd lawer o amser gydag arlunwyr a chyfeillion eraill ar y cyfandir yn ceisio adfer ei iechyd. Bu yn ne Ffrainc am beth amser yn 1908, gyda John Fothergill, a'r adeg honno y dechreuodd beintio o ddifrif. Rhwng 1909 a 1913 bu am ysbaid ym Mharis, ac yna yn Collioure ac Ysbaen gyda Derwent Lees, ac ym Marseilles gydag Augustus John. Yr oedd John ac yntau'n gyfeillion calon a theithiodd y ddau lawer gyda'i gilydd yng ngogledd Cymru, yn enwedig yn ardal yr Arennig yn Sir Feirionnydd. Ymneilltuodd i Forocco yng nghwmni Trelawnay Dayrell-Reed am gyfnod ond nid oedd yr hinsawdd yno'n dygymod â'i iechyd a dychwelodd i Brighton yn gynnar yn 1914. Bu farw yn Swanley, swydd Gaint, 22 Awst 1914, a chladdwyd ef ym mynwent Chislehurst. Symudwyd ei weddillion i fynwent Whitchurch ger Tavistock, 6 Ionawr 1934.
Dyfrlliw oedd ei hoff gyfrwng ar y dechrau, ond cyn bo hir trodd at waith olew, a chanolbwyntio ar olygfeydd natur. Y mae'r defnydd a wnaeth o liwiau disglair a thanbaid yn nodweddiadol o'i waith, nid yn unig o'i olygfeydd yn Ne Ffrainc ond hyd yn oed o'i ddarluniau o ogledd Cymru. Edmygai gelfyddyd a thechneg Turner, Constable, a John Sell Cotman yn arbennig, ond ychydig o ddylanwad unrhyw artist neu fudiad arall sydd i'w olrhain yn uniongyrchol yn ei waith, a chadwodd ei nodweddion personol ei hun.
Dangoswyd un darlun o'i eiddo yn arddangosfa'r New English Art Club pan oedd ond yn 19 oed, a chynhaliwyd arddangosfa o'i luniau dyfrlliw yn Oriel Chenil yn Llundain yn 1910. Dangoswyd ei waith yn oriel Tate yn 1921-2 a chynhaliwyd ail arddangosfa goffa o'i waith yn oriel Chenil yn 1923. Yr un flwyddyn agorwyd cronfa gan awdurdodau'r Llanelly Star, i brynu rhai o'i ddarluniau i'r dref honno. Y mae enghreifftiau o'i waith hefyd yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd, ac yn orielau Tate yn Llundain, Temple Newsam yn Leeds, tref Aberdeen, a dinas Manceinion, ac mewn amryw o gasgliadau cyhoeddus a phreifat eraill.
Dyddiad cyhoeddi: 1970
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.