INNES, JOHN, ' Ynys Hir ', (1853? - 1923), cyfrifydd a hynafiaethydd

Enw: John Innes
Ffugenw: Ynys Hir
Dyddiad geni: 1853?
Dyddiad marw: 1923
Priod: Alice Anne Mary Innes (née Rees)
Plentyn: John Innes
Plentyn: Alfred George Innes
Plentyn: James Dickson Innes
Rhiant: Robert Vertue Innes
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfrifydd a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Economeg ac Arian; Hanes a Diwylliant; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Hywel David Emanuel

a anwyd yn Campbelltown, swydd Argyle, yn yr Alban. Penodwyd ei dad, Robert Vertue Innes, yn gasglwr tollau dros ranbarth de Cymru yn Llanelli, Sir Gaerfyrddin, a chymerodd ran amlwg yn sefydliad ysgol uwchradd yn y dref tua 1863. Cyfrifydd oedd John Innes yng ngwasanaeth y Mri. Nevill Druce, yn Llanelli. Ar 9 Awst 1883 yn eglwys yr Holl Saint, Llanelli, priododd ag Alice Ann Mary, unig blentyn y diweddar Alfred C. G. Rees o Ystumllwynarth, a ganwyd tri mab iddynt rhwng 1884 a 1887, - Alfred George (gweler Who's Who in Wales, arg. 1920, t. 203), John (bedyddiwyd 24 Tachwedd 1885), a James Dickson yr arlunydd (gweler yr erthygl flaenorol). Ym mis Gorffennaf 1913 oherwydd ei iechyd symudodd Innes i Whitchurch ger Tavistock yn swydd Dyfnaint, lle hefyd y bu farw 7 Mai 1923 yn 70 mlwydd oed. Ef oedd un o arloeswyr sefydlu'r ' Mechanics Institute ' a fabwysiadwyd wedi hynny gan y dref a'i wneud yn llyfrgell gyhoeddus Llanelli. Gweithredodd Innes fel cadeirydd pwyllgor y llyfrgell am rai blynyddoedd cyn ymadael â'r dref. Traddododd nifer o ddarlithiau ar destunau ynglŷn â hanes lleol ardal Llanelli, ac o'r diwedd darbwyllwyd ef i'w gwneud yn llyfr. Yn 1902, gyda chydweithrediad Arthur Mee, cyhoeddodd Innes lyfr Old Llanelly. Y mae'n waith o ansawdd llenyddol go uchel, yn cynnwys hanesion diddorol a chyffyrddiadau ysgafn yn ogystal â ffeithiau hanesyddol. Ymddiddorai Innes hefyd mewn ffotograffi a daeareg, ac yr oedd ganddo gasgliad gwych o ffosilau wedi'u casglu o weithfeydd a chwareli'r cylch.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1970

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.