Ganwyd yn Hwlffordd, Penfro, 22 Mehefin 1876, ail blentyn Edwin William John ac Augusta (ganwyd Smith) ei wraig, a chwaer hyn Augustus John. Addysgwyd hi yn Ninbych-y-pysgod, lle'r aeth y teulu i fyw wedi marw ei mam yn 1884. Bu'n tynnu lluniau o'i phlentyndod, a'i phaentiadau olew cynharaf i oroesi yw'r portread o Winifred ei chwaer iau (amgueddfa Dinbych-y-pysgod) a golygfa o harbwr Dinbych-y-pysgod. Dilynodd gamre ei brawd, Augustus, i ysgol gelfyddyd Slade, Prifysgol Llundain (1895-98). Gwnaeth ffrindiau oes yn yr ysgol hon, ac ynddi y datblygodd ei hagwedd at arlunio, er iddi ddysgu mwy gan ei chyd-ddisgyblion na'i hathrawon. Rhannai lety ag Augustus ar y cychwyn, ond aeth wedyn i fyw ar ei phen ei hun mewn ystafelloedd yn ardaloedd Fitzroy a Bayswater, Llundain, a chymerodd ystafelloedd cyffelyb ym Mharis a Meudon yn ddiweddarach. O'i hunanbortreadau a'r lluniadau ohoni gan Augustus gwelir mai un fain, o daldra cyffredin ydoedd, a chanddi wallt gwinau; gwisgai'n drwsiadus bob amser, gan ddangos hoffter o dlysau a lês. Cofiai Edna Waugh hi'n siarad ag acen Sir Benfro. Sylweddolir fod yr hyfforddiant a geid yn ysgol Slade yn wahanol i'r hyn a welwn erbyn hyn fel ei harddull hi, oherwydd dysgid yno wahanu lluniadau a phaentio, gan bwysleisio'r blaenaf. Er iddi wneud ychydig luniadau yn null Henry Tonks, ei hyfforddwr, portreadau o ferched cyfoed yw ei lluniadau gorau, yn enwedig y rhai o Winifred. Yn 1898 treuliodd chwe mis ym Mharis i fynychu ysgol Whistler. Cymerodd at yr esiampl a roddai Whistler o fynnu rheolaeth fanwl ar y lliwiau a ddewisai a chymryd un person ar ei ben ei hun mewn ystafell fel testun dewisol.
Dychwelodd i fyw yn Lloegr, am y tro olaf, hyd 1903.
Arddangoswyd gan y New English Art Club ei phaentiadau prin a amlygai ddatblygiad yn ei thechneg realaidd a'i synnwyr o gytbwysedd mewn arlliwiau, fel oedd gan Whistler. Yn 1903 gadawodd Brydain i fynd ar daith gerdded trwy Ffrainc gyda Dorelia McNeill, cariadwraig Augustus, ac ennill eu tamaid trwy wneud portreadau ar y ffordd. Bwriadent fynd i Rufain, ond yn Chwefror 1904 cyraeddasant Baris yn lle hynny. Cynaliasant eu hunain yno fel modelau arlunwyr ym Montparnasse. Cofnodwyd bywyd Gwen John ym Mharis o 1904 ymlaen mewn llythyron i Brydain, yn arbennig mewn cyfres at yr arlunydd Ursula Tyrwhitt (yn LlGC) ac yn ei llythyron dibrin i'r cerflunydd Rodin, ei chariad am gyfnod wedi iddi weithio iddo fel model yn 1904. Ni wyddai neb am y gyfathrach a fu rhyngddynt nes i Michael Holroyd gyhoeddi bywgraffiad o Augustus (1974), ond daeth yn wybyddus wedi i Susan Chitty drafod y llythyron sydd ym Musée Rodin a dyfynnu ohonynt (1981). Hyd ei farwolaeth yn 1924 cynhaliwyd hi gan John Quinn, casglwr o Efrog Newydd, a brynai gymaint ag a fyddai'r arlunydd anfoddol yn barod i'w gollwng o'i dwylo; rhoddai hefyd fudd-dâl blynyddol iddi. Dechreuodd amgueddfeydd yr Amerig brynu rhai o'i lluniau hefyd.
Yn gynnar yn 1913 derbyniwyd hi'n aelod o'r Eglwys Gatholig. Paentiodd bortreadau o ddwy leian o leiandy ym Meudon (yn y dref lle trigai Rodin, a lle y symudodd hithau i fyw yn 1911) ynghyd â chopïau lawer o luniau sefydlwyr eu hurdd. Paentiodd set o luniau bychanig mewn gouache o bobl mewn eglwys ac o blant, ac yna gwneud atgynhyrchiadau cywir, ymron, ohonynt. Bu'i arlunio'n ddiwyd yn y cyfnod 1918-24, gan arddangos mwy o'i gwaith. Dyma pryd y gwnaeth ei chyfres eithriadol ac unigryw o bortreadau gyda chyffyrddiadau o liw trwchus ar gefndir o arlliwiau ysgafn yn ymdoddi'n esmwyth. Ei thestun yn aml oedd merch ifanc yn eistedd yn ei hystafell. Mewn nodiadau o'i heiddo (yn LlGC) ymdrecha i berffeithio'i chwmpas o liwiau ac ystyried eu haddasrwydd ar gyfer blodau.
Cynyddodd mewn bri'n gyson er pan gynhaliwyd arddangosfa gofiannol o'i gwaith yn adeilad Matthieson yn 1946. Yng nghatalog Cyngor y Celfyddydau yn 1968 i'r arddangosfa adolygol yn Llundain, Sheffield a Chaerdydd y rhoddwyd y disgrifiad manwl cyntaf o'i gwaith. Yr union adeg y dechreuwyd gwerthfawrogi merched o arlunwyr o'r newydd o safbwynt y mudiad ffeministaidd y daethpwyd i'w hystyried hi yn un o arlunwyr Prydeinig gorau'r ugeinfed ganrif; ac ystyrir hi felly yn yr Amerig hefyd.
Bu farw ar 18 Medi 1939 yn Dieppe lle yr aeth gyda'r bwriad, mae'n debyg, o ddychwelyd i Brydain cyn Rhyfel Byd II. Etifeddwyd ei lluniau gan ei nai Edwin, a oedd yntau'n arlunydd dyfrlliw. Yn 1976 prynodd Amgueddfa Genedlaethol Cymru weddill y casgliad ganddo, yn cynnwys dros fil o'i lluniadau.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.