Ganwyd 27 Mehefin 1906 ym Maesteg, Morgannwg, yn ail blentyn ac unig fab William Watkins, goruchwyliwr banc, brodor o Ffynnon Taf, a'i wraig Sarah (ganwyd Phillips), hi o'r Sarnau yn Sir Gaerfyrddin, y ddau yn Gymry Cymraeg. Symudodd y teulu i Ben-y-bont ar Ogwr ac yna i Lanelli cyn bod y plentyn yn 6 oed, ac ymsefydlu'n derfynol yn Abertawe. Ar ôl blwyddyn yn ysgol ramadeg y dref penderfynwyd ei ddanfon i ysgol baratoi yn Tyttenhanger Lodge, Seaford, swydd Sussex, ac oddi yno i Ysgol Repton, swydd Derby. O'i blentyndod magodd hoffter at feirdd rhamantaidd Lloegr (ni ddysgodd ei rieni ddim Cymraeg iddo) a gwnaeth oes aur arwrol o'i ddeunaw mis olaf yn Repton. Profiad siomedig iddo ef fu ei dderbyn i Goleg Magdalen, Caergrawnt, i astudio Ffrangeg ac Almaeneg. Er iddo fynd yn llwyddiannus drwy ei arholiad, gadawodd y coleg ar ben blwyddyn, wedi alaru ar yr ymagwedd gul academaidd at lenyddiaeth y teimlai ef a fyddai'n angau iddo fel bardd. Awgrymodd, yn ddi-rybudd, i'w dad y dylai gael blwyddyn o deithio yn yr Eidal, ond gan fod costau'r flwyddyn yng Nghaergrawnt wedi trethi adnoddau'r tad, gosododd hwnnw ef yn glerc ieuanc ym Manc Lloyd, Butetown, Caerdydd. Ymhen dwy fl., yn 1927, wedi ei lethu gan yr hiraeth o golli bywyd cyfareddol Repton, a methu dygymod â dylni anllenyddol byd oedolion, chwalwyd ei nerfau, ac uchafbwynt yr anhwlyder hwn oedd ymweliad eto â Repton. Ar ôl chwe mis mewn cartref nyrsio yn Derby, cafodd ei symud i gangen S. Helen (Abertawe) o Fanc Lloyd er mwyn cael byw gartref, i ddechrau yn 'Redcliffe', Bae Caswell ac ar ôl hynny yn 'Heatherslade' ar glogwyni Pennard. Yr oedd yr adferiad ysbrydol i gymryd deuddeng mlynedd, ac fe ddaeth y farddoniaeth a flagurodd wedyn (ar ôl ymweliadau â'r Almaen yn y 1930au cynnar) allan o'r 'gofid' hwn. Yr oedd yn ddilechdidol yn gyflwynedig i 'orchfygu amser', wrth yr hyn y golygai'r bardd, yn gyntaf, nad oedd raid i neb y gallai ei farddoniaeth ei anfarwoli gael ei anghofio, ac, yn ail (fel y datblygodd golygwedd neo-blatonaidd a mwy Cristionogol, yn dilyn ei gilydd, o'i baganiaeth ramantaidd gynharach), fod pawb yn anfarwol am y 'cyfiawnheir' pawb a bod yn rhaid edrych ar yr eiliad bresennol fel microcosm o'r holl eiliadau, gorffennol a dyfodol.
Tyfodd Vernon Watkins i fod yn un, ac efallai yr enwocaf, o ychydig feirdd metaffisegol yr ugeinfed ganrif. Yn ystod ei fywyd bu dan gysgod ei gyfaill gwibiog ddisglair, Dylan Thomas, y cyhoeddodd ei lythyrau yn Letters to Vernon Watkins (1957). Yn unig yn eu cred ym mlaenoriaeth barddoniaeth yr oeddynt yn unfarn. Ond hyd yn oed wedi i Dylan fethu dod i'w briodas yn Llundain yn 1944 (â Gwendoline Mary Davies o Harborne, Birmingham, a oedd yn cydweithio ag ef yn y gwasanaeth Hysbysiaeth), ac yntau i fod yn was priodas iddo, ni fynnai Vernon roi terfyn ar y cyfeillgarwch. Datblygasai ystyfnigrwydd cred (mewn beirdd fel 'da', er enghraifft) a'i gwnâi yn fath o sant anuniongred mewn cyfathrachau personol.
Ei gyfrolau barddoniaeth, heb gyfrif argraffiadau a detholiadau Americanaidd, oedd: Ballad of Mari Lwyd (1941), The lamp and the veil (1945), The lady with the unicorn (1948), The North Sea (cyfieithiadau o Heine) (1951), The death bell (1954), Cypress and acacia (1959), Affinities (1962), a Fidelities (a gyhoeddwyd yn 1968 wedi ei farw). Crynhowyd Uncollected poems (1969) a The breaking of the wave o'r pentwr anferth o ddefnyddiau a adawsai safonau uchel y bardd heb eu cyhoeddi, a gwnaethpwyd dau ddetholiad newydd I that was born in Wales (1976), a Unity of the stream (1978), allan o weithiau argraffedig.
Ar wahân i'r cyfnod o wasanaeth rhyfel (1941-46) yn heddlu'r Awyrlu ac yn y gwasanaeth Hysbysiaeth, treuliodd Vernon Watkins ei holl fywyd o oedran gŵr yng Ngŵyr (ar ôl priodi) yn 'The Garth' ar glogwyni Pennard, 'the oldest cashier', fel yr hoffai ef ei hawlio, yn y gwasanaeth bancio. Derbyniodd lawer gwobr lenyddol, cafodd radd D.Litt. gan Brifysgol Cymru yn 1966, a bu'n ysgolor Gulbenkian yng Ngholeg Abertawe. Bu farw 8 Hydref 1967, wrth chware tennis yn fuan wedi cyrraedd Seattle yn T.U.A., am ei ail dymor (a oedd i fod yn flwyddyn y tro hwn) fel Athro ymweliadol mewn barddoniaeth ym Mhrifysgol Washington. Dadlennodd y Times wrth gofnodi ei farwolaeth fod ei enw ef gyda phump neu chwech arall dan ystyriaeth am swydd Bardd y Brenin.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.