Ganed Daniel Jones ar 7 Rhagfyr 1912 ym Mhenfro, yn ail fab i Jenkyn Davies Jones, rheolwr banc, a'i wraig Margaret Falconer Jones. Symudodd y teulu i Abertawe yn fuan wedyn, ac â'r ddinas honno y cysylltir ei enw yn arbennig. Roedd ei dad yn gyfansoddwr a'i fam yn gantores, a dangosodd Daniel addewid gerddorol yn ifanc. Bu'n ddisgybl yn Ysgol Ramadeg Abertawe, ac yno y daeth i adnabod Dylan Thomas. Bu'r ddau yn gyfeillion agos hyd at farwolaeth Dylan yn 1953; golygodd Jones argraffiad cyflawn o gerddi Thomas, a chofnododd ei atgofion am y bardd yn ei gyfrol My Friend Dylan Thomas (1977). Perthynai'r ddau i gylch diwylliannol yn Abertawe a gynhwysai'r arlunydd Alfred Janes a'r bardd Vernon Watkins. Aeth i Goleg Prifysgol Abertawe a graddio mewn Saesneg yn 1934. Enillodd MA yn 1939 am draethawd ar lenyddiaeth Elisabethaidd a'i pherthynas â cherddoriaeth y cyfnod. Rhwng 1934 ac 1939 bu'n astudio cyfansoddi gyda Harry Farjeon ac arwain gyda Syr Henry Wood yn yr Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain ac ennill Ysgoloriaeth Mendelssohn am ei gyfansoddiadau yn 1935. Teithiodd dipyn yn Ewrop a meistroli nifer o ieithoedd, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel Capten yn y Corfflu Cudd-wybodaeth, bu'n dadgodio negeseuon cryptig yn Bletchley.
Perfformiwyd simffoni gyntaf Daniel Jones yn 1945, ac ystyrir mai hon oedd y simffoni gynharaf o bwys gan gerddor Cymreig. Yn 1950 enillodd Wobr y Gymdeithas Ffilharmonig Frenhinol am ei Prologue i gerddorfa, ac yn 1954 ef a gyfansoddodd y gerddoriaeth i gyd-fynd â'r darllediad clasurol o Under Milk Wood. Ymddiddorodd yn fawr mewn strwythurau a phatrymau cymhleth ym myd natur, ac adlewyrchir hyn yn ei gerddoriaeth, lle y mae'n defnyddio rhithmau ac arwyddion amseriad cymhleth. Ymddiddorodd yng ngherddoriaeth werin sawl gwlad, ond ni wnaeth ddefnydd amlwg o alawon Cymreig yn ei weithiau. Wrth osgoi ffasiynau ei gyfnod fe'i cyfrifid gan rai yn draddodiadol, ond am iddo gadw ei gymeriad ei hun yn ei gyfansoddiadau, llwyddodd i gyfansoddi cerddoriaeth sydd yn gyfoes ac eto'n cyfathrebu'n llwyddiannus â'r gynulleidfa. Cyfansoddodd 12 simffoni ac wyth pedwarawd llinynnol. Lluniwyd ei bedwaredd simffoni (1954) er cof am Dylan Thomas, a chyfansoddodd waith simffonig arbennig, yn ychwanegol at y gyfres o ddeuddeg, er cof am John Fussell (1933-1990), cyfarwyddwr Gŵyl Gerdd Abertawe. Perfformiwyd ei opera The Knife yn Sadler's Wells. Mae ei weithiau corawl yn delynegol ac yn ganadwy: cyfansoddwyd The Country Beyond the Stars, i eiriau Henry Vaughan, yn 1958, ac yn 1977 gosododd gyfres o gerddi William Blake dan y teitl Hear the Voice of the Bard. Derbyniodd nifer o gomisiynau gan y BBC, yr Eisteddfod Genedlaethol a gwyliau cerdd yng Nghymru. Yn 1961 traddododd ddarlith flynyddol y BBC yng Nghymru, Music in Wales, lle y mae'n gosod allan ei syniadau am berthynas celfyddyd â chymeriad cenedl.
Priododd yn 1936 ag Eunice Bedford ac eilwaith yn 1950 ag Irene Goodchild. Cafodd dair merch o'r briodas gyntaf a mab a merch o'r ail. Bu farw yn ei gartref yn Newton ger Abertawe 23 Ebrill 1993. Diogelwyd ei lawysgrifau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dyddiad cyhoeddi: 2014-07-25
Hawlfraint Erthygl: https://creativecommons.org/licenses/by-sa/4.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.