THOMAS, DAVID VAUGHAN (1873 - 1934), cerddor

Enw: David Vaughan Thomas
Dyddiad geni: 1873
Dyddiad marw: 1934
Priod: Morfydd Thomas (née Lewis)
Plentyn: Lewis John Wynford Vaughan-Thomas
Rhiant: Jenkin Thomas
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cerddor
Maes gweithgaredd: Cerddoriaeth
Awduron: Arthur Spencer Vaughan Thomas, Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd 15 Mawrth 1873 yn Ystalyfera, mab Jenkin Thomas. Yn 1911 pan dderbyniwyd ef i Orsedd y Beirdd yn eisteddfod Caerfyrddin y cymerodd Vaughan i'w enw. Bu yn ysgol Watcyn Wyn yn Rhydaman, ac yn ystod 1873-1883 bu'r teulu'n byw yn Ystalyfera, Llantrisant, Maesteg, Llangennech a Dowlais. Symudodd y teulu i Bontarddulais a derbyniodd Vaughan Thomas ei addysg gerddorol gynnar o dan Dr. Joseph Parry, Abertawe. Aeth i Goleg Llanymddyfri ac ennill ysgoloriaeth agored mewn mathemateg yng Ngholeg Exeter, Rhydychen, lle y graddiodd yn y 3ydd dosb. yn 1895, M.A. 1905, B.Mus. 1906, D.Mus. 1911. Ar ôl gadael Rhydychen bu'n athro mathemateg yn yr United Services College, Westward Ho! cyn dychwelyd i Gymru i gychwyn ar ei yrfa gerddorol. Priododd, 1906, â Morfydd Lewis, Pontarddulais, a bu iddynt dri mab; bu'r teulu'n byw yn Abertawe am lawer o flynyddoedd. Aflwyddiannus fu ei gais i'w benodi'n Gyfarwyddwr Cerdd Prifysgol Cymru yn 1919. Yn 1927 dewiswyd ef yn arholydd mewn gwledydd tramor i Trinity College of Music, Llundain; golygodd hynny iddo drafaelio llawer yng ngwledydd yr Ymerodraeth Brydeinig, etc. Bu farw yn Johannesburg, De Affrica, 15 Medi 1934.

Ymhlith ei brif weithiau y mae ‘Llyn y Fan,’ a berfformiwyd gyntaf yn yr eisteddfod genedlaethol, Abertawe, 1907, ac wedyn yn Wrecsam yn 1912; ‘A Song for St. Cecilia's Day’ (Queen's Hall, Llundain, 1909); a ‘The Bard’ (Queen's Hall, Llundain, 1912). Ysgrifennodd nifer fawr o anthemau, caneuon, a rhanganau, i eiriau Cymraeg a Saesneg; gadawodd hefyd ar ei ôl lawer o gerddoriaeth offerynnol, y rhan fwyaf ohono heb ei gyhoeddi eto.

Fel cyfansoddwr cofir am Vaughan Thomas oblegid y gwreiddioldeb a'r ysgolheictod a welir yn ei osodiadau o farddoniaeth Gymraeg, yn enwedig yn ei ‘Saith o Ganeuon.’ Er nad ydynt mor adnabyddus, y mae ei osodiadau o ganeuon Saesneg George Meredith yr un mor nodedig am eu prydferthwch telynegol. Yr oedd Vaughan Thomas yn arloeswr yn y mudiad i arwain cerddoriaeth Cymru ymlaen o goralaeth gyfyngedig i ymarferiad mwy sensitif ac i ymhoffi mewn ffurfiau cerddorol eraill. Yn ei ddarlithiau a'i ddatganiadau cerddorol, ac yn ei waith yn awgrymu a chynllunio programau ar gyfer yr eisteddfod genedlaethol, rhoes arweiniad gref i gyfeiriad safonau newydd.

Trwythir cerddoriaeth Vaughan Thomas gan frwdfrydedd ei hoffter o elfennau cynhenid y diwylliant cenedlaethol, a'u mynegiant arbennig mewn cerddoriaeth.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/