WILLIAMS, WATKIN HEZEKIAH ('Watcyn Wyn'; 1844 - 1905), athro, bardd, a phregethwr

Enw: Watkin Hezekiah Williams
Ffugenw: Watcyn Wyn
Dyddiad geni: 1844
Dyddiad marw: 1905
Priod: Anne Williams (née Davies)
Priod: Mary Williams (née Jones)
Rhiant: Ann Williams (née Williams)
Rhiant: Hezekiah Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro, bardd, a phregethwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Brinley Rees

Mab Hezeciah Williams, a ffermiai Cwmgarw Ganol ger Brynaman wrth odre'r Mynydd Du, ac Ann, merch David Williams, y Ddôl-gam, Cwmllynfell. Yng Nghwmgarw y magwyd ef er mai yn y Ddôlgam y cafodd ei eni (ar 7 Mawrth 1844). Cawsai ychydig fisoedd o ysgol cyn iddo ddechrau gweithio dan y ddaear yn 8 oed. Bu dan ysgolfeistri lleol am ryw fis yn awr ac yn y man ar ôl hynny a dysgodd lawer gan ei gydweithwyr yn y pwll glo. Dechreuodd gystadlu mewn eisteddfodau yn ifanc. Dysgodd y cynganeddion yng nghwmni 'Gwydderig' (Richard Williams, 1842 - 1917, a beirdd eraill y fro a daeth i adnabod 'Dafydd Morgannwg,' 'Llew Llwyfo,' ac eraill pan fu'n gweithio yng Nghwm Dâr. Yn 1870 priododd â Mary Jones, o'r Trap ger Llandeilo, ond bu hi farw cyn pen blwyddyn gan adael plentyn ar ei hôl. Ddechrau 1872, gadawodd Watcyn ei waith a mynd i ysgol perthynas iddo, sef Evan Williams, Merthyr Tydfil; daeth yn athro cynorthwyol yn yr ysgol honno. Yn 1874 dechreuodd bregethu gyda'r Annibynwyr. Bu mewn ysgol ragbaratoawl ac yna cafodd bedair blynedd yng Ngholeg Caerfyrddin. Yn 1879 priododd ag Anne Davies, merch o Gaerfyrddin, a'r flwyddyn wedyn, ar ôl bod am ysbaid yn athro mewn ysgol yn Llangadog, agorodd ef a chyd-athro iddo ysgol newydd, yr 'Hope Academy,' yn Rhydaman; ar ôl i'w gydweithiwr ymadael yn 1884 bu gofal yr ysgol yn gyfan gwbl arno ef (a'i gynorthwywyr) hyd ei farw. Cododd dŷ newydd iddo'i hun yn 1888 a daeth ' Ysgol y Gwynfryn ' yn enwog drwy'r wlad. Cafodd amryw a ddaeth yn bur enwog fel beirdd a phregethwyr eu haddysg ynddi, ac âi tuag 20 o'r disgyblion i'r gwahanol golegau a galwedigaethau bob blwyddyn.

Yr oedd Watcyn ei hun yn fardd enwog yn ei ddydd. Enillodd ar awdl a phryddest yn rhai o brif eisteddfodau'r cyfnod 1881-93, a chanodd lawer o gerddi byrrach o dro i dro, rhai difrif a rhai digrif, ac yn enwedig gerddi i'w canu. Y mae rhai o'i emynau, megis ' Rwy'n gweld o bell y dydd yn dod,' yn para'n boblogaidd hyd heddiw. Cyhoeddwyd amryw lyfrau o'i farddoniaeth, yn eu plith Caneuon Watcyn Wyn , [1871], Hwyr Ddifyrion, 1883, Cân a Thelyn [1895], Storiau Cymru, Caneuon y Safonau, Job (chwaraegerdd), 1874; hefyd lyfryn ar lenyddiaeth Gymreig, 1900, byr-gofiant i T. Penry Evans, 1890, a'r cyfieithiad Odlau'r Efengyl : sef hymnau diweddaraf Moody a Sankey 1882. Sgrifennwyd dwy nofel, Irfon Meredydd, 1903, a Nansi, 1906, gan Elwyn Thomas ac yntau. Brithir cyfnodolion y cyfnod â cherddi ac erthyglau o'i waith a bu'n gyd-olygydd Y Diwygiwr o 1890 ymlaen. Wedi ei farw cyhoeddwyd cyfrol o'i atgofion. Sgrifennai Gymraeg naturiol a dirodres ond nid ymboenai i berffeithio'i arddull. Yr oedd yn adnabyddus fel pregethwr a darlithiwr; cawsai ei ordeinio yn 1894. Bregus fu ei iechyd ar hyd y blynyddoedd. Bu farw 19 Tachwedd 1905 a chladdwyd ef ym mynwent Gellimanwydd, Rhydaman. Codwyd cofgolofn iddo gan ei ddisgyblion yng nghapel y Gwynfryn, a sgrifennwyd cofiant iddo gan Pennar Griffiths. Nid oedd 'Watcyn Wyn' yn fardd gwych nac yn bregethwr huawdl nac yn ŵr dysgedig iawn, ond gwnaeth ei ffraethineb diball, ei synnwyr cyffredin di-lol, a'i naturioldeb diddan y gwerinwr hynod hwn yn anwylddyn gan ei genedl.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.