GRIFFITHS, GRIFFITH PENNAR (1860 - 1918), gweinidog Annibynnol

Enw: Griffith Pennar Griffiths
Dyddiad geni: 1860
Dyddiad marw: 1918
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd yn Aberdâr, Morgannwg. Cylchoedd ei addysg gynnar oedd yr ysgol Sul, y cyrddau llenyddol, a'r eisteddfodau. Aeth i'r gwaith glo yn ifanc, gan ymroddi'n ddiarbed yn ei oriau hamdden i'w ddiwyllio ei hun, yn arbennig drwy farddoni a llenydda.

Dechreuodd bregethu yn Ebenezer, Trecynon, Aberdâr, yn 1881. Aeth i ysgol yr Hen Dŷ Cwrdd, Trecynon (o dan Rees Jenkin Jones), gan fwriadu mynd i un o golegau'r enwad, eithr ymyrrodd amgylchiadau â'i drefniant. Ordeiniwyd ef ym Merthyr Vale, Morgannwg, 1884. Symudodd i Bentre Esyllt, ger Abertawe, yn 1887, ac yno y treuliodd weddill ei oes. Enillodd safle fel pregethwr huawdl yn gynnar; yr oedd ganddo lais clochaidd a pharabl rhydd. Yr oedd yn yr olyniaeth areithyddol fel pregethwr.

Am rai blynyddoedd barddonai lawer ond llenyddai fwy. Ei brif weithiau yw Cofiant Watcyn Wyn, Hanes y Cenhadon Cymreig, a llawlyfrau ar Yr Actau a Blodau Cudd ar gyfer ysgolion Sul yr Annibynwyr. Beirniadai ac arweiniai mewn eisteddfodau yn aml; yr oedd yn fawr ei feistrolaeth ar gynulleidfa.

Bu farw 29 Rhagfyr 1918 a chladdwyd ef ym mynwent y Mynydd-bach.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.