Ganwyd 17 Medi 1835, mab hynaf John Jones (1802 - 1863), Aberdâr. O du ei fam hanoedd o Jones iaid Llwynrhys, arloeswyr Anghydffurfiaeth yng Ngheredigion. Addysgwyd yn ysgol ei dad, Coleg Presbyteraidd Caerfyrddin (1855-9), Prifysgol Glasgow (1859-62); graddiodd yn M.A., 1863. Cymerth le ei dad (bu farw 19 Rhagfyr 1863) yn yr ysgol a'r pulpud, ac yn Ionawr 1864 derbyniodd alwad unfrydol yr eglwys. Bu'n weinidog o 1864 hyd 1872, pryd yr ymddiswyddodd oherwydd diffyg iechyd, ond ni bu'n segur. Bu'n golygu Yr Ymofynydd o 1873 hyd 1879, yn aelod o'r bwrdd ysgol (1874), yn athro yn y clasuron (ac yn gweithredu fel prifathro) yn y Coleg Presbyteraidd, Caerfyrddin (1876). Yn ei ddosbarth yr oedd ' Watcyn Wyn ' ac E. Griffith Jones. Yn 1879 ailgydiodd yn ei hen ddyletswyddau ym mhulpud yr Hen Dŷ Cwrdd a'r Trecynon Seminary (yn iaith y werin ' Ysgol Jones'). Ymhlith ei fyfyrwyr bu (Syr) T. Marchant Williams, Pennar Griffiths, a T. Botting. Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1909. Priododd Anne (bu farw 7 Mawrth 1899), merch Evan Griffith, The Poplars, Aberdâr, a bu iddynt bump o blant. Golygodd Yr Ymofynydd (yr ail waith) o 1881 hyd 1887. Cyhoeddodd Emynau Mawl a Gweddi, 1878, Emynau ac Odlau, 1895 (y rhan fwyaf yn gyfieithiadau o'i eiddo), Unitarian Students, 1796-1901, 1901, ysgrif yn Encyclopaedia of Education ar ' Davis Castell Hywel and his school,' ysgrifau yn D.N.B., a mwy nag 20 o draethodau ar destunau diwinyddol. Ysgrifennai yn gyson i'r Wasg, yn bennaf ar faterion hanesyddol; gweler Yr Ymofynydd, Y Geninen, Cymru (O.M.E.), Cyfaill yr Aelwyd , Unitarian Transactions, gwasg leol Aberdâr a'r cylch. Dynodir ei gynhyrchion gan amlaf gan R.J.J., S.N.S., T.C.U. Gadawodd ei lawysgrifau i Lyfrgell Caerdydd a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Bu farw 15 Hydref 1924.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.