Dyma deulu a gysylltir yn agos ag Anghydffurfiaeth gynnar yng nghanol Sir Aberteifi. Tŷ hir, gyda'i nenbrenni yn cyrraedd o'r llawr hyd y to, a adeiladwyd yn y 15fed ganrif, oedd Llwynrhys, ym mhlwyf Llanbadarn Odwyn ( Peate , Welsh House, 78-9). Trwyddedwyd y tŷ, fel eiddo JOHN JONES, i Forgan Howell bregethu ynddo, 28 Hydref 1672 (Richards, Wales under the Indulgence, 156); a thua'r un adeg ychwanegwyd darn croes at y tŷ i fod yn dŷ cwrdd, meddir. Parhaodd pregethu yno hyd 19 Hydref 1735. Syrthiodd y tŷ yn furddyn tua 1918. Olrheiniai JOHN JONES (1640? - 1722) ei achau, ar ochr ei dad, John ab Ieuan Lloyd, o deulu Clement, arglwyddi Caron, ac ar ochr ei fam, Angharad ferch Ieuan ap Tomas, o Rydderch Glyn Aeron (Llyfr Golden Grove, copi Castell Gorfod yn Ll.G.C., xiv, L1671). Yr oedd ei frawd JENKIN JONES, Coed Mawr, Llanddewibrefi (claddwyd yn Aberteifi, 1705), yn ffigur amlwg yn yr ardal, ac y mae ei lofnod hynod yn aros ar lu o ddogfennau lleol dros gyfnod o fwy na 40 mlynedd. Gall mai brawd arall ydoedd y DAVID JONES a gafodd drwydded i bregethu yn ei dŷ ei hun yn Llanddewibrefi yn 1672 (Richards, op. and loc. cit.). Disgrifia Henry Maurice, yn ei lythyr at Edward Terrill yn 1675, John Jones fel henuriad etholedig yn Llanbadarn Odwyn (Broadmead Records, 512). Yn Llyfr y Cilgwyn (dyfyniadau W. D. Jeremy) yr oedd ei enw fel henuriad llywodraethol ('presb. gub.') yn yr eglwys aml-ganghennog honno rhwng 1692 a 1698. Yn arolwg yr ' Happy Union,' 1690-2, dywedir amdano ef a Morgan Howell eu bod yn ' Ancient usefull men yt assist in ye work of the Gospell in Cardiganshire ' (Gordon, Freedom after Ejection, 146). Bu farw yn 82 mlwydd oed yn 1722, a chladdwyd ef ym mynwent Llanbadarn Odwyn. Tua 1660 priododd Margaret, chwaer, yn ôl pob tebyg, i David Edwards (bu farw 1716), un o weinidogion y Cilgwyn. Bu hi farw 23 Mai 1700, yn 40 mlwydd ei phriodas a 69 mlynedd ei hoedran (beddfaen yn bost llidiart mynwent Llanbadarn Odwyn). Dywedir fod iddynt 12 plentyn. Enwir wyth yn ewyllys John Jones (2 Mawrth 1721): David, yr hynaf; SAMUEL, i'r hwn y syrthiodd prydles Llwynrhys ar ôl dydd ei dad; Jenkin; EVAN; GWEN, gwraig Morgan Pugh, brawd ieuengaf Phylip Pugh, hynaf, y mae'n debyg; SARAH, gweddw; ELISABETH; ac ANNE, gwraig Benjamin Edwards. Buasai mab arall, JOHN, a oedd yn llawfeddyg yn yr ardal, farw o flaen ei dad yn 1714.
Yn nhraddodiadau'r teulu yr oedd ef yn gapten yng nghatrawd gyntaf y meirchfilwyr brenhinol yn fuan ar ôl ei sefydlu, yn gyfaill Iago II a William III, gyda'r hwn y buasai'n ymladd ym mrwydr Boyne. Llwyddodd yn rhyfeddol i gadw'i enw allan o'r cofnodion swyddogol. Adroddir hefyd iddo, drwy ei ddylanwad yn y llys, sicrhau trwydded arbennig i'w dad gael pregethu yn ei dŷ ei hun. Atsain sydd yma o drwydded 1672, pryd na allai ef fod yn fwy na 12 oed. Yn ôl y geiriaduron bywgraffyddol cafodd ei addysg mewn ysgol a gynhelid gan ei frawd hŷn, Samuel, yn Richmond, ger Llundain. Gwyddom mai ef oedd cyntafanedig ei dad, ond fod ganddo frawd, nid Samuel, yn Llundain yn 1714, Evan efallai. Dengys rhai o'r tablau achau, drwy briodoli i Samuel wraig o'r enw Weaver, mai cymysgu a wnaethant rhyngddo ef a Samuel Jones, ysgolfeistr o fri a gynhaliai ysgol yng Nghaerloyw a Tewkesbury. Ceir yr unig gyfeiriad cyfoes, y gwyddys amdano, at David Jones gan y llyfrwerthwr John Dunton (Life and Errors, i, 181). Dywed hwnnw iddo fwriadu myned i'r weinidogaeth ond iddo droi i gadw ysgol ac yna'n awdur a cheryddwr gwasg. Mynn y D.N.B. iddo fyned i Ffrainc yn 1675, a chael swydd fel ysgrifennydd-ddehonglydd i'r marcwes Louvois. Camddarllen dalen deitl a rhagair The Secret History of White Hall gan David Jones sy'n cyfrif am y gosodiad. Yr hyn a ddywed ef ei hun yw fod awdur y llythyrau y cymerai ef arno ei fod yn gosod trefn arnynt a'u cyhoeddi - rhyw fath o weithredydd cudd a gyflogid gan un o'r arglwyddi Seisnig - wedi myned i Ffrainc yn y flwyddyn honno a chael swydd fel cyfieithydd Saesneg i Belou, clerc gohebol Louvois. Ni ellir pwyso'n drwm ar ddilysrwydd y llythyrau hyn, ac yn sicr ni ddylid dadlau oddi arnynt i David Jones fyned i Ffrainc mor gynnar â 1675. Y mae ei wybodaeth o'r Ffrangeg yn awgrymu iddo fod yn Ffrainc. Cyhoeddodd James Crossley (Notes and Queries, 3ydd gyfres, x, 349) linellau cyfoes dienw ar 'ddau hanesydd Tyrcaidd ' sydd yn awgrymu ei bod yn wybyddus mai llenor cyflog dros lyfrwerthwyr oedd David Jones. Dywedai Dunton ei fod yn ysgrifennwr da, yn onest ac o natur hynaws, ac mai efe a gyflwynodd Roger Coke, ŵyr Syr Edward Coke, iddo ef. Trigai yn Clerkenwell yn 1696. Nid yw'n hawdd rhoi rhestr gyflawn o'i weithiau, am iddo ysgrifennu'n ddienw ar brydiau, ond gellir casglu'r cynnyrch a ganlyn o'i weithgarwch rhwng 1697 a 1720. (1) The Secret History of White-Hall from the Restoration to the Abdication of … King James, 1697. (2) A Continuation of the Secret History … to 1696 … together with the Tragical History of the Stuarts, 1697, a 1717 (sylwer fod D. J. yn gwahaniaethu rhwng y Secret History a'r Tragical History ac yn arddel yr ail fel ei waith ei hun). (3) The Wars and Causes of them between England and France … with a Treatise of the Salique Law by D.J. and revised by R.C., 1698 (adargraffwyd yn Harl. Misc., i, 297, arg. 1808), lle y dyddir yn 1697. Rhydd S.T.C. (Wing) A Theatre of War between England and France, 1698 (? yr un gwaith). (4) A Compleat History of Europe … from … 1676 … to 1697, 1698 (ail arg., 1699). (5) A Compleat History of the Turks from … 705 to 1701 … with a Life of Mahomet (cyflwynedig i John, arglwydd Cutts), 2 gyf., 1701. (6) A Compleat History of Europe, 1702. (7) The Life of James II, 1702. (8) The Life of William III, 1703 (3ydd arg., 1705). (9) A Compleat History of Europe … from 1600, 18 cyf., 1705-20 (cyf. vi yn adargraffiad o rif 4 uchod; llythyr cyflwyn gan D. J. yng nghyf. xvi). (10) Cyfieithiad o waith P. Paul-Yves Pezron (Antiquité de la nation et de la langue des Celtes, 1703), dan y teitl Antiquities of Nations (cyflwynedig i Charles, arglwydd Halifax), 1706. (11) The History of the … House of Brunswick-Lunenburgh, 1715 (ail arg., 1716). Cyhoeddodd hefyd yn 1699 Letters written by Sir William Temple during his being Ambassador at the Hague, a golygodd argraffiad Ffrangeg a gyhoeddwyd yn yr Haag, 1700. Yn ei ragair i'r Tragical History dywed iddo ddiwygio A Detection of the Court and State of England Roger Coke. Efallai iddo ddechrau gydag ail arg. 1696, gan fod Coke wedi marw pan ysgrifennai ef y rhagair yn 1697, ac y mae'n fwy na thebyg mai D. J. a olygodd y 4ydd arg. yn 1719, a'i ymestyn i farwolaeth y frenhines Ann. Ar awdurdod James Crossley, priodola ' Gwynionydd ' fywgraffiadau Syr Stephen Fox, y Dr. South, yr arglwydd Halifax, a'r Dr. Redcliff iddo. Ymddengys i'w lafur llenyddol beidio yn 1720, ac nid yw'n debyg iddo fyw yn hir wedi marw'i dad.
Ordeiniwyd ef yn un o gyd- weinidogion eglwys y Cilgwyn yn 1709. Preswyliai yn y Glyn ger Llangeitho. Ychydig o'i hanes a gadwyd. Gadawodd ei ewythr a'i gyd- weinidog, David Edwards, lyfrau iddo yn ei ewyllys, 1716, a'r flwyddyn wedyn ceir ei enw fel ymddiriedolwr cytundeb priodas ei gefnder, Peter Edwards, â Diana ferch David Thomas, Llanrhian. Bu farw 1725 (profwyd ei ewyllys 20 Gorffennaf). Gadawodd ei holl lyfrau Groeg a Lladin i'w nai Timothy Davies. O'i wraig, Mary (bu farw ar y ffordd ger eglwys Cellan ar daith i weld ei merch Mary yn ei chartref newydd ym Mlaenau Cellan, 21 Gorffennaf 1740), bu iddo bum merch - ELIZABETH, MAGDALEN, MARY, SARAH, a RACHEL. Priododd Magdalen (bu farw 20 Mawrth 1755, yn 36 oed) Peter Davies, Caerllugest a'r Glyn (bu farw 30 Awst 1766, yn 41 oed, yng Nghefn y Bedd ar ei ffordd adref o'r cynhaeaf yn sir Henffordd). Efe a roes y tir i godi capel Llangeitho arno at wasanaeth Daniel Rowland, a oedd yn briod ag Eleanor ei chwaer. Priododd Mary yn Llangeitho, 19 Mehefin 1740, ei chefnder Timothy Davies, un o fugeiliaid diadell y Cilgwyn; a Sarah, 1747, David Jones, Derry Ormond, siryf Ceredigion, 1773.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.