GODWIN, JUDITH (bu farw 1746), un o ohebwyr Howel Harris

Enw: Judith Godwin
Dyddiad marw: 1746
Priod: Edward Godwin
Priod: Samuel Jones
Plentyn: John Godwin
Plentyn: Edward Godwin
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: un o ohebwyr Howel Harris
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ei henw morwynol oedd Weaver; dywedir yn fynych, ond yn anghywir, ei bod hi'n ferch i John Weaver (a fu farw 1712), gweinidog Piwritanaidd ym Maesyfed Newydd ac wedyn yn nhref Henffordd; eto y mae pob tebygrwydd ei bod hi o'r un teulu ac iddi gael ei geni yn sir Faesyfed. Priododd ddwywaith: yn gyntaf, â Samuel Jones (1680? - 1719) o Tewkesbury, ac yn ail (1721) ag Edward Godwin (1680? - 1764), gweinidog Annibynnol blaenllaw yn Llundain. O'r ail briodas, cafodd ddau fab: Edward (1722 - 1748/9), cynghorwr gyda'r Methodistiaid Whitefieldaidd, a John (1723 - 1772), gweinidog Annibynnol yn nwyrain Lloegr, a ddaeth yn dad i'r llenor William Godwin ac felly'n daid i'r nofelydd Mary Wollstonecraft Shelley. Yr oedd Judith Godwin yn troi ym myd yr Ymneilltuaeth led-Fethodistaidd a ffynnai yng Nghymru yn ei chyfnod, ac yn gyfaill i Vavasor Griffiths a Lewis Rees; yr oedd hefyd yn gyfaill agos, er yn fore, i Howel Harris a'i holl deulu. Gohebodd lawer â Harris - y mae gennym bron ddeugain o lythyrau a basiodd rhyngddynt. 'Pietistaidd' oedd naws Judith Godwin, a chanddi ragfarnau cryfion yn erbyn John a Charles Wesley. Bu farw yn Watford, Hertfordshire, 25 Ionawr 1746.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.