Daethai ei dad o Langadog, Sir Gaerfyrddin, i Dalgarth, sir Frycheiniog, c. 1700. 'Howell Powell, alias Harris' y gelwir ef yng nghofrestr Talgarth, a phriododd â Susanna Powell, Trefeca-fach, yn 1702. Eu cyntafanedig oedd Joseph Harris ac enwogodd eu mab Thomas yntau ei hun; ganwyd Howel, eu mab ieuangaf, 23 Ionawr 1714. Addysgwyd Howel yn Llwyn-llwyd, a bu'n ysgolfeistr yn Llangors a Llangasty yn y blynyddoedd 1732-5. Cafodd argraffiadau dwys yn 1735 dan weinidogaeth Pryce Davies, ficer Talgarth, a dechreuodd efengylu o gwmpas ei gartref. Ymaelododd yn S. Mary's Hall, Rhydychen, ond cefnodd ar y brifysgol cyn pen wythnos. Ymgeisiodd am urddau eglwysig yn 1736, ond gwrthodwyd ef oblegid ei fod yn pregethu 'n afreolaidd. (Digwyddodd hynny fwy nag unwaith yn ddiweddarach am yr un rheswm.) Ymgynghorodd â Griffith Jones, a phwyswyd arno i ymdawelu ond nis mynnai. Daeth i gyswllt â Daniel Rowland yn 1737, a dechreuasant gydweithio. Ymhlith ei ddychweledigion cyntaf yr oedd Howell Davies a William Williams, Pantycelyn. Ymunodd y gwyr hyn â'i gilydd mewn sasiwn yn 1742, a bu cyfathrach rhyngddynt a'r mudiad Methodistaidd cyffelyb yn Lloegr. Cymerth y diwygwyr Cymreig blaid George Whitefield yn y ddadl Galfinaidd, ond cyfeillachai Harris yn gyson â'r ddau Wesley gan geisio undeb. Yn 1744 priododd Anne Williams, merch John Williams, yswain, o'r Ysgrin. Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn pregethu yng Nghymru a Lloegr a sefydlu seiadau fel y cerddai. Daeth o dan gyfaredd y Morafiaid a dechreuodd goleddu athrawiaeth Batripasaidd er mawr ofid i'w gyfeillion. Heblaw hynny, dylanwadwyd arno gan wraig gyfoethog o ' broffwydes ' (chwedl yntau) - Mrs. Sidney Griffith o Gefn Amwlch, Sir Gaernarfon. Aeth yn rhwyg rhyngddo a'i frodyr yn 1750, ac ymrannodd y Methodistiaid Cymreig yn ddwy blaid, sef pobl Rowland a phobl Harris. Llesteiriodd hynny lwyddiant y diwygiad crefyddol mewn llawer ardal.
Ymneilltuodd Harris i Drefeca yn 1752, a sefydlodd 'Deulu' yno o blith ei ganlynwyr; cafodd gynorthwywyr glew ym mhersonau Evan Moses a Thomas William, Eglwys Ilan. Adeiladwyd yn helaeth yn Nhrefeca ar gyfer y 'Teulu,' a threfnwyd crefftau a galwedigaethau amrywiol er cynnal yr aelodau. Ymddiddorodd mewn amaethyddiaeth, a bu'n un o sefydlwyr Cymdeithas Amaethyddol Brycheiniog - yr hynaf o'i bath yng Nghymru. Y dyddiau hynny ofnid ymosodiad gan y Ffrancwyr ar y wlad: ffurfiodd Harris gatrawd o filwyr o blith aelodau'r 'Teulu' a bu'n gapten arni. Teithiodd gydag adran o'r milisia am dymor, ond rhoes ei gomisiwn i fyny pan giliodd y perygl. Ymunodd â'i hen gyfeillion yn 1762, ac ailafael yn y gwaith o fynychu'r sasiynau, ymweld â'r seiadau, a phregethu megis cynt. Nid oedd ganddo'r un ynni â chynt, a theimlai wrthwynebiad cryf yn ei erbyn ymhlith y cynghorwyr di-urddau. Ni fynnai'r rheini mo'u llywodraethu ganddo. Gwrthwynebai yntau'r duedd i ymwahanu oddi wrth Eglwys Loegr, codi capeli, a gorseddu'r sasiwn yn llys llywodraethol. Rhoes ei gefnogaeth, serch hynny, i'r Arglwyddes Huntingdon, a gododd athrofa i addysgu pregethwyr efengylaidd yn Nhrefeca-isaf yn 1768. Dechreuodd glafychu yn 1772, bu farw 21 Gorffennaf 1773, a chladdwyd ei gorff ger yr allor yn eglwys Talgarth.
Nid oedd yn gymaint llenor ag eraill o'r diwygwyr Methodistaidd, ond canodd rai emynau. Ceir y rheini yn llyfrynnau'r cyfnod, megis Llyfr o Hymneu o Waith Amryw Awdwyr, 1740, a Sail, Dibenion, a Rheolau'r Societies, 1742. Cyhoeddodd gwasg Trefeca ychydig ohonynt yn Ychydig Lythyrau… Ynghyd â Hymnau yn 1782. O'r un wasg ymddangosodd Cennadwri a Thystiolaeth Ddiweddaf Howell Harris yn 1774 (arg. Saesneg yr un flwyddyn). Gadawodd nifer o ddyddiaduron ar ei ôl sy'n cynnwys cyfrif manwl o'i brofiadau, hanes ei deithiau a'i bregethu am gyfnod helaeth. O'r dyddiaduron hyn y cafodd y 'Teulu' ddefnyddiau'r hunangofiant a gyhoeddwyd yn 1791 (arg. Cymraeg, Hanes Ferr, etc., 1792). Cyhoeddwyd llawer o gynnwys y dyddiaduron o bryd i'w gilydd eithr y mae mwy ar ôl heb ei gyhoeddi. Ei bregethu oedd ei gyfraniad pennaf i'w genedl. Bu'n gyfrwng i ddeffro'r werin Gymreig o'i chysgadrwydd a pheri iddi ddyfod o hyd i'w chyneddfau ysbrydol. Yr oedd yn un o lunwyr Cymru fodern. Er gwaethaf ei dymer afrywiog a'i ewyllys unbenaethol yr oedd ei ynni diorffwys a'i awydd angerddol am achub eneidiau yn cario popeth o'i flaen ym mlynyddoedd cynnar y deffroad crefyddol. Y mae ei ddylanwad ar fywyd y genedl yn braw mai ef oedd grym ysbrydol mwyaf ei oes, a chred llawer mai ef oedd Cymro pennaf ei gyfnod.
Bedyddiwyd plentyn cyntaf Harris, ANNE, ar 14 Rhagfyr 1746, ond claddwyd ar 7 Ionawr 1748/9. Bedyddiwyd y plentyn arall, ELIZABETH HARRIS (PRICHARD wedyn) ar 18 Rhagfyr 1748. Daw bron y cwbl a wyddom amdani o gyfeiriadau ati mewn cofnodion Morafaidd gan Lorenz Nyberg a Benjamin La Trobe, cyfeillion ei thad (argraffwyd yn y Llenor, xiv, 243; Trafodion Cymdeithas Hanes Bedyddwyr Cymru, 1935, 14, 23-4; a'r drydedd bennod yn Er Clod, 1935), ac yn nyddlyfrau Thomas Roberts o Drefeca (yn Ll.G.C.). Merch dda ei chalon, gellid meddwl, a byrbwyll, a deimlai'n gynyddol annifyr yn rhigolau Trefeca wedi marw ei thad. Ar 10 Mai 1782 priodwyd hi, yn Nhalgarth, â Charles Prichard, meddyg o Aberhonddu; argraffwyd y cofnod gan M. H. Jones yn Cylchgrawn Cymdeithas Hanes y Methodistiaid Calfinaidd, ix; y tystion oedd ei chefnder Samuel Hughes (gweler dan Harris, Joseph) a'i chyfnither Elizabeth Robinson (gweler Harris, Thomas). Un o hen deulu Pabyddol y Graig yng Ngwent oedd Prichard (Theophilus Jones, History of the County of Brecknock, 3ydd arg., iii, 30), a gwr gweddw â chanddo dri (pedwar, medd rhai) o blant; bu farw 10 Tachwedd 1804, yn 73 oed. Cafodd ef ac Elizabeth bump o blant (History of the County of Brecknock). Bu Elizabeth farw 8 Chwefror 1826, a'i chladdu ym mhriordy Aberhonddu; y mae copi o garreg ei bedd yn History of the County of Brecknock, ii, 103.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.