Bernir mai brodor o sir Fynwy ydoedd, ond gwyddys fod ewythr iddo yn byw yn Llanspyddid, sir Frycheiniog. Daw i'r golwg gyntaf fel ysgolfeistr yn Nhalgarth yn 1737, a chafodd dröedigaeth dan weinidogaeth Howel Harris. Aeth i Landdowror ar gyngor Harris i'w addysgu gan Gruffydd Jones. Ordeiniwyd ef yn ddiacon yn 1739 ac yn offeiriad yn 1740. Bu'n gurad dan Gruffydd Jones yn Llandeilo Abercywyn, ond symudodd i Lys-y-frân, Sir Benfro, yn 1741, a gwasanaethodd fel curad yno am dymor byr. Priododd Catherine Poyer, aeres gyfoethog, yn 1744, ac aeth i fyw i'r Parke, ger y Tŷ-gwyn-ar-Daf. Ar farwolaeth ei wraig priododd Elizabeth White, a chadwai dŷ ym Mhrendergast, ei chartref. Daeth Margaret, ei unig ferch, yn wraig i Nathaniel Rowland, mab y diwygiwr. Bu farw 13 Ionawr 1770, yn 53 mlwydd oed, â'i gladdu ym Mhrendergast. Cyfathrachodd a'r Methodistiaid o 1737 hyd ei farw, a mynychai eu sasiynau. Teithiodd dros Gymru i bregethu, ond fe'i cyfyngodd ei hun yn ei flynyddoedd olaf i Sir Benfro. Gwnaeth ddefnydd o gapeli anwes adfeiliedig y sir, ac iddo ef y codwyd capel Woodstock yn 1755 a'r Capel Newydd yn 1763. Yr oedd yn efengylydd melys, a chyhoeddwyd un o'i bregethau yn 1762 o wasg Rhys Thomas, Caerfyrddin, dan y teitl Llais, y Durtur, etc., ac un arall yn 1768, Llais y Priodfab, etc., o'r un wasg. Nid heb achos y gelwir ef yn 'Apostol sir Benfro.'
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.