Argraffydd yng Nghaerfyrddin, Llanymddyfri, a'r Bont-faen. Haedda Rhys Thomas ei grybwyll yn y gwaith hwn am ei fod ymysg goreuon argraffwyr Cymru yn y 18fed ganrif ac oblegid cysylltiad ei wasg (yn y Bont-faen) â geiriadur Saesneg-Cymraeg adnabyddus John Walters. Ceir ef yn argraffu yng Nghaerfyrddin yn 1760; e.e. Cascljad o Hymnau (Morgan Rhys) a Golwg y Ffyddlonjaid or Degwch a Gogoniant Jesu Grist (Dafydd Wiliam, Llandeilo Fach). Bu'n cydweithio â John Ross am gyfnod yn 1763. O 1764 hyd 1771 yr oedd ganddo wasg yn Llanymddyfri, â'i frawd DANIEL THOMAS yn ei gynorthwyo yn y lle hwnnw. (Ymddengys i Daniel Thomas barhau i argraffu hyd 1773; sylwer, fodd bynnag, fod ei enw ef ac enw ei frawd Rhys yn cael eu rhoddi fel argraffwyr Dissertation on the Welsh Language, gwaith John Walters, a argraffwyd yn y Bont-faen yn 1771).
Yn niwedd 1769 neu ddechrau 1770 sefydlodd Rhys Thomas wasg yn y Bont-faen. Awgrymwyd mai John Walters, Llandochau, a'i hanogodd i ddyfod i'r Bont-faen, sydd yn agos at Landochau. Pa fodd bynnag am hynny, yr oedd y cysylltiad â John Walters ac â'i eiriadur i barhau am lawer blwyddyn. Gyrfa drafferthus a gafodd y geiriadur ar ei daith trwy wasg Rhys Thomas. Argreffid ef yn rhannau; daeth y rhan gyntaf allan yn 1770 a'r bedwaredd rhan ar ddeg yn 1783 - a'r geiriadurwr, druan, yn gorfod bod yn amyneddgar. Fel y gwelir yn llyfr Ifano Jones (Hist. of Printing and Printers in Wales) bu raid i Owen Jones ('Owain Myfyr') drefnu i gael gorffen yr argraffu - yn Llundain, yn 1794.
Bu Rhys Thomas farw yn 1790, ac fe'i claddwyd ym mynwent eglwys Llandochau ar 11 Gorffennaf. Fe'i dilynwyd ef fel argraffydd yn y Bont-faen gan HENRY WALTERS (1766 - 1829), trydydd mab y geiriadurwr. Ychydig a argraffodd ef, oblegid ar 6 Chwefror 1791 prynwyd y wasg a'r teip gan JOHN BIRD (bu farw 1840), Caerdydd. Bu eraill o'r enw Bird yn y busnes argraffu yng Nghaerdydd, e.e. yr Hugh Bird a drosglwyddodd ei fusnes yn Duke Street, Caerdydd, yn 1866, i William Lewis (bu farw 1918), sylfaenydd y ffyrm sydd yn argraffu'r Bywgraffiadur presennol.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.