Ganwyd yn Oxford Street, Aberdâr, Morgannwg, 15 Mai 1865 yn ôl WWP; ni chofnodir geni plentyn o'r enw hwn ar y dyddiad hwnnw yng nghofrestr swyddfa gofrestru Pontypridd, ond cofnodir geni James Jones, mab Jane Jones, Harriet Street, Trecynon, ar Fai 14, a dichon i gamgymeriad gael ei wneud yn y dyddiad. Thomas Jones, glöwr, oedd ei dad a hanai ei fam o Gwm-twrch; yr oedd yn chwaer i famgu John Dyfnallt Owen. Addysgwyd y bachgen yn ysgol fwrdd y Parc, a adwaenid ar lafar fel ' ysgol y Comin ', ond gadawodd hi yn 11 oed a mynd i ysgol breifat Owen Rees yn Seymour Str., Aberdar. Yn 12 oed dechreuodd brentisiaeth yn swyddfa argraffu Tarian y Gweithiwr. Yn 1884 aeth i argraffdy Jenkin Howell fel cysodydd a darllenwr proflenni, a manteisiodd ar bob cyfle i'w addysgu'i hun. Yn ddiamau y dylanwad mwyaf llesol ar ei fywyd yn y cyfnod hwn oedd Ysgol Sul Capel y Gadlys (B) a'r gweithgareddau crefyddol a diwylliannol a berthynai iddi. Daeth yn ysgrifennydd Undeb Ysgolion Sul Bedyddwyr Aberdâr a'r cylch. Ymddiddorodd mewn cerddoriaeth a bu'n organydd y capel. Denodd y ddrama ei fryd yn gynnar a daeth i enwogrwydd lleol fel actor ac adroddwr. Cymerai ran amlwg mewn gwleidyddiaeth, a phan ffurfiwyd cymdeithas Lafur a Radicalaidd Aberdâr yn 1894 gweithredodd fel ei hysgrifennydd. Ond y profiad a gafodd yn ei grefft argraffu, yn anad dim, a roddodd iddo'r wybodaeth fanwl-gywir o'r iaith Gymraeg ac a'i cymhwysodd at yr yrfa ddisglair a agorodd o'i flaen pan, yn Nhachwedd 1896, y cafodd swydd yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, fel y'i gelwid ar y pryd, fel catalogwr dros dro yn yr adran Gymraeg. Yn ystod y ddwy fl. nesaf bu'n cydweithio â'r llyfrgellydd John Ballinger ar y Catalogue of printed literature in the Welsh department a gyhoeddwyd yn 1898, gwaith a brofodd yn arf anhepgorol i weithwyr ym maes efrydiau Cymreig, ac nas disodlwyd yn llwyr hyd yn hyn. Drwy ei ran yn yr orchest hon y gwnaeth Ifano 'i enw fel llyfryddwr, a phenodwyd ef i ofalu am yr adran gyfeirio yn 1901. Yr oedd ei wybodaeth am Gymru a materion Cymreig yn rhyfeddol. Daeth y casgliadau Cymreig i gyd dan ei ofal arbennig ac adwaenid ef yn gyffredinol fel ' llyfrgellydd Cymraeg Caerdydd ', eithr gomeddwyd y teitl swyddogol iddo. Yr oedd ei gynnyrch llenyddol yn enfawr dros y cyfnod. Ymhlith ei weithiau dylid cynnwys adran lyfryddol y Bible in Wales, a gyhoeddwyd ar y cyd gyda John Ballinger yn 1906; Bibliography of Wales, cyfres o restrau llyfrau a ddaeth allan o bryd i'w gilydd o 1899 i 1912; a'i orchestwaith A history of printing and printers in Wales and Monmouthshire to 1923, a gyhoeddwyd yn 1925, ac a enillodd iddo radd M.A. Prifysgol Cymru er anrh. Cyfrannodd astudiaeth o ' Dan Isaac Davies and the bilingual movement ' i Welsh political and educational leaders in the Victorian era, 1908, a chyhoeddwyd The early history of Nonconformity in Cardiff, 1912, a ' Sir Mathew Cradock and some of his contemporaries ' yn Archæologia Cambrensis, 1919. Ysgrifennodd gofiant W. T. Samuel, ei fywyd a'i lafur yn 1920. Trodd at feirniadaeth lenyddol gydag erthygl ' Llenyddiaeth hanner ola'r ddeunawfed ganrif ' yn Y Geninen, 1902 (Ionawr a Gorffennaf). O 1905 i 1929 bu'n olygydd ' Y golofn Gymreig ' yn y S. Wales Weekly News. Yr oedd hefyd yn llenor creadigol. Yn 1905 cyhoeddwyd Rhys ap Tewdwr Mawr, ei ddrama fuddugol yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor, 1902 - trasiedi mewn 3 act. Cyhoeddodd nifer o gerddi, tonau, erthyglau ac adolygiadau, a rhestrau llyfrau yn y gweisg Cymraeg a Saesneg. Yr oedd yn eisteddfodwr brwd, yn aelod o Orsedd y Beirdd, ac yn amddiffynnwr glew i'w hynafiaeth. O 1901 ymlaen gweithredodd yn aml fel beirniad yn y brifwyl, a bu'n fuddugol ynddi ar farddoniaeth a dramâu yn 1902, 1904, ac 1929. Yr oedd hefyd yn ddarlithydd poblogaidd i gymdeithasau ledled Cymru.
Ymddeolodd ar ddiwedd 1925. Fe'i surwyd ers amser maith gan ddiffyg cydnabod ei dalentau a'i statws yn ddigonol yn y llyfrgell. Yn ôl Dyfnallt, ei nai', siom fwyaf ei fywyd oedd peidio â chael ei wahodd i fod yn llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yr oedd diwydrwydd ac amlochredd y dyn digoleg hwn yn syfrdanol. Cofir amdano fel llyfryddwr Cymreig mwyaf ei oes.
Bu'n briod ddwywaith; (1) â Nellie George, merch Thomas George, ' fineworker ', 20 Ionawr 1901 yn swyddfa gofrestru Castell-nedd; bu hi farw yn 1911, a (2), 1913, â Jessie Mary, ail ferch Thomas a Mary Charles, Havod House, Blaenafon, a fu farw Mehefin 1953. Bu ef farw yn ei gartref ym Mhenarth, 7 Mawrth 1955.
Dyddiad cyhoeddi: 1997
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.