Ganwyd ym Mhontnewynydd, sir Fynwy, 12 Mai 1860, yn fab i Henry Ballinger; bu farw ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, 8 Ionawr 1933.
Derbyniodd John Ballinger elfennau ei addysg mewn ysgol yn Canton, Caerdydd; yna, yn 15 oed, aeth yn gynorthwyydd yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, lle y bu am bum mlynedd nes mynd ei hunan yn llyfrgellydd Doncaster; dychwelodd yn 1884 i fod yn brif lyfrgellydd Caerdydd ac i lwyddo ymhen amser i'w gwneud yn un o brif lyfrgelloedd cyhoeddus y deyrnas. Yn 1908 fe'i penodwyd yn llyfrgellydd cyntaf Llyfrgell Genedlaethol Cymru a oedd i'w hagor yn Aberystwyth y dydd cyntaf o Ionawr 1909.
Fel llyfrgellydd a llyfryddwr yr enwogodd Ballinger ei hun. Er nad oedd yn Gymro o ran iaith, perthyn iddo'r clod o ffurfio llyfrgell Gymreig dda yng Nghaerdydd. Bu'n ffodus i gael gwyr fel James 'Ifano' Jones a'r Athro Thomas Powel i'w helpu a'i gyfarwyddo. Gyda chymorth ' Ifano ' Jones fe drefnodd i gyhoeddi yn 1898 gatalog o lyfrau Cymreig y llyfrgell; gwelir arwyddion o help gwerthfawr ' Ifano ' hefyd yn y pethau a gyhoeddwyd gan neu dros Ballinger ar y Ficer Prichard (1899), gwasg argraffu Trefecca (1905), a The Bible in Wales (1906).
Wedi i Ballinger gael y fath lwyddiant gyda'r gwaith o adeiladu adran Gymreig llyfrgell Caerdydd heb, ar yr un pryd, anghofio gofalu ei bod yn datblygu mewn moddion eraill hefyd, nid rhyfedd i'r llyfrgell newydd yn Aberystwyth lwyddo hefyd o dan ei arolygiaeth.
Yr oedd gan gyfoedion Ballinger ym myd llyfrgelloedd ym Mhrydain air da iddo fel llyfrgellydd a threfnydd; fe'i dewiswyd yn llywydd y Library Association yn 1922. Bu am gyfnod yn gadeirydd Bwrdd Gwasg Prifysgol Cymru, a drefnodd iddo olygu argraffiadau newydd o Rhann o Psalmae Dafydd Brophwyd … 1603, Basilikon Doron … 1604, Y Llyfr Plygain … 1612, Yr Ymarfer o Dduwioldeb … 1630, a Carwr y Cymru … 1631. Paratôdd ragymadrodd i argraffiad newydd (1927) o'r The history of the Gwydir family ; cyhoeddodd Gleanings from a Printer's File yn 1928, a ' Katheryn o Berain ' yn Y Cymmrodor, xl. Bu am gyfnod yn olygydd cylchgrawn Cymdeithas Lyfryddol Cymru. Dyfarnwyd iddo radd M.A. (er anrhydedd) Prifysgol Cymru yn 1909, a chafodd ei wneuthur yn C.B.E. yn 1920 ac yn farchog yn 1930. Yn 1932 derbyniodd fedal Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion am ei wasanaeth i genedl y Cymry ym myd llyfryddiaeth a llenyddiaeth. Priododd yn 1888 Amy, merch Capten D. Boughton, Caerdydd, a bu iddynt dri mab ac un ferch.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.