PRICHARD, RHYS ('Yr Hen Ficer'; 1579? - 1644), clerigwr a bardd

Enw: Rhys Prichard
Ffugenw: Yr Hen Ficer
Dyddiad geni: 1579?
Dyddiad marw: 1644
Plentyn: Samuel Prichard
Rhiant: Dafydd ap Richard ap Dafydd ap Rhys ap Dafydd
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a bardd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: David Gwenallt Jones

Ganwyd yn ôl pob tebyg, yn Llanymddyfri, Sir Gaerfyrddin, a bwriodd Rice Rees yn y rhagymadrodd i'w argraffiad o Canwyll y Cymry, 1841, 'bod lle i feddwl bod ei dad yn berchen cryn feddiannau yn y gymmydogaeth, ac mai ei enw ydoedd Dafydd ap Richard ap Dafydd ap Rhys ap Dafydd,' ond ni ddylid derbyn hyn fel ffaith. Awgrymodd Anthony Wood i'r ficer gael ei addysg fore 'in those parts,' a thybiodd Rice Rees fod yr ymadrodd yn 'ddigon ehang i gynnwys holl Ddeheubarth Cymru,' ond ystyr yr ymadrodd, yn ôl pob tebyg, yw 'yn y cyffiniau.' Awgrymodd Rice Rees mai yn 'Ysgol Ieithadurol Aberhonddu' y cafodd y ficer ei addysg gynnar, ond ni chofiodd fod ysgol ramadeg yng Nghaerfyrddin, ysgol a sefydlwyd gan y frenhines Elisabeth yn 1576, ryw dair blynedd cyn geni'r ficer. Y mae'n wir fod Llanymddyfri yn nes i Aberhonddu na Chaerfyrddin, ond yr oedd hi yn haws yn y cyfnod hwnnw i fyned o Lanymddyfri i Gaerfyrddin; beth bynnag am hynny, y mae'n fwy na thebyg mai yn ysgol ramadeg Gaerfyrddin y cafodd y ficer ei addysg gynnar.

Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, pan oedd tua 18 mlwydd oed. Ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Wittham neu Wytham (Witham), Essex, 26 Ebrill 1602; cafodd ei B.A. y mis Mehefin canlynol, ac ar 6 Awst yn yr un flwyddyn cyflwynwyd iddo ficeriaeth Llanymddyfri gan Anthony Rudd, esgob Tyddewi o 1594 hyd 1614 (ficeriaeth ym mhlwyf Llandingad ydoedd, ac yr oedd yn Llanfair-ar-y-bryn gapeliaeth). Anrhegwyd ef, 19 Tachwedd 1613, gan y brenin â rheithoraeth Llanedi yn esgobaeth Tyddewi, a daliodd y ddwy swydd drwy ganiatâd yr archesgob, 28 Hydref 1613, a'i gadarnhau gan y sêl fawr ar y 29 o'r mis ac oherwydd hynny penodwyd ef yn gaplan i Robert, iarll Essex. Apwyntiwyd ef, 17 Mai 1614, yn ganon yng Ngholeg Aberhonddu gan yr archesgob; cymhellodd y Dr. Laud ef i gymryd ei M.A., a gwnaed ef, 14 Medi 1626, ar ymddiswyddiad Richard Baylie, B.D., o Goleg Sant Ioan, yn ganghellor Tyddewi, ac wedyn yn ganon, ac yr oedd perigloriaeth Llawhaden ynghlwm wrth y swydd. Bu farw tua mis Rhagfyr 1644, a chladdwyd ef ym mynwent yr eglwys.

Yr oedd gan Rhys Prichard fab, Samuel, a phriododd merch i hwnnw, Elizabeth, â Thomas, mab Roger Mainwaring, esgob Tyddewi.

Dechreuwyd argraffu gwaith Rhys Prichard gan gan Stephen Hughes yn, neu cyn 1658. Mae argraffiad 1659 yn dangos mai dyna'r ail waith i'r rhan yma gael ei hargraffu. Cyhoeddwyd argraffiad arall rywbryd tua diwedd 1659 neu yn 1660. Cyhoeddodd Stephen Hughes argraffiad arall yn 1672, ac ar ei ddiwedd 'Y Pedwarydd Ran O Waith Mr. Rees Prichard, Ficer Llanymddyfri yn Shir Gaerfyrddyn,' ac yn 1681 argraffiad cyfan o'i waith: Canwyll y Cymru: Sef, Gwaith Mr. Rees Prichard, gynt Ficcer Llanddyfri, A brintiwyd or blaen yn bedair rhan wedi ei cyssylltu yn un Llyfr .

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.