POWEL, THOMAS (1845 - 1922), ysgolhaig Celteg

Enw: Thomas Powel
Dyddiad geni: 1845
Dyddiad marw: 1922
Priod: Gwenny Elizabeth Powel (née Jones)
Rhiant: Elizabeth Powell (née Rowland)
Rhiant: Thomas Powell
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Celteg
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Henry Lewis

Ganwyd yn Glanirfon, Llanwrtyd, yn 1845, mab Thomas Powell, Llanwrtyd, ac Elizabeth Rowland, Pen-y-bont, Tregaron. Addysgwyd ef yn Llanwrtyd, yn ysgol Llanymddyfri, ac yna (1869) yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd gyda chlod yn yr ieithoedd clasurol yn 1872. Bu'n ail feistr yng Ngholeg Annibynnol Taunton, 1878-80, ac yn bennaeth Coleg Bootle, 1880-3. Yn 1883 apwyntiwyd ef yn ddarlithydd cynorthwyol yn y clasuron yn y Coleg Prifathrofaol newydd yng Nghaerdydd, yn fuan wedyn yn ddarlithydd mewn Celteg, ac yn 1884 yn athro Celteg. Bu'n athro nes iddo ymddiswyddo yn 1918. Bu'n olygydd Y Cymmrodor, 1879-86, a chyfrannodd ei hunan nifer o erthyglau gwerthfawr ar bynciau ieithyddol Cymraeg ac ar lên gwerin, yn ogystal â golygu nifer o destunau Cymraeg Canol, yn arbennig Ystorya de Carolo Magno yn 1883. Golygodd dros Gymdeithas y Cymmrodorion The Gododin of Aneurin Gwawdrydd Thomas Stephens yn 1888. Yn 1896 cyhoeddodd adargraffiad ffacsimile o Psalmau Dafydd yr esgob Morgan, 1588, gyda rhagnodiadau helaeth. Yn 1890 priododd Gwenny Elizabeth, merch y Parch. Samuel Jones, Castellnedd a Phenarth. Bu iddynt un mab.

Ymhlith ei gyfeillion yn Rhydychen yr oedd Griffith Ellis, Bootle, a Llywarch Reynolds, Merthyr. Wedi dod i Gaerdydd, daeth yn aelod gwerthfawr o bwyllgor Llyfrgell Caerdydd, ac y mae ar y ddinas ac ar y coleg ddyled drom iddo am fod ganddynt gasgliadau mor werthfawr o drysorau llenyddol, yn llawysgrifau llyfrau. Yr oedd hefyd o'r dechrau yn aelod o lys y Llyfrgell Genedlaethol, lle y mae bellach yr holl lawysgrifau a rhan helaeth o'r llyfrau prin a gasglasai. Yr oedd yn aelod o'r ' Society for Utilizing the Welsh Language,' ac yn un o'r pwyllgor a ddewiswyd ganddi i baratoi'r adroddiad Welsh Orthography a gyhoeddwyd yn 1893 (a thrachefn yn 1905).

Yr oedd yn wr tal, lluniaidd ac urddasol yr olwg, ei wybodaeth yn eang, ei gymeriad yn hardd a diymffrost. Bregus oedd ei iechyd drwy ei oes, ac fel y dywedodd droeon, bu raid iddo ddewis rhwng ei fyfyrwyr a'i waith ymchwil ei hun. Pe dewisasai yr olaf, mae'n sicr y buasai ei gyfraniad i wybodau Cymraeg a Cheltig yn fawr ac amryddawn a gwerthfawr. Dewisodd yn hytrach ymroi i'w fyfyrwyr, a da y gwyddent hwy faint eu ffawd o hynny. Cydnabuwyd ei wasanaeth i ysgolheictod Cymraeg gan Brifysgol Cymru â gradd D.Litt. 'er anrhydedd' yn 1921 Bu farw yn Aberystwyth, 16 Mai 1922, a chladdwyd ef ym mynwent y dref ddydd Gwener, 19 Mai.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.