REYNOLDS, JONATHAN OWAIN ('Nathan Dyfed'; 1814-1891), awdur ac eisteddfodwr

Enw: Jonathan Owain Reynolds
Ffugenw: Nathan Dyfed
Dyddiad geni: 1814
Dyddiad marw: 1891
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur ac eisteddfodwr
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Edward Ivor Williams

Ganwyd 28 Ebrill 1814 ym mhlwyf Llanwinio, Sir Gaerfyrddin, mab Dafydd a Mary Reynolds. Medrai ddarllen Cymraeg pan oedd yn 5 oed - ei fam wedi ei ddysgu; naw wythnos mewn ysgol ddyddiol oedd yr unig addysg ffurfiol a gafodd. Bu'n was fferm ac wedyn yn gylchwr gyda'i dad, a dilyn y grefft honno ym Merthyr Tydfil hyd ei farw; gadawsai ei gartref i fynd i weithio gerllaw Llanelli a symud i Merthyr yn 1835; yno priododd Martha Reynolds (nad oedd yn berthynas iddo) yn 1842, a bu iddynt naw o blant. Yr oedd iddo ddiddordeb dwfn mewn mudiadau Cymreig. Daeth yn ysgrifennydd Cymdeithas y Cymreigyddion a gyfarfyddai yn nhafarn y White Lion, a bu'n golygu colofnau Cymraeg newyddiaduron wythnosol lleol (e.e. Merthyr Express) am flynyddoedd. Yr oedd yn eisteddfodwr pybyr; enillodd dros 100 o wobrwyon, yn arbennig am englynion a thribannau, gan wneuthur casgliad helaeth o'r pethau hyn. Nodwedd yn ei gyfansoddiadau oedd nifer gormodol o eiriau a aethai allan o arfer. Cyfieithodd rai o ddramâu Shakespeare i'r iaith Gymraeg. Bu farw 17 Gorffennaf 1891 a chladdwyd ef yng nghladdfa Cefncoedycymer.

Ei fab hynaf oedd

LLYWARCH OWAIN REYNOLDS (1843 - 1916), ysgolhaig Celtaidd

Cafodd ei addysg yng ngholeg Llanymddyfri a Choleg Iesu, Rhydychen, lle y graddiodd yn 1875. Cyn hynny yr oedd wedi cael ei rwymo gyda chyfreithwyr; yn ddiweddarach bu'n ymarfer fel cyfreithiwr drosto'i hun, a dyfod yn glerc i gyngor Rhymni. Talai fwy o sylw i astudiaethau Celtaidd nag i'w waith proffesiynol.

Llywarch Reynolds a bioedd 'Llyvvr Hir Llywarch Reynolds' (Merthyr Tydfil MS. 1, sef NLW MS 970E yn awr) sydd yn cynnwys casgliad o farddoniaeth Gymraeg yn llawysgrifen Llewelyn Siôn, Llangewydd; fe'i disgrifir gan J. Gwenogvryn Evans yn Reports on MSS. in the Welsh Language, II, i, 372-94. Heblaw y gyfrol hon daeth 27 cyfrol arall o lawysgrifau Llywarch Reynolds a'i dad i'r Llyfrgell Genedlaethol yn 1916; gweler N.L.W. Handlist of MSS. i, 77-9 (dylid eu hastudio ochr yn ochr â llawysgrifau Thomas Stephens a ddisgrifir ar 66, 71-7, yn yr un gyfrol). Dengys y casgliad llawysgrifau hwn gymaint a wnaeth Llywarch Reynolds dros astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Copïodd lawer o farddoniaeth a rhyddiaith Gymraeg a chyfieithu o'r Almaeneg megis y gwnaeth ei wraig, Elsa Irene Reynolds. Yr oedd Reynolds yn gyfeillgar â Syr John Rhys (gweler e.e. NLW MSS 998C ) ac ysgolheigion Celtaidd eraill. Ef a olygodd i'r wasg y traethawd nodedig (cyhoeddwyd 1893) a ysgrifennodd Stephens ar gyfer eisteddfod Llangollen, 1858, ar Madoc a'r gred (a ddymchwelwyd gan Stephens) iddo ddarganfod America o flaen Christopher Columbus. Y mae cannoedd o lythyrau at Llywarch Reynolds ac at ei dad yn NLW MS 986C a NLW MS 987C . Bu farw 12 Mawrth 1916 yn Brislington, Bryste, a chladdwyd ef yno.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.