RHYS, Syr JOHN (1840 - 1915), ysgolhaig Celtig

Enw: John Rhys
Dyddiad geni: 1840
Dyddiad marw: 1915
Priod: Elspeth Rhŷs (née Hughes-Davies)
Plentyn: Gwladus Rhŷs
Plentyn: Myvanwy Rhŷs
Plentyn: Olwen Rhŷs
Rhiant: Hugh Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: ysgolhaig Celtig
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Ifor Williams

Ganwyd 21 Mehefin 1840 yn Aberceiro, Cwmrheidol, Sir Aberteifi, medd y cofrestrydd swyddogol. Mab ydoedd i Hugh Rees, gweithiwr ar y ffarm lle'r oedd y bwthyn y ganed ef, ond triniai ei dad ychydig o dir ei hun yn ogystal. Addysgwyd ef i ddechrau yn Ysgol Frutanaidd Ponterwyd, ac yna ym Mhenllwyn, mewn ysgol gyffelyb, saith militir i ffwrdd, lle bu'n ddisgybl-athro. Oddi yno aeth i'r Coleg Normal ym Mangor, ac ar derfyn ei gwrs, fe'i penodwyd yn athro ysgol Frutanaidd Rhos-y-bol, Môn. Ymddiddorai mewn ieitheg a hynafiaethau, a daeth i sylw'r canghellor James Williams, Llanfairynghornwy, a Morris Williams ('Nicander'), Amlwch. Dywedir mai un o'r rhain a'i cyflwynodd i Charles Williams, pennaeth Coleg Iesu, Rhydychen, a ffrwyth hynny oedd cael ysgoloriaeth yn y coleg hwnnw, ac ymaelodi yno yn Hydref 1865. Er prinned ei fanteision medrodd ennill gradd dda yn y clasuron (ail ddosbarth yn 'Moderations' a'r dosbarth blaenaf yn 'Lit. Hum.' yn 1869), a dewiswyd ef yn gymrawd o Goleg Merton. Heblaw dilyn y cwrs yn Rhydychen, astudiai yng ngwyliau'r haf ar y Cyfandir, ym Mharis a Heidelberg, ac yn 1870-1 yn Leipzig a Göttingen. Bu yn nosbarthiadau Curtius ac eraill, a sefydlodd ei fryd ar ymchwil ieithegol.

Yn 1871, fodd bynnag, gadawodd yr Almaen, a dychwelodd i Gymru fel arolygydd ysgolion Fflint a Dinbych. Cafodd gyfle, a gwnaeth gyfle, wrth deithio o gwmpas, i astudio'r arysgrifau hynafol ar feini coffa ar hyd a lled Cymru. Erbyn 1874 yr oedd yn barod i roi cyfres o ddarlithiau ar ieitheg Gymreig yng Ngholeg Aberystwyth, a gyhoeddwyd yn 1877 gyda'r teitl, Lectures on Welsh Philology (ail arg., 1879). Dyma ei lyfr cyntaf, ond cyhoeddasai cyn hyn nifer o erthyglau pwysig yn y tair cyfrol cyntaf o'r Revue Celtique ar y glosau yn llawysgrif Luxembourg, ar darddiadau geiriau (lle ceir datganiad o'r ddeddf ieithegol a elwir byth yn 'Rhys's Law,' sef bod 'i' gydsain mewn Celtig yn rhoi 'dd' yn Gymraeg), ac ar ddiflaniad 'p' Arieg yn yr ieithoedd Celtig. Dechreuasai hefyd yn Archæologia Cambrensis ar ei drafodaethau ar yr arysgrifau cynnar, cyfres a barhaodd ar hyd ei oes, heblaw erthyglau ar fenthyciadau i Gymraeg o'r Lladin, Groeg, a Hebraeg. Cyn gynhared â 1865 gwnaethai gyfraniad arbennig i astudiaethau Celtig trwy ei ysgrif ar 'The Passive Verbs of the Latin and the Keltic Languages' (Trans. of the Philological Soc., 1865). Felly, pan sefydlwyd Cadair Geltig yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, yn 1877, nid oedd betrustod nad ef a ddylid ei benodi i'w llenwi. Yr un amser gwnaed ef yn gymrawd anrhydeddus o'r coleg; ac yn 1881 yn gymrawd a thrysorydd. Daliodd swydd trysorydd yno hyd 1895, pryd yr etholwyd ef yn bennaeth y coleg, a bu'n bennaeth o hynny hyd ei farwolaeth ar 17 Rhagfyr 1915. Roedd wedi priodi Elspeth Hughes-Davies (bu farw 1911) o Lanberis ym 1872 a bu iddynt ddwy ferch.

Dyma restr o'i anrhydeddau: urddwyd ef yn farchog, 1907; yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, 1911; Ll.D. Edinburgh, 1893; D.Litt. Cymru, 1902; bathodyn y Cymmrodorion, 1912; cymrawd o'r Academi Brydeinig, 1903. Bu'n aelod o bwyllgor adrannol arglwydd Aberdâr ar addysg Cymru, 1881; ysgrifennydd y comisiwn ar helynt y degwm yng Nghymru, 1887, a'r un ar gau'r tafarnau yng Nghymru ar y Sul, 1889; aelod o'r comisiwn ar y tir yng Nghymru, 1893; ar addysg brifysgol yn Iwerddon, 1901; ar Brifysgol Cymru a'i cholegau, 1907; ar brifysgol genedlaethol i Iwerddon, 1908; a chadeirydd y comisiwn ar gofarwyddion hynafol Cymru. Ef hefyd oedd cadeirydd Cymdeithas Dafydd ab Gwilym, Rhydychen. Yn y cyfryw gynghorau cyflawnodd wasanaeth amhrisiadwy i ddysg, i addysg, ac i ddiwylliant Cymru yn arbennig. Trefnodd yr Academi Brydeinig ddarlith goffa flynyddol, 'The Sir John Rhys Memorial Lecture,' ac yn y gyntaf obonynt cynhwysodd ei ddisgybl, Syr John Morris-Jones, lyfryddiaeth lawn o'i weithiau cyhoeddedig. Yn y cofnod hwn ni ellir ond crybwyll y prif rai o'r rhestr gyfoethog amlweddog honno.

Ei ddiddordeb pennaf oedd ieitheg Geltig, yn arbennig yr hyn a eilw yn ieithyddiaeth Gymreig. Ar bwys ei ddarganfyddiadau lluosog yn y maes hwn medrodd gyfrannu yn hael i hanes cynnar y Celtiaid ym Mhrydain. I hel defnydd crwydrodd ar led yng ngorllewin Ewrop i astudio, mewn maes ac amgueddfa, arysgrifau Celtig, gan dalu sylw neilltuol i'r rhai mewn Ogam yng Nghymru ac Iwerddon. I'w dehongli rhaid oedd iddo o enwau'r duwiau a'r duwiesau lunio chwedloniaeth Geltig gynnar, ac yna olrhain goroesiad honno mewn saga a chwedl Wyddeleg a Chymraeg. Diwedd y daith ymchwil hon oedd casglu llên gwerin y Celt lle bynnag y caffai. Fel y cynyddai ei stôr deuai goleuni newydd iddo yn barhaus ar enwau lleoedd, ffurfiau geiriau, a ffeithiau hanes. Arloeswr oedd, ysgythrwr ffordd mewn coedwigoedd gwyllt. Nid oedd iddo ddinas barhaus mewn damcaniaeth derfynol: rhaid cadw meddwl agored ac ailddamcanu; a thrydydd ddamcanu. Ei rinwedd oedd ei ystwythder a'i barodrwydd i ddysgu - dawn anhepgor yr arloeswr. Hawdd i'r oes arall a elwodd ar ei lafur gyfrif ei rinwedd yn fai a chwyno oherwydd ei ddiffyg pendantrwydd. Profiad pob un, fodd bynnag, a geisiodd efelychu ei ymchwil yw fod ôl ei fwyall ef ym mhob cwr o'r goedwig. Achubodd y blaen ar bawb ym mhob adran o'r maes. Yna trwy help J. Gwenogvryn Evans dechreuodd ar y gwaith o ddarparu testunau cywir o'r llawlysgrifau cynnar, i roi sail gadarn i ysgolheigion a'i dilynai.

Dyma ei brif gynhyrchion o 1877 ymlaen; Celtic Britain, 1882; 'Notes on the Language of Old Welsh Poetry' (Revue Celtique), 1885; Celtic Heathendom (Hibbert Lectures), 1886; Studies in the Arthurian Legend , 1891; Studies in Early Irish History (Brit. Acad.), 1893; Outlines of the Phonology of the Manx Gaelic, 1894; 'Notes on the Hunting of Twrch Trwyth ' (Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion), 1894-5; Celtic Folklore, Welsh and Manx, 1901; Celtae and Galli (Brit. Acad.), 1903; 'The Origin of the Welsh Englyn and Kindred Metres' (Cymm., xviii), 1905; The Celtic Inscriptions of France and Italy (Brit. Acad.), 1906; The Celtic Inscriptions of Cisalpine Gaul (Brit. Acad.), 1913; Gleanings in the Italian Field of Celtic Epigraphy (Brit. Acad.), 1914. Fel golygydd, Pennant's Tours in Wales, 1883. Fel cydolygydd, gyda Dr. Gwenogvryn Evans, The Text of the Mabinogion (Red Book of Hergest), 1887; The Text of the Bruts (Red Book of Hergest), 1890; The Text of the Book of Llan Dav (Gwysaney MS.), 1893; gyda Syr J. Morris-Jones, The Elucidarium, 1894), gyda D. Brynmor-Jones, The Welsh People, 1900.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.