WILLIAMS, CHARLES (1807? - 1877), pennaeth Coleg Iesu, Rhydychen

Enw: Charles Williams
Dyddiad geni: 1807?
Dyddiad marw: 1877
Rhiant: William Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pennaeth Coleg Iesu, Rhydychen
Maes gweithgaredd: Addysg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn y Bontfaen, a'i fedyddio 22 Mehefin 1807, yn drydydd mab William Williams (1765 - 1847), gwr o Ddolgellau a fu am 59 mlynedd yn athro ysgol y Bontfaen. O'r ysgol honno, aeth Charles Williams yn 1823 i Goleg Iesu, Rhydychen, a graddio yn 1827 yn y dosbarth blaenaf yn y clasuron a'r ail mewn mathemateg; bu'n gymrawd o'i goleg o 1829 hyd 1845. Derbyniodd radd M.A. yn 1830, B.D. yn 1837, a D.D. yn 1858. O 1831 hyd 1839 bu'n athro ysgol Rhuthyn. Dychwelodd i'w goleg yn 1839, yn ddarlithydd, athro, a thrysorydd.

Yn 1845 cafodd guradiaeth barhaol Caergybi, a bu yno hyd 1857; fe'i profodd ei hunan yn 'berson plwy' rhagorol; yr oedd yn wr hynod hael, ac yn ddiweddarach byddai heidiau o blant Caergybi yn cael eu gwadd i fwrw'u gwyliau ym mhenaethdy Coleg Iesu. Etholwyd ef yn bennaeth ei goleg yn 1857 - coleg a oedd ers tro maith wedi bod yn y merddwr, ac a oedd bellach yng nghanol helyntion yr ad-drefnu a orchmynnwyd gan Gomisiwn Brenhinol 1852. Daliodd ganoniaeth anrhydeddus ym Mangor o 1857 hyd ei farw.

Disgrifir ef fel 'llywydd doeth a medrus'; nodweddiadol ohono fu iddo gynnig ysgoloriaeth i John Rhys 'on the spot' (gweler y D.N.B., dan Rhys, John) ar ôl sgwrs ag ef.

Yr oedd Williams yn ysgolhaig da, ond yn herwydd pyldra ei olygon (heb sôn am brysurdeb gweinyddol) ni chyhoeddodd nemor ddim. Eto, ymddiddorai mewn pethau Cymreig; yr oedd yn flaenllaw gydag eisteddfod Aberffraw (1849), ac yn 1866 cyhoeddodd lyfryn ar y treigladau, The Rules of the Welsh Initial Changes; cyhoeddodd hefyd gyfrol o bregethau. Bu farw 17 Hydref 1877.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.