BRUCE, HENRY AUSTIN (1815 - 1895), yr Arglwydd Aberdar cyntaf

Enw: Henry Austin Bruce
Dyddiad geni: 1815
Dyddiad marw: 1895
Priod: Nora Bruce (née Napier)
Plentyn: Charles Granville Bruce
Plentyn: William Napier Bruce
Rhiant: Sarah Pryce (née Austin)
Rhiant: John Bruce Pryce
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: yr Arglwydd Aberdar cyntaf
Maes gweithgaredd: Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol; Teuluoedd Brenhinol a Bonheddig
Awdur: James Frederick Rees

Ganwyd yn Duffryn, Aberdâr, 16 Ebrill 1815, yn ail fab John Bruce Pryce a'i wraig Sarah, merch Hugh Williams Austin, rheithor S. Peters, Barbadoes. (Knight oedd cyfenw'r teulu yn wreiddiol; mab oedd tad H. A. Bruce i John Knight, Llanbleddian, a'i wraig Margaret, merch William Bruce, Pontfaen.) Addysgwyd Bruce i gychwyn yn St. Omer ar y Cyfandir, ond yn 12 oed aeth i ysgol ramadeg Abertawe. Fe'i derbyniwyd yn fargyfreithiwr yn 1837 (Lincoln's Inn) a bu'n dilyn y gyfraith am rai blynyddoedd cyn mynd i'r Eidal am ddwy flynedd er lles ei iechyd. Pan ddychwelodd fe'i penodwyd yn ynad cyflog Merthyr Tydfil ac Aberdâr. Yn 1852, fe'i dewiswyd yn ddiwrthwynebiad i ddilyn Syr John Guest, a fuasai farw, yn aelod seneddol dros Ferthyr Tydfil. Dair blynedd yn ddiweddarach fe'i dewiswyd yn un o ymddiriedolwyr gweithydd Dowlais. Wedi iddo fod yn aelod seneddol am tua deng mlynedd bu'n is-ysgrifennydd y Swyddfa Wladol o fis Tachwedd 1862 hyd Ebrill 1864 pryd y daeth yn is-lywydd y 'Committee of Council on Education'; fe'i gwnaethpwyd hefyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor, ac yn un o'r ' Charity Commissioners ' yr un flwyddyn.

Yr oedd wedi dangos ei ddiddordeb ym mater addysg yng Nghymru pan siaradodd ar addysg Cymru, 5 Mai 1862, ac wrth gyflwyno deisebwyr ar y pwnc hwnnw i lywydd ac is-lywydd y Cyfrin Gyngor.

Collodd Bruce ei sedd ym Merthyr Tydfil yn etholiad 1868, ond cafwyd un iddo yn sir Renfrew, Ionawr 1869. Fe'i gwahoddwyd gan W. E. Gladstone i'r Cabinet fel ysgrifennydd y Swyddfa Wladol. Yr oedd y Llywodraeth yn gorfod wynebu llawer o anawsterau; yr oedd Bruce yn gyfrifol am rai ohonynt trwy iddo geisio gwella'r gyfraith ynglyn â gwerthu diodydd meddwol, ac ni wnaeth ei ymdrechion i ddelio â safle gyfreithiol ac awdurdod undebau llafur foddio'r gweithwyr. Pan aildrefnwyd y Cabinet gan Gladstone yn 1873 gwnaethpwyd Bruce yn llywydd y Cyngor Cyfrin ac yn farwn. Dyna ddiwedd ei yrfa wleidyddol, oblegid daeth Llywodraeth Gladstone i ben yn 1874. Bellach yr oedd yr Arglwydd Aberdâr â rhyddid ganddo i dalu sylw i'w ddiddordebau arbennig ei hun, sef cwestiynau cymdeithasol ac addysgol. Yn 1876, fe'i gwnaethpwyd yn F.R.S. Daeth hefyd yn llywydd y Royal Geographical Society a'r Royal Historical Society; yn rhinwedd y cyntaf y gofynnwyd iddo ddod yn bennaeth y Royal Niger Company, ac o 1886 hyd ei farw rhoes sylw manwl i weithrediadau'r cwmni hwnnw yn ei diriogaethau eang yn Affrica.

Yn 1880 dewiswyd ef yn gadeirydd y ' Departmental Committee on Intermediate and Higher Education in Wales and Monmouthshire.' Adroddiad y pwyllgor hwn a fu'n sylfaen i'r weithred seneddol a basiwyd yn 1889 - y 'Welsh Intermediate Education Act'; bu i'r adroddiad hefyd symbylu'r mudiad i gael addysg brifathrofaol yng Nghymru. Pan agorwyd coleg prifathrofaol Caerdydd yn 1883 yr Arglwydd Aberdar a ddewiswyd yn llywydd cyntaf y coleg. Wrth draddodi ei anerchiad agoriadol yn y swydd honno mynegodd ei farn na fyddai fframwaith cynllun addysg yng Nghymru yn gyflawn nes y ceid prifysgol i Gymru; cafodd fyw i weld hyn a'i ddewis yn ganghellor cyntaf y brifysgol honno. Bu farw 25 Chwefror 1895.

Priododd ddwywaith. Ail fab o'r ail briodas ydoedd William Napier Bruce.

Medrai'r Gymraeg, a chyfieithodd rai o gerddi Taliesin ab Iolo ac Owen Gruffydd i'r Saesneg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.