BRUCE, WILLIAM NAPIER (1858 - 1936)

Enw: William Napier Bruce
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1936
Rhiant: Nora Bruce (née Napier)
Rhiant: Henry Austin Bruce
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Addysg; Cyfraith
Awdur: James Frederick Rees

Ail fab yr Arglwydd Aberdâr cyntaf a Nora, ferch Syr William Napier. Ganwyd 18 Ionawr 1858 yn Duffryn, Aberdâr. Cafodd ei addysg yn Harrow a Choleg Balliol, Rhydychen, lle y graddiodd (1880) gydag anrhydedd yn y clasuron. Fe'i derbyniwyd yn fargyfreithiwr (Lincoln's Inn) yn 1883, a thair blynedd yn ddiweddarach cychwynnodd ar ei yrfa hir fel comisiynydd cynorthwyol yn y ' Charity Commission under the Endowed Schools Acts.' Daeth ei ddyletswyddau yn y swydd hon ag ef i adnabyddiaeth drylwyr o broblemau addysg ganolradd yn Lloegr a Chymru; naturiol, felly, ydoedd ei ddewis yn ysgrifennydd y comisiwn ar addysg ganolradd a fu'n casglu tystiolaethau o dan lywyddiaeth James Bryce yn 1894-5; pan oeddid yn trafod manylion y ' Welsh Intermediate Education Act ' (1889), Bruce a gynrychiolai y ' Charity Commission ' mewn cynadleddau gyda gwahanol bwyllgorau addysg Cymru a Mynwy. Pan drosglwyddwyd adran addysg gwaith y ' Charity Commission ' yn 1900 i'r Bwrdd Addysg daeth Bruce yn un o is-ysgrifenyddion y Bwrdd; yn 1903 daeth yn uwch ei safle fel is-ysgrifennydd.

Hyd 1921, pryd yr ymneilltuodd o wasanaeth y Bwrdd, parhaodd i ddylanwadu'n ddwfn ar ddatblygiad addysg ganolradd, yn enwedig yn yr ysgolion a sefydlwyd o dan Ddeddf Addysg 1902. Efe oedd cadeirydd y pwyllgor adrannol ar addysg ganolradd yng Nghymru (1919-20) a wnaeth ei adroddiad yn 1920 ac a gymeradwyodd, ymysg pethau eraill, sefydlu cyngor cenedlaethol yng Nghymru i wneud awgrymiadau ynglŷn ag addysg.

Yr oedd Bruce yn aelod o'r pwyllgor adrannol ar le'r iaith Gymraeg yng nghyfundrefn addysg Cymru (1925-7). Yn 1929 dilynodd yr Arglwydd Kenyon yn ddirprwy-ganghellor Prifysgol Cymru. Efe oedd is-gadeirydd y comisiwn brenhinol ar addysg brifathrofaol yng Nghymru (1916-8), ac felly'n gyfarwydd iawn â phroblemau prifysgol ffederal; llywyddai bob amser yng nghynghorau'r Brifysgol ac yn ei chyfarfodydd cyhoeddus gyda barn ac urddas. Ei ddau gyhoeddiad pwysicaf oedd The Life of General Sir Charles Napier (Llundain, 1885), a Sir A. Henry Layard: Autobiography and Letters (Llundain, 1903). Fe'i gwnaethpwyd yn C.B. yn 1905 ac yn C.H. yn 1935. Bu farw yn Bath, 20 Mawrth 1936.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/