WILLIAMS, TALIESIN ('Taliesin ab Iolo'; 1787 - 1847), bardd ac awdur

Enw: Taliesin Williams
Ffugenw: Taliesin ab Iolo
Dyddiad geni: 1787
Dyddiad marw: 1847
Plentyn: Edward Williams
Rhiant: Edward Williams
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Griffith John Williams

Mab Edward Williams ('Iolo Morganwg'). Fe'i ganwyd yn ôl traddodiad Bro Morgannwg yng ngharchar Caerdydd ar 9 Gorffennaf 1787, a bedyddiwyd ef yn Nhrefflemin 16 Medi. Cafodd ei addysg mewn ysgol yn y Bont-faen, ac yna bu'n gweithio gyda'i dad fel saer maen a thriniwr cerrig beddau. Bu'n cadw ysgol yn Silston (Gileston), a thua 1813 cafodd le fel athro cynorthwyol mewn ysgol a gedwid gan y Parch. David Davis yng Nghastell Nedd. Yn 1816, agorodd ysgol ym Merthyr Tydfil, ac yno y bu hyd ei farwolaeth, 16 Chwefror 1847; claddwyd yn Nhrefflemin. Ychydig a wyddom am ei weithgarwch llenyddol yn ei ieuenctid, ac y mae'n ffaith ddigon rhyfedd mai ychydig o ddiddordeb a gymerai yn hanes a llenyddiaeth Cymru nes iddo ddyfod i gysylltiad a hyrwyddwyr y cymdeithasau taleithiol, a hynny tua 1820. Bu wedi hynny'n ffigur amlwg ym mywyd Cymreig Merthyr Tydfil, yn yr eisteddfodau a gynhelid yno yn ogystal ag yn y rhai a drefnid gan y cymdeithasau taleithiol a chan Gymreigyddion y Fenni. Bu'n cynorthwyo ei dad i gyhoeddi Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain , a ddaeth allan o'r wasg yn 1829. Ef a gafodd lawysgrifau ei dad, a bu wrthi am flynyddoedd yn rhoi trefn arnynt, ac yn eu rhwymo'n gyfrolau. Fe'u hastudiodd yn ofalus, a chasglodd ddetholion ohonynt, casgliad a gyhoeddwyd gan The Welsh MSS. Society yn 1848 o dan y teitl, Iolo Manuscripts. Yn 1838, enillodd wobr yn eisteddfod y Fenni am draethawd ar 'Hynafiaeth ac Awdurdodaeth Coelbren y Beirdd,' traethawd a gyhoeddwyd yn 1840. Llwyddodd i ddarbwyllo'r rhan fwyaf o'i gyfoeswyr nad ffug diweddar mo'r egwyddor 'dderwyddol' hon. Cyhoeddodd ddwy gân Saesneg; sef Cardiff Castle, 1827, a The Doom of Colyn Dolphyn, 1837, gyda nodiadau ar hanes Morgannwg. Y mae ganddo hefyd gerddi Cymraeg, ac enillodd y gadair yn eisteddfod Caerdydd yn 1834 am awdl ar y Derwyddon. Gadawodd draethodau ar ei ôl, a chyhoeddwyd un ohonynt yn 1886, sef Traethawd or Gywreinedd, Hynafiaeth a Hen Bendefigion Glynn Nedd. Nid oes dim camp ar ei waith fel bardd, a chan ei fod yn derbyn popeth a welai yn llawysgrifau ei dad fel gwirionedd na ellid mo'i amau, y mae ei nodiadau hanesiol yn gymharol ddiwerth. Llwyddodd ei dad i gadw ei gyfrinach fawr rhagddo. Dywaid ei gyfoeswyr ei fod yn wr hoffus, siriol, a chyfeillgar, a bu'n hynod lwyddiannus fel ysgolfeistr.

Mab iddo oedd Edward Williams (1826 - 1886).

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.