Ganwyd 10 Chwefror 1826 ym Merthyr Tydfil, mab hynaf Taliesin Williams, mab ' Iolo Morganwg '. Addysgwyd ef yn ysgol ei dad, lle bu am gyfnod yn athro cynorthwyol. Yn 1842 ymadawodd a'r ysgol a chafodd le fel clerc yn swyddfa Cwmni Haearn Dowlais. Yno dysgodd lawer am gynhyrchu haearn, ac yn 1864 symudodd o Ferthyr i fod yn oruchwyliwr masnachdy Cwmni Dowlais yn Llundain. Daeth i gysylltiad agos a phrif feistri haearn y deyrnas, ac yn y flwyddyn ganlynol, 1865, penodwyd ef yn oruchwyliwr cyffredinol dros weithfeydd haearn Bolckow Vaughan ym Middlesbrough. Dan ei gyfarwyddyd ef helaethwyd y cwmni, a phrynwyd ychwaneg o weithfeydd glo yn swydd Durham a hawlfreintiau haearn yn Sbaen. Yn 1879 daeth yn feistr haearn ei hun drwy brynu gweithfeydd haearn Linthorpe, Middlesbrough. Yn 1868 etholwyd ef yn llywydd Cymdeithas Meistri Haearn Gogledd Lloegr. Yr oedd yn un o sylfaenwyr Sefydliad Haearn a Dur Prydain Fawr, a bu'n llywydd iddo. Derbyniodd, ym Mai 1886, fathodyn Bessemer y sefydliad. Cymerodd ran amlwg ym mywyd cyhoeddus Middlesbrough, yn enwedig yn y gwaith o helaethu dociau Middlesbrough, ond trwy gydol ei oes cadwodd mewn cysylltiad agos â Deheudir Cymru hefyd. Yn 1857 bu'n flaenllaw iawn yn y mudiad er hyrwyddo Sefydliad Peirianwyr De Cymru. Bu'n ysgrifennydd iddo o'i gychwyniad hyd at 1864, pryd yr aeth i Lundain, ac etholwyd ef yn llywydd, 1881-3. Cynorthwyodd i gynllunio gweithfeydd dur Cyfarthfa. Manteisiodd y diwydiant lawer ar ei gyfarwyddyd craff yn y cyfnod pan oedd dur yn cymryd lle haearn. Bu farw yn ei gartref, Cleveland Lodge, Middlesbrough, 9 Mehefin 1886. Bu ei ail fab,
ANEURIN WILLIAMS (1859 - 1924), yn aelod seneddol Rhyddfrydol Gwleidyddiaeth a Mudiadau Gwleidyddol
dros Plymouth, N.W. Durham, a Consett. Yr oedd yn awdur gweithiau ar bynciau economegol a gwleidyddol, ac yn awdurdod ar gwestiynau rhannu elw a chyd-bartneriaeth. [ Gweler John, E. T. ]
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.