GRUFFYDD, OWEN (c. 1643 - 1730), bardd a hynafiaethydd

Enw: Owen Gruffydd
Dyddiad geni: c. 1643
Dyddiad marw: 1730
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Griffith Milwyn Griffiths

Ychydig a wyddys yn bendant am ei fywyd cynnar a'i fuchedd; ganwyd ym mhlwyf Llanystumdwy yn Sir Gaernarfon, ac yn ôl pob tebyg treuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn y plwyf hwnnw a'r rhai oddi amgylch. Gwehydd oedd wrth ei alwedigaeth, ac enillodd fri mawr fel bardd. Adnabyddid ef hefyd fel achyddwr.

Cyfansoddodd farddoniaeth i foneddigion y wlad oddi amgylch yn yr hen draddodiad Cymreig, a hefyd ddarnau mwy poblogaidd fel carolau Nadolig. Ceir darnau o'i waith yn Carolau a Dyriau Duwiol, 1696, Blodeu-Gerdd Cymry, 1759, ac yn Gwaith Owen Gruffydd (gol. O. M. Edwards), 1904. Ceir llawer o'i waith mewn llawysgrifau yn yr Amgueddfa Brydeinig a Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn ei henaint collodd ei olwg, ac ysgrifennai ei gyfeillion ei farddoniaeth drosto.

Claddwyd ef ym mynwent Llanystumdwy 6 Rhagfyr 1730. Canwyd marwnad iddo gan William Elias.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.