Plas-y-glyn, Llanfwrog, Môn. Yn ôl David Thomas ('Dafydd Ddu Eryri'), gŵr o Glynnog oedd - Elias ap Richard, Gefail Talhenbont, oedd ei dad, medd J. E. Griffith (Pedigrees). Dywedir mai crydd oedd ar ddechrau ei oes, ac y mae rhestr y tanysgrifwyr i'r Diddanwch teuluaidd , 1763, ac ambell nodyn yn y llawysgrifau (e.e. Wynnstay MS. 7, 105, 131, etc.) yn profi hynny. Bu wedyn yn ffermwr ac yn swyddog tir i deulu Wyn Glynllifon. Priododd Ann Williams 19 Ionawr 1730, fel y dengys llythyr sydd yn Wynnstay MS. 7 (251), ac enwir 10 o blant iddo yn yr achau, yn eu plith y ' William Elias Junior ' y mae ei enw yn Wynnstay MS. 7, ac yn y Diddanwch teuluaidd hefyd. Symudodd i Blas-y-glyn yn 1774, ac yno y bu farw yn 1787, a'i gladdu yn Llanfwrog, 2 Gorffennaf, yn 79 mlwydd oed. Canwyd marwnadau iddo gan Dafydd Ellis, Caergybi, a ' Twm o'r Nant.' Bu'n ddisgybl i Owen Gruffydd - aeth rhai o lawysgrifau hwnnw, fel Llyfr Madryn (NLW MS 799D ), i'w feddiant - a'i gywydd marwnad i'w athro, 6 Rhagfyr 1730, yw ei brif gerdd. Y mae nifer o'i benillion a'i englynion mewn llawysgrifau a fu'n eiddo iddo - e.e. NLW MS 799D , NLW MS 7892B ; Wynnstay MSS. 6 a 7. Bu'n gyfeillgar â Michael Prichard, a bu gohebiaeth rhyngddo a Goronwy Owen.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.