Ganwyd yn Ebrill 1759, mab Thomas a Mary Griffith, Penybont y Waun Fawr. Gwehydd o bandy Glynllifon oedd THOMAS GRIFFITH, ac yr oedd yn gynghorwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac ef a'i fab John, a anwyd 8 Rhagfyr 1748, a ofalai am eu hachos yn y Waun Fawr. Âi'r ddau dros y mynydd i Lanberis hefyd i gadw seiat yn y Llwyn-celyn. (Daeth JOHN THOMAS yn bregethwr gyda'r Methodistiaid, ac wedi iddo symud i fyw i'r Merddyn Coch ar dir Llwyn-celyn ef a ofalai am eu hachos yno. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy a cheir ei hanes yn pregethu gyda Siarl Marc a Thomas Evans y Waun Fawr yn y cyfarfod misol cyntaf yn Llanberis yn 1777. Bu farw yn 1831 yn 82 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Llanberis.)
Cafodd 'Dafydd Ddu' wyth mis o ysgol gyda John Morgan, curad Llanberis. Yno y cyfarfu ag Abraham Williams o'r Cwmglas, a thrwyddo daeth i wybod am farddoniaeth Gymraeg. Cafodd fenthyg llyfrau Cymraeg gan Abraham Williams a thrwyddo ef y cafodd wybod am Ddafydd Elis ('Person Criceth') a fuasai yn gurad yn Llanberis o flaen John Morgan. Cafodd fenthyg copïau Dafydd Elis o waith yr henfeirdd a gwnaeth yntau gasgliad o gywyddau ac englynion allan o'r llawysgrifau a'u rhoi yn y llyfr llawysgrif - 'Golwg ar Parnassus a Helicon.' Ar ôl gadael yr ysgol gweithiai waith gwehydd yn y Waun Fawr ac âi i Gaernarfon i weled 'Robin Ddu yr ail o Fôn' (Robert Hughes), a ddaethai yno wedi colli ei iechyd yn Llundain. Clywodd ganddo am gyfarfodydd y beirdd yn y tafarnau yn Llundain ac yn niwedd y gaeaf 1783-4 canodd 'Dafydd Ddu' gân, 'Gwahoddiad i'r Prydyddion ddyfod i'r Betws bach Noswyl Fair' ar y mesur a elwir Bel Eil March, a daeth 'Hywel Eryri,' William Bifan, 'Sion Caeronwy,' Siân Parri, ac eraill yno, a dyna gychwyn cyfarfodydd y beirdd yn Arfon lle câi 'Dafydd' gyfle i ddysgu rheolau barddoniaeth i'w 'gywion,' fel y gelwir hwynt.
Ar 14 Gorffennaf 1787 rhoes heibio waith gwehydd a dechrau cadw ysgol yn Llanddeiniolen. Aethai yno i ddechrau i weled 'Twm o'r Nant' a'i gyfeillion yn chwarae anterliwd, ac anogwyd ef y pryd hwnnw i roi cynnig ar gadw ysgol, a bu'n dilyn y gorchwyl hwnnw yn Llanddeiniolen, Betws Garmon, Llanystumdwy, Pentraeth, y Waun Fawr, Llanrug, Llanberis, a'r Dolydd Byrion, Llandwrog. O 1807 i 1810 bu'n brysur yn casglu'r defnyddiau ar gyfer ei lyfr, Corff y Gainc, yn teithio i Ddolgellau i wylio ei argraffu, ac yna'n crwydro i Lerpwl a mannau eraill i'w werthu.
Yr oedd 'Dafydd Ddu' a William Williams, Llandegai, yn aelodau gohebol o Gymdeithas y Gwyneddigion a hwy a weithredai dros y gymdeithas honno yng Ngogledd Cymru am gyfnod. Iddynt hwy ill dau yr anfonid eu llyfrau, fel Gwaith Dafydd ab Gwilym, 1789, i'w gwerthu; atynt hwy yr anfonid am ddefnyddiau ar gyfer The Myvyrian Archaiology of Wales , ac ar ôl i 'Dafydd' ennill eu 'tlws' ddwywaith am yr awdl yn Llanelwy a Llanrwst gofynnai'r Gwyneddigion iddo drefnu eu heisteddfodau, megis eisteddfod Penmorfa yn 1795, ac arno ef y disgynnodd llawer o'r gwaith trefnu a beirniadu'r farddoniaeth yn eisteddfod Caernarfon, 1821. Ni chytunai â syniadau rhai o wŷr Llundain am y Chwyldro yn Ffrainc ac ni dderbyniai ddulliau rhyfedd William Owen Pughe o ysgrifennu Cymraeg. Cytunai â hwynt y byddai'n ' fuddiol rhoi ychwaneg o ryddid i feirdd Cymreig,' ond y dylid 'cymryd yn gynnil rhag torri adwy i rimynwyr anurddasol ddyfod i mewn i wladwriaeth awen.' Yr oedd ef yn sicrach awdurdod ar reolau barddoniaeth gaeth na neb yn ei gyfnod, a dywaid Syr John Morris-Jones mai trefniant 'Dafydd Ddu' wedi ei newid gan 'Bardd Nantglyn' (Robert Davies), ac wedi ei ddiwygio, naill ai gan 'Dafydd Ddu' ei hunan neu rywun arall, oedd prif sail yr hyn a sgrifennwyd ar y gynghanedd yn y 19eg ganrif.
Ychydig o'i waith a apeliai at ddarllenwyr heddiw. Gellid nodi ei englynion beddargraff a'i gywydd ar agoriad eisteddfod Caernarfon yn 1821 fel yr enghreifftiau gorau o'i farddoniaeth gaeth, a 'Fy Annwyl Fam fy Hunan,' cyfieithiad o'r gân Saesneg 'My Mother,' fel enghraifft o gyfieithiad a barhaodd yn boblogaidd wedi i'r gân wreiddiol gael ei llwyr anghofio.
Treuliodd y flwyddyn olaf o'i oes yn y Fron Olau, Llanrug, ond crwydrai i weled cyfeillion yn yr ardaloedd cylchynol. Wrth ddychwelyd o Fangor o un o'r teithiau hynny syrthiodd wrth groesi afon Cegin wrth ymyl Bach Riffri a chafwyd ef wedi boddi ar 30 Mawrth 1822. Claddwyd ef ym mynwent Llanfihangel yn Llanrug a rhoes ei gyfeillion gofadail ar ei fedd.
Heblaw Corff y Gainc a gyhoeddodd yn 1810 ymddangosodd llyfryn arall, Arddwriaeth Ymarferol, cyfieithiad o ddau draethawd Saesneg, o'i waith yn 1815. Yr oedd ganddo ran hefyd mewn golygu y cyfnodolyn Greal neu Eurgrawn sef Trysorfa Gwybodaeth, argraffwyd ac ar werth gan T. Roberts, Caernarfon, 1800, gyda 'Ieuan Lleyn' a hefyd gyda'r Parch. P. Bailey Williams, Llanrug, mewn golygu Trysorfa Gwybodaeth neu Eurgrawn Cymraeg, Caernarfon, 1807. Y mae 17 o'i ysgrifau yn y Cylchgrawn Cynmraeg, 1793-4, ac yn eu plith ei 'Traethawd ar ddim,' y cynnig cyntaf i ysgrifennu ysgrif yn Gymraeg ar ddull y 'light essay' Saesneg, a cheir englynion a thraethawd o'i waith yn Geirgrawn (Holywell, 1796).
Brawd iddo oedd
Bedyddiwyd ef 9 Mehefin 1745, yn eglwys Llanbeblig, Sir Gaernarfon. Bu'n swyddog yn nhŷ cyllid Caernarfon, ac yn ysgolfeistr yn Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon. Ar ei farw, daeth ei gasgliad o lawysgrifau i feddiant ei frawd. Ceir gramadeg neu eirlyfr Cymraeg ganddo ef a'i frawd yn NLW MS 21B , yn dwyn y teitl 'Arweinydd i'r Gymraeg.' Bwriadwyd cyhoeddi'r gwaith hwn. Bu farw 22 Rhagfyr 1805, a chladdwyd ef ym Metws Garmon, Sir Gaernarfon, ddydd Nadolig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.