Ganwyd 31 Awst 1736, mab Ellis ac Elizabeth David, Hafod-y-meirch, Dolgellau, Sir Feirionnydd. Addysgwyd yn ysgol Edward Richard yn Ystrad Meurig, ac ymaelododd yn Rhydychen 14 Tachwedd 1763. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, 12 Mawrth 1764, ond gadawodd yno 30 Mehefin yr un flwyddyn. Ordeiniwyd ef yn ddiacon ym Mangor, 22 Gorffennaf 1764, ac yn offeiriad ymhen blwyddyn. Bu'n gurad yn Llanberis, Sir Gaernarfon, Llangeinwen, sir Fôn, Derwen, sir Ddinbych, ac Amlwch, sir Fôn, cyn ei ddyrchafu'n ficer Llanberis, 9 Hydref 1788. Sefydlwyd ef yn ficer Cricieth, 19 Gorffennaf 1789, ac yno y bu hyd ei farw. Claddwyd ef yng Nghricieth 11 Mai 1795.
Ysgrifennodd Ellis farwnadau i Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') ac Edward Richard. Ei wasanaeth pennaf i'w oes, mae'n ddiau, oedd cyfieithu'r llyfrau a ganlyn o'r Saesneg : Gwybodaeth ac Ymarfer o'r Grefedd Gristionogol, Thomas Wilson (Llundain, 1774); Llaw-lyfr o weddiau ar achosion cyffredin, James Merrick (Llundain, 1774 a 1805); a Histori yr Iesu Sanctaidd, William Smith (Trefriw, 1776). Cyfieithodd i'r Gymraeg ar fesur cywydd-deuair-hirion gerdd o waith Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') o dan y teitl ' Y Bugail Edifeiriol sef Cerdd Santaidd … ' a chyhoeddwyd hi yn Blodeu Dyfed, 55. Copïodd hefyd lawer o lawysgrifau Cymraeg sydd heddiw yn rhan o gasgliadau (a) Peniarth , Cwrtmawr , ac N.L.W. yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru; (b) Gwyneddon, yn llyfrgell Coleg y Brifysgol, Bangor; a (c) llyfrgell dinas Caerdydd. Gwnaeth hefyd gopi o Mona Antiqua Restaurata, Henry Rowlands (Dublin, 1723), a'i roi i lyfrgell ei hen ysgol yn Ystrad Meurig.
Dyddiad cyhoeddi: 1953
Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/
Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.
Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.