ROWLANDS, HENRY (1655 - 1723), hynafiaethydd

Enw: Henry Rowlands
Dyddiad geni: 1655
Dyddiad marw: 1723
Rhiant: Magdaline Rowlands (née Wynne)
Rhiant: William Rowlands
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Evan Gilbert Wright

Ganwyd yn Plas Gwyn, Llanedwen, Môn, mab William Rowlands a Magdaline, merch Edward Wynne, Penhesgyn Isa, Llansadwrn. Nid oes gofnodiad iddo dderbyn addysg mewn unrhyw ysgol na choleg a'r dyb yw mai' gartref yr addysgwyd ef. Fe'i hordeiniwyd yn ddiacon 2 Gorffennaf 1682, ac yn offeiriad ymhen pythefnos. Cafodd fywoliaeth Llanfairpwll a Llantysilio yn 1682 a Llanidan ynghyd â Llanedwen, Llanddanielfab, a Llanfair-yn-y-cwmwd yn 1696. Ei waith cyntaf oedd Idea Agriculturae, a sgrifennwyd yn 1704 ond a fu mewn llawysgrif tan 1764. Ceir ynddo hanes cyflwr amaethyddiaeth ym Môn a'r cyfryngau a ddefnyddid i wella'r tir. Ysgrifennodd ei waith nesaf, Antiquitates Parochiales, yn Lladin yn 1710, ond yn y Cambro-Briton (cyf. ii) y cyhoeddwyd y trosiad cyntaf o ran ohono, hyd nes ymddangosodd y cwbl yn Archæologia Cambrensis 1846-9. Bwriad yr awdur oedd cynnwys holl hynafiaethau'r sir, ond rhan yn unig a gwplawyd. Mewn un o'i lythyrau (N.L.W. Plas Gwyn MS. 105) cyfeiria Rowlands at ail argraffiad o'i lyfr ar ffosilau, ond nid oes wybodaeth amdano. Ei brif waith oedd Mona Antiqua Restaurata , a gyhoeddwyd yn Nulyn yn 1723 ac ail argraffiad ohono yn 1766 dan olygiaeth y Dr. Henry Owen. Rhestrir prif hynafiaethau'r ynys a cheisir profi mai ym Môn y bu prif sedd y derwyddon. Ni bu'n ffodus yn ei ymgais i olrhain tarddiad geiriau Cymraeg. Ysgrifennai at Edward Lhuyd, Browne Willis, a hynafiaethwyr blaenllaw eraill, a bu ei ddylanwad yn gryf ar ei gyfoeswyr. Gwir mai gau oedd amryw o'i dybiaethau, ond rhaid cofio mai arloeswr ydoedd. Iddo ef yr ydys yn ddyledus am ddiogelu hanes safleoedd o ddiddordeb hynafiaethol na fuasent yn hysbys onibai am ei ysgrifau. Bu farw 21 Tachwedd 1723.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.