OWEN, HENRY (1716 - 1795), clerigwr, meddyg, ac ysgolhaig

Enw: Henry Owen
Dyddiad geni: 1716
Dyddiad marw: 1795
Rhiant: Jonette Owen
Rhiant: William Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr, meddyg, ac ysgolhaig
Maes gweithgaredd: Crefydd; Meddygaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awduron: Robert Thomas Jenkins, Llewelyn Gwyn Chambers

Ganwyd yn 1716 yn Nyffrydan, tua 3 milltir o Ddolgellau, yn fab i William Owen (a fu farw 1767), cyfreithiwr, a bedyddiwyd 29 Ionawr yn Nolgellau. Enw ei fam oedd Jonet(te). Yn ôl Powys Fadog (vi, 463-72), hanoedd y teulu o'r barwn Lewis Owen. Ail fab oedd Henry Owen; y mab hynaf oedd Lewis Owen (a fu farw 1757), a mab i hwnnw oedd y meddyg Henry Owen (1750 - 1827) o Ddolgellau, a ymbriododd i deulu Oweniaid Tyddyn-y-garreg a'r Llwyn Du, ac a oedd yn Grynwr fel hwythau — ef, yn 1786, a werthodd dir i'r Methodistiaid Calfinaidd i godi eu capel cyntaf yn Nolgellau (R. Owen, Meth. Gorllewin Meirionydd, i, 360).

Addysgwyd Henry Owen yn ysgol Rhuthyn a Choleg Iesu, Rhydychen; ymaelododd yn Rhydychen fis Ebrill 1736 yn 19 oed; graddiodd yn 1739; graddiodd wedyn mewn meddygiaeth yn 1746 (M.D. 1753). Urddwyd ef yn 1746, a bu'n gurad ac yn feddyg yn sir Gaerloyw am dair blynedd; yna rhoes heibio i fod yn feddyg ar gyfrif gwaeledd. Bu'n gaplan i ŵr bonheddig, a rhoes hwnnw iddo yn 1752 reithoraeth Terling yn Essex — yr oedd hefyd yn gurad yn Stoke Newington. Etholwyd ef yn F.R.S. yn 1753. Penodwyd ef yn 1760 yn rheithor S. Olave's, Hart Street, gerllaw Tŵr Llundain (a cherllaw y ‘Navy Office’); ac yn 1775, ac yntau'n gaplan i'r esgob Barrington o Landaf, rhoes yr esgob iddo ficeriaeth Edmonton i'w dal gyda S. Olave's. Bu farw yn Edmonton 14 Hydref 1795. Am ei blant a'i ddisgynyddion, gweler Powys Fadog, loc. cit.

Nid oes unrhyw amheuaeth o'i ddysg — fel mathemategwr, fel ysgolhaig clasurol, fel awdurdod ar feirniadaeth Feiblaidd, Hebraeg, a Groeg. Ond ymddiddorai hefyd mewn hynafiaethau Cymreig, ac yn llawysgrifau Cymreig William Jones. Barnai Syr John Lloyd yn hollol bendant mai ar gam y priodola Llyfryddiaeth y Cymry iddo'r History of Anglesea, 1775 (ond sonia'r Llyfryddiaeth hefyd am argraffiad yn 1748), sy'n cynnwys traethawd ar Owain Glyndŵr gan Thomas Ellis, Dolgellau — awdur yr History, meddai Syr John, oedd John Thomas, Biwmares, a gwir awdur y traethawd oedd Robert Vaughan o'r Hengwrt. Ond Henry Owen a olygodd yr ail arg., 1766, o Mona Antiqua Restaurata Henry Rowlands. Yr oedd yn aelod blaenllaw o'r Cymmrodorion, ac ef a fyddai'n ‘golygu’ papurau a anfonid i'w darllen o flaen y gymdeithas. Sonnir llawer amdano yn llythyrau'r Morysiaid. Yr oedd yn gymydog ac yn gyfaill i Richard Morris — nid na allai Richard gyfeirio'n ddireidus at ei briodas â llances lawer iawn iau nag ef (merch i esgob), ac at farn y gymdogaeth ‘mai rhyw grintach ddiawl ydyw yn ei dŷ, a bod iddo forwyn newydd agos bob wythnos.’ Eto, ato ef y rhedai'r Morysiaid am gynghorion meddygol yn eu mynych ac amryfal anhwylderau. Dyn lled afiach oedd yntau, meddai'r llythyrau — dyn ‘cul’ ei gorff. Cyfeillion eraill iddo oedd Silvanus Bevan a John Evans, Eglwys Cymyn.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/